7. Dadl Plaid Cymru: Anghydraddoldebau iechyd

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:07 pm ar 12 Ionawr 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Peredur Owen Griffiths Peredur Owen Griffiths Plaid Cymru 5:07, 12 Ionawr 2022

(Cyfieithwyd)

Mae anghydraddoldebau enfawr yn bodoli o ran cyfoeth ac iechyd yn ein cymdeithas. Nid wyf yn credu y gallai unrhyw un sy'n cymryd rhan yn y ddadl hon honni fel arall, ond byddwn yn falch iawn o fynd â hwy o amgylch rhai o'r cymunedau yn fy rhanbarth i yn Nwyrain De Cymru os oes angen eu hargyhoeddi ymhellach. Mae'r pandemig dros y ddwy flynedd ddiwethaf wedi cynyddu'r gwahaniaethau a oedd eisoes yn bodoli, ac a waethygwyd gan fwy na degawd o gyni San Steffan. Fel y gwelsom yr wythnos hon, gyda newyddion am barti arall yn groes i'r cyfyngiadau symud yn 10, Stryd Downing, mae'n ymddangos bod yr ychydig breintiedig yn byw yn ôl set wahanol o reolau. Mae bwlch mawr hefyd rhwng y cyfoethog a'r rhai sy'n byw mewn tlodi o ran canlyniadau iechyd. Mae Dr Ciarán Humphreys, ymgynghorydd ym maes iechyd y cyhoedd ar benderfynyddion ehangach iechyd yn Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi dweud:

'Mae llawer o amodau yn cyfrannu at y bwlch mewn disgwyliad oes rhwng y cymunedau lleiaf a mwyaf difreintiedig. Mae hyn yn dangos bod rhaid i ni edrych y tu hwnt i esboniadau meddygol syml i'r achosion sylfaenol ac ystyried yr amodau ehangach y mae pobl yn byw ynddynt.'

Gallem wella'r anghydraddoldebau hyn drwy ganolbwyntio mwy ar ymyrraeth gynnar yn y gymuned sy'n gyffredinol ond wedi'i thargedu'n arbennig at y rhai sydd â'r angen mwyaf. Rydym i gyd yn gyfarwydd â'r ôl-groniad ym maes iechyd a grëwyd gan y pandemig, ond os yw mynediad amserol at wasanaethau iechyd sylfaenol yn gwella, gellir lleihau'r angen am ofal ysbyty. Byddai hyn hefyd yn lleihau costau gofal iechyd drwy leihau'r pwysau ar adrannau damweiniau ac achosion brys. Mae pobl ar incwm isel a'r rhai sy'n byw mewn ardaloedd difreintiedig yn aml yn bwyta deiet llai iach ac felly maent yn fwy tebygol o brofi'r canlyniadau iechyd andwyol sy'n gysylltiedig â deiet gwael. Yn anffodus, yn aml nid yw'n hawdd dod o hyd i opsiynau bwyd iach fforddiadwy yn llawer o'n cymunedau. Nododd rhwydwaith tlodi bwyd Cymru yn 2020 fod bod heb ddigon o arian i gyrraedd siopau bwyd fforddiadwy neu gael deiet sy'n gytbwys o ran maeth bellach yn realiti cyffredin i lawer o bobl yng Nghymru. Dyna pam rwy'n falch fod Plaid Cymru wedi sicrhau prydau ysgol am ddim i bob plentyn ysgol gynradd fel rhan o'r cytundeb cydweithio. Bydd diogelwch pryd maethlon gweddus a wnaed gan ddefnyddio cynnyrch lleol ar gyfer pob plentyn ifanc yng Nghymru yn mynd beth o'r ffordd tuag at leihau'r anghydraddoldebau iechyd sy'n gysylltiedig ag arferion bwyta a deiet. 

Rwyf am sôn hefyd am rai rhannau o'n cymdeithas sydd wedi'u hallgáu'n ddigidol. Yn aml, ceir cysylltiad rhwng allgáu digidol a thlodi. Mae hefyd yn gysylltiedig ag oedran, gyda llawer o bobl hŷn yn methu cael mynediad at y rhyngrwyd, am ba reswm bynnag. Mae hyn yn rhywbeth yr ysgrifennais amdano fis Hydref diwethaf ar Ddiwrnod Rhyngwladol Pobl Hŷn y Cenhedloedd Unedig. Gyda chynifer o wasanaethau hanfodol yn cael eu cynnig a'u rhedeg ar-lein erbyn hyn, ni allwn fforddio gadael rhannau mor fawr o gymdeithas wedi'u difreinio gan dechnoleg. Wrth i wasanaethau meddygon teulu symud fwyfwy ar-lein, rwy'n gobeithio y bydd y Llywodraeth yn atgyfnerthu ei hymdrechion i sicrhau na chaiff pobl eu hamddifadu oherwydd eu hoedran neu eu lefelau incwm. 

Yn olaf, hoffwn sôn am ddementia. Fel llefarydd Plaid Cymru ar bobl hŷn, mae hwn yn fater sy'n agos at fy nghalon. Mae hawliau pobl â dementia wedi bod yn y newyddion yn y dyddiau diwethaf hefyd, diolch i fy nghyd-aelod o Blaid Cymru, Liz Saville Roberts. Siaradodd yn angerddol yn Nhŷ'r Cyffredin am yr angen i roi diwedd ar ynysu a gwahanu pobl â dementia mewn cartrefi gofal ac ysbytai. Fel y dywedodd Liz ei hun:

'Mae gan Lywodraeth Cymru destun polisi parchus ar waith gyda'n cynllun gweithredu ar ddementia ar gyfer Cymru 2018-2022. Ond mae bwlch mawr rhwng yr hyn y mae'n ei ddisgrifio a realiti'r hyn sy'n digwydd yn ein hysbytai a'n cartrefi gofal, yng Nghymru a Lloegr fel ei gilydd.'

Dylai fod mwy o ymwybyddiaeth y gall nifer o ffactorau effeithio'n sylweddol ar risg unigolyn o ddatblygu dementia. Mae anghydraddoldebau iechyd wedi dod yn elfen hanfodol wrth inni ddysgu mwy am y potensial i leihau'r posibilrwydd o ddatblygu dementia. Dylai ystyriaeth o anghydraddoldebau iechyd fwydo i mewn i gynlluniau gofal dementia, a lleihau risg o ddementia, a hoffwn glywed gan y Llywodraeth heddiw sut y mae hynny'n digwydd ar hyn o bryd. Diolch yn fawr iawn.