Part of the debate – Senedd Cymru am 6:46 pm ar 18 Ionawr 2022.
Diolch yn fawr, Llywydd. Hoffwn ddiolch yn gyntaf i'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol am ei hagwedd at y materion hyn, y gwaith y mae hi wedi'i wneud ar y Bil hwn, o ran sut y byddai'n effeithio ar Gymru a chymunedau yng Nghymru, ac yn gwahanu ein hystyriaeth heddiw i'r ddau gynnig. Hoffwn gefnogi atal cydsyniad o ran cynnig 2 ac am lawer o'r rhesymau yr ydym ni eisoes wedi'u clywed, Llywydd.
Ac o ran Rhan 4, hoffwn, fel y soniodd Jenny Rathbone, ac fel y mae eraill wedi sôn, ganolbwyntio ar yr effaith ar gymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr yng Nghymru, oherwydd byddai'n effaith ddifrifol iawn yn wir. Gwyddom eisoes fod ffordd o fyw'r bobl hyn, dros nifer o flynyddoedd, wedi'i gwneud yn anodd ac wedi'i herydu gan drefoli graddol, diffyg mannau aros, a diffyg darpariaeth safleoedd angenrheidiol fel y cyfeiriodd Jenny Rathbone ato'n gynharach, unwaith eto. Mae'n brawf o gymdeithas a gwladwriaeth a gwlad, rwy'n meddwl, Llywydd, na ddylem oddef ond annog a hwyluso gwahanol ffyrdd o fyw. Mae gan bobl hawl i fyw'n wahanol, yn wahanol i'r mwyafrif, yn wahanol i'r norm. Dylid parchu a deall hynny a'i hwyluso. Ac nid yw hynny'n wir yng Nghymru ar hyn o bryd, a gwyddom fod gennym ni rywfaint o waith i'w wneud i roi trefn ar ein tŷ ein hunain o ran darparu safleoedd, gyda Llywodraeth Cymru yn gweithio gydag awdurdodau lleol.
Ond gwyddom hefyd y byddai'r ddeddfwriaeth hon, fel y'i cynigiwyd, yn gwneud y sefyllfa honno'n llawer gwaeth. Byddai'n troi pobl Sipsiwn, Roma a Theithwyr yn droseddwyr pan fyddan nhw'n stopio yn rhywle heb ddewis cyfreithiol arall i'w defnyddio yn yr ardal honno, a byddai'n caniatáu i awdurdodau lleol atafaelu eu cartrefi ac atafaelu cerbydau. Felly, byddai hynny'n atal teuluoedd rhag byw fel y maen nhw'n byw ar hyn o bryd a chael to uwch eu pen ar adeg benodol, a byddai'n eu hatal rhag cael y modd i arfer eu bywoliaeth ar adeg benodol. Ac eisoes mae'r teuluoedd hyn yn dioddef cryn anfantais o ran darpariaeth gwasanaethau cyhoeddus, yn economaidd ac yn gymdeithasol, a byddai hynny'n cael ei wneud yn llawer gwaeth gan y mesurau didostur hyn, a fyddai, ar amrantiad, yn caniatáu atafaelu cartrefi a'r modd o ennill bywoliaeth.
Mewn gwirionedd, byddai cyfres ddifrifol iawn o ganlyniadau yn dilyn os caniateir i'r ddeddfwriaeth hon ddod i rym yng Nghymru. A byddai'n mynd yn groes i bolisi Llywodraeth Cymru dros flynyddoedd lawer a deddfwriaeth yr ydym ni wedi'i deddfu yma yng Nghymru drwy'r Cynulliad a'r Senedd. Ac er bod diffygion, fel y dywedais i eisoes, o ran darparu safleoedd, gwyddom fod Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo'n fawr i weithio gydag awdurdodau lleol i unioni'r diffygion hynny, ac y byddai hynny, unwaith eto, yn cael ei wneud yn llawer anoddach pe bai'r deddfiadau hyn yn dod i rym yng Nghymru. Felly, rwy'n llwyr gefnogi safbwynt y Gweinidog a'r rhai sydd wedi gwrthwynebu cynnig 2 yn y ddadl hon heddiw, Llywydd, a gobeithiaf y bydd yr Aelodau'n pleidleisio yn unol â hynny.