7. Dadl Plaid Cymru: Anghydraddoldebau iechyd

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:25 pm ar 12 Ionawr 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 5:25, 12 Ionawr 2022

Diolch yn fawr iawn, Llywydd, a diolch, Weinidog, ac yn wir, diolch i bawb sydd wedi cymryd rhan yn y drafodaeth y prynhawn yma. Does gen i ddim llawer o amser. Dwi'n gwerthfawrogi diolch y Gweinidog inni am ddod â hyn gerbron y Senedd rithiol heddiw, ond dydyn ni ddim yn gwneud hynny oherwydd ein bod ni'n licio siarad am anghydraddoldebau; rydyn ni'n gwneud hyn oherwydd ein bod ni'n credu bod angen gwneud rhywbeth am yr anghydraddoldebau sydd wedi’u gwreiddio mor ddwfn o fewn ein cymdeithas ni yng Nghymru, yn anffodus.