Part of the debate – Senedd Cymru am 4:46 pm ar 12 Ionawr 2022.
Nid yw anghydraddoldeb iechyd yn newydd yng Nghymru, er bod y pandemig wedi amlygu'r anghydraddoldeb ac wedi gwaethygu'r sefyllfa i lawer o etholwyr sy'n byw yn fy rhanbarth, a adlewyrchir yn y lefel uchel o farwolaethau o COVID yn Rhondda Cynon Taf. Nid dyna sydd wedi creu'r anghydraddoldeb hwn, ac mae'n amlwg y dylid bod wedi gwneud mwy ymhell cyn y pandemig i fynd i'r afael â hyn.
Yn amlwg, nid yw cyni wedi helpu ychwaith. Mae ymchwil yn dangos bod mesurau cyni, sy'n cynnwys lleihau gwariant cymdeithasol a chynyddu trethiant, yn brifo grwpiau difreintiedig fwyaf. Maent yn cynyddu'r risg o ddiweithdra, tlodi, digartrefedd a ffactorau risg economaidd-gymdeithasol eraill, tra'n torri rhaglenni diogelwch cymdeithasol effeithiol sy'n lliniaru risgiau i iechyd.
Mae cyni hefyd yn arwain at ganlyniadau i iechyd a gwasanaethau iechyd. Mae'n effeithio fwyaf ar y rhai sydd eisoes yn agored i niwed, fel y rhai y mae eu cyflogaeth neu eu sefyllfa dai yn ansicr, neu sydd â phroblemau iechyd sy'n bodoli eisoes. Mae'n gysylltiedig ag iechyd meddwl sy'n gwaethygu ac o ganlyniad, â chynnydd yng nghyfraddau hunanladdiad. Ac eto, nid yw hyn yn ganlyniad anochel ar adeg o argyfwng economaidd, fel y gwelwyd o'r ymchwil i'r rhai sy'n ffodus i fyw mewn gwledydd sydd â systemau diogelwch cymdeithasol cryf, megis Gwlad yr Iâ a'r Almaen.
Yn 2015, profodd y DU y cynnydd blynyddol mwyaf yn y gyfradd farwolaethau ers 50 mlynedd, ac mae nifer y marwolaethau yn y DU wedi bod yn codi ers 2011, ar wahân i adferiad yn 2014, ar ôl dirywiad cyson o ddiwedd y 1970au ymlaen, ac mae'r cynnydd hwn wedi bod yn arbennig o fawr ymhlith yr henoed. Ymddengys bod mesurau cyni, yn hytrach na chaledi economaidd fel y cyfryw, wedi chwarae rhan yn y gyfradd farwolaethau gynyddol hon. Mae dadansoddiad sy'n archwilio patrymau newidiol ar draws ardaloedd lleol yn canfod cysylltiad rhwng toriadau i ofal cymdeithasol a chymorth ariannol i bensiynwyr oedrannus a'r cynnydd mewn marwolaethau ymhlith rhai 85 oed a hŷn.
Fel y gwn o fy mhrofiad personol yn cefnogi cymunedau sy'n dal i gael eu heffeithio yn sgil llifogydd dinistriol 2020 o ganlyniad i storm Dennis, mae tywydd eithafol a llifogydd hefyd yn debygol o effeithio'n anghymesur ar y rhai sydd ar incwm isel, y rhai sydd â llai o adnoddau i baratoi ar gyfer llifogydd neu ddigwyddiadau tywydd eithafol eraill, i ymateb iddynt ac i ymadfer yn eu sgil, a'r rhai sy'n llai tebygol o fod wedi'u hyswirio'n llawn yn erbyn difrod i eiddo o dywydd eithafol o'r fath. Mae llwydni lleithder mewn eiddo o ganlyniad i lifogydd yn peri risg sylweddol i iechyd. Fodd bynnag, mae llawer o'r rhai sydd ar incwm isel yn methu fforddio datrys y broblem, sy'n golygu bod nifer yn parhau i wynebu risgiau sylweddol i'w hiechyd oherwydd effeithiau parhaus a chynyddol y newid yn yr hinsawdd.
Fel un o hyrwyddwyr aer glân y Senedd, rwyf hefyd am dynnu sylw at ansawdd aer a sut y mae hyn hefyd yn effeithio'n anghymesur ar y rhai sydd ar incwm isel. Mae'n werth cofio mai plant mewn cartrefi incwm isel sy'n cael eu heffeithio waethaf gan broblemau ansawdd aer. Ar hyn o bryd, mae crynodiadau llygryddion aer yn uwch mewn ardaloedd dan anfantais economaidd-gymdeithasol, sy'n golygu mai'r rhai ar incwm isel sy'n tueddu i gael eu heffeithio waethaf gan broblemau iechyd sy'n gysylltiedig ag ansawdd aer gwael. Rydym wedi clywed mewn cyfraniadau eraill eisoes am y bwlch a'r gwahaniaeth mewn disgwyliad oes rhwng yr ardaloedd lleiaf difreintiedig a mwyaf difreintiedig yng Nghymru, sef 8.9 mlynedd i ddynion a 7.4 mlynedd i fenywod. Ac ymhellach, yn 2019 roedd cyfran y marwolaethau y gellid bod wedi eu hosgoi yng Nghymru yn parhau i fod yn sylweddol uwch yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig, o'i gymharu â'r ardaloedd lleiaf difreintiedig. Cwm Taf sydd â'r disgwyliad oes iach isaf, 61.2 i ddynion a 62.6 i fenywod, o'i gymharu â 67.6 i ddynion a 69.2 i fenywod yn ardal Betsi Cadwaladr. Mae hwnnw'n wahaniaeth amlwg o rhwng chwech a saith mlynedd o fywyd iach i etholwyr sy'n byw yn y rhanbarth rwy'n ei gynrychioli.
Gallwn wneud mwy, mae angen inni wneud mwy i roi diwedd ar anghydraddoldeb iechyd yng Nghymru, a'r hyn rydym yn ei gynnig heddiw yw y dylid dod â chynllun at ei gilydd i fynd i'r afael ag anghydraddoldeb iechyd. Gobeithio y gwnaiff yr Aelodau ar draws y Siambr gefnogi ein cynnig.