Part of the debate – Senedd Cymru am 4:41 pm ar 12 Ionawr 2022.
Mae anghydraddoldeb iechyd wedi bod yn ffenomen hysbys ers dros 50 mlynedd, pan ysgrifennodd Dr Julian Tudor Hart erthygl yn The Lancet ar y ddeddf gofal gwrthgyfartal. Y ddeddf gofal gwrthgyfartal yw'r egwyddor fod argaeledd gofal meddygol neu gymdeithasol da yn tueddu i amrywio'n wrthgyfartal ag angen y boblogaeth a wasanaethir. Dywedodd:
'Yn yr ardaloedd sydd â'r lefel fwyaf o salwch a marwolaethau, mae gan feddygon teulu fwy o waith, rhestrau mwy, llai o gymorth ysbytai, ac maent yn etifeddu traddodiadau ymgynghori mwy aneffeithiol yn glinigol nag yn yr ardaloedd iachaf; ac mae meddygon ysbyty'n ysgwyddo baich achosion trymach gyda llai o staff ac offer, adeiladau mwy hynafol, ac yn dioddef argyfyngau rheolaidd o ran argaeledd gwelyau a staff cyflenwi.'
A yw wedi newid? Fel y dywedodd Frank Dobson pan oedd yn Ysgrifennydd Gwladol dros Iechyd,
'Anghydraddoldeb ym maes iechyd yw'r anghydraddoldeb gwaethaf oll. Nid oes anghydraddoldeb mwy difrifol na gwybod y byddwch yn marw'n gynt oherwydd eich bod yn dlawd.'
Hefyd, ceir graddiant cymdeithasol mewn hyd oes. Mae disgwyliad oes cyfartalog pobl sy'n byw yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig yng Nghymru a Lloegr oddeutu naw mlynedd yn llai na'r rhai mewn ardaloedd mwy cyfoethog i ddynion, a saith mlynedd i fenywod. Gall dynion a menywod sy'n byw yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig ddisgwyl bron i 20 mlynedd yn llai o iechyd. Felly, mae pobl nid yn unig yn marw'n iau ond yn sâl am gyfnod hwy o'u bywydau. Pe bawn i'n byw yn awr yn yr ardal lle roeddwn i'n mynd i'r ysgol, fel dyn dros 60 oed, byddai'r tebygolrwydd y byddwn yn dioddef o afiechyd difrifol dros 50 y cant. Mae bron i hanner y bwlch mewn disgwyliad oes rhwng y ddwy ardal yn ganlyniad i farwolaethau ychwanegol o glefyd y galon, strôc a chanser.
Yn ogystal â disgwyliad oes is, mae llawer o ffactorau risg ymddygiadol yn llawer mwy cyffredin yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig o'u cymharu ag ardaloedd llai difreintiedig. Mae'r anghydraddoldebau iechyd hyn yn seiliedig ar anghydraddoldebau mewn amgylchiadau cymdeithasol ac economaidd sy'n dylanwadu ar iechyd. Ni ellir edrych ar iechyd ar ei ben ei hun. Mae dosbarthiad anghyfartal penderfynyddion cymdeithasol iechyd, megis addysg, tai a chyflogaeth, yn gyrru anghydraddoldeb mewn iechyd corfforol a meddyliol, gan leihau gallu unigolion i atal salwch neu gymryd camau a chael triniaeth pan fydd afiechyd yn digwydd. Ni all pobl fforddio aros adref o'r gwaith pan fyddant yn sâl oherwydd yr effaith y mae'n ei chael ar eu hincwm. Mae hynny'n effeithio'n ddifrifol ar eu disgwyliad oes yn hirdymor, ond mae'n sicr yn effeithio'n wael iawn arnynt yn y tymor byr.
Mae'r anghydraddoldebau hyn yn gymhleth; maent wedi'u gwreiddio mewn cymdeithas. Ond mae modd eu hatal hefyd. Mae dimensiynau anghydraddoldeb yn gymhleth ac yn gorgyffwrdd, fel y mae cynrychioli dimensiynau anghydraddoldeb iechyd sy'n gorgyffwrdd. Mae anghydraddoldebau iechyd fel amddifadedd, incwm isel a thai gwael bob amser wedi golygu iechyd gwaeth, ansawdd bywyd gwaeth a marwolaeth gynnar i lawer o bobl. Mae pandemig COVID-19 wedi amlygu'n glir sut y mae'r anghydraddoldebau hyn sy'n bodoli eisoes a'r rhyng-gysylltiad rhyngddynt, megis hil, rhyw a daearyddiaeth, yn gysylltiedig â risg uwch o fynd yn sâl gyda chlefyd fel COVID-19. Ond byddai'n wir am unrhyw bandemig.
Mae'r cysylltiad rhwng tai gwael ac iechyd gwael wedi'i hen sefydlu. Creodd Clement Attlee weinyddiaeth iechyd a thai o dan Nye Bevan. Yn anffodus i mi, nid oes unrhyw arweinydd Llafur ers hynny wedi llwyddo i uno'r ddau gyda'i gilydd. Mae gan y Blaid Lafur hanes cryf a balch o ddarparu tai cymdeithasol o ansawdd da, ac mae hyn yn arwain at well iechyd i drigolion yr eiddo hyn. Ond mae gennym hefyd bobl sy'n byw mewn llety rhent preifat oer, llaith ac anaddas. A yw'n syndod fod eu hiechyd yn wael a bod llawer o blant yn cael canlyniadau addysgol gwael?
Mae digartrefedd yn effeithio'n enfawr ar iechyd corfforol unigolyn. Mae cysgu ar y stryd yn ei gwneud yn anodd cael cwsg o ansawdd da, cynnal deiet digonol ac iach, cadw'n lân a chael triniaeth feddygol. Nid yw'n syndod fod ymchwil gan Goleg Prifysgol Llundain wedi darganfod bod o leiaf draean o bobl ddigartref wedi marw o gyflyrau y gellid eu trin yn hawdd, a bu farw bron pob un ohonynt yn ifanc.
Mae llawer o astudiaethau wedi canfod cysylltiad uniongyrchol rhwng iechyd da a rhyngweithio â'r amgylchedd naturiol, gyda lefelau is o straen, cyfraddau gordewdra is a gallu gwell i ganolbwyntio. Arwydd arall o dlodi yw anghydraddoldeb iechyd: mae deiet gwael, tai o ansawdd gwael, tai wedi'u gwresogi'n annigonol, diffyg rhyngweithio â'r amgylchedd naturiol, diffyg ymarfer corff, a phryder parhaus am arian yn anochel yn cynhyrchu canlyniadau iechyd heb fod cystal a marwolaethau cynnar.
A gaf fi orffen drwy sôn am boeni am arian? Credaf ei bod yn sioc i'r rhan fwyaf o'r bobl yn y Senedd, ond mae nifer fawr o fy etholwyr yn poeni'n ddyddiol ynglŷn â faint o arian sydd ganddynt a sut y maent yn mynd i dalu eu biliau. Maent yn byw ym mhob rhan o fy etholaeth, ac mewn gwirionedd, rwy'n credu ei fod yn ymwneud â chael gwared ar y straen hwnnw. Rwy'n cofio dweud unwaith, pe bawn i mewn sefyllfa lle na fyddwn yn gwybod sut oeddwn i'n mynd i fwydo fy mhlant, pe na bawn yn gwybod sut oeddwn i'n mynd i dalu fy rhent, byddwn innau hefyd yn ddigalon, ac mae'n ymddangos bod iechyd meddwl yn cael ei yrru gan y ffaith bod pobl yn dlawd. Felly, gadewch inni fynd i'r afael â'r gwir achos, sef tlodi a thai gwael, ac os gallwn ymdrin â'r rheini, gallwn wella iechyd a chanlyniadau iechyd.