Mawrth, 18 Ionawr 2022
Cyfarfu'r Senedd drwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.
Croeso, bawb, i'r Cyfarfod Llawn. Cyn inni ddechrau'r cyfarfod yma o'r Senedd, dwi angen nodi ychydig o bwyntiau. Mae Cyfarfod Llawn a gynhelir drwy gynhadledd fideo, yn unol â Rheolau...
Yr eitem gyntaf, felly, yw'r cwestiynau i'r Prif Weinidog, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Joel James.
1. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o unrhyw sgil-effeithiau negyddol o weithredu'r cynllun gweithredu teithio llesol i Gymru? OQ57458
2. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am weithrediad y berthynas rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU? OQ57472
Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau. Arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yn gyntaf, Andrew R.T. Davies.
4. A wnaiff y Prif Weinidog nodi blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer cefnogi'r sector manwerthu yng Nghwm Cynon? OQ57456
5. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gynnydd tuag at dargedau adeiladu tai Llywodraeth Cymru? OQ57447
6. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i roi cyngor ar ynni i aelwydydd sy'n agored i niwed? OQ57465
7. Pa drafodaethau y mae'r Prif Weinidog wedi'u cynnal gyda Gweinidogion cyfatebol Llywodraeth y DU ynghylch mesurau i leihau cyfraddau heintio COVID-19? OQ57487
8. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddarparu cyllid i fusnesau lletygarwch yr effeithiwyd arnynt gan gyfyngiadau COVID-19 diweddar Llywodraeth Cymru? OQ57448
9. Pa uchelgeisiau sydd gan Lywodraeth Cymru i ehangu prentisiaethau? OQ57483
Ac felly, yr eitem nesaf o fusnes yw'r datganiad a chyhoeddiad busnes, a dwi'n galw ar y Trefnydd i wneud y datganiad hwnnw. Lesley Griffiths.
Yr eitem nesaf felly yw'r datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar COVID-19. A dwi'n galw ar y Gweinidog i wneud ei datganiad—Eluned Morgan.
Yr eitem nesaf yw'r datganiad gan Weinidog yr Economi ar economïau rhanbarthol cryfach. Dwi'n galw ar y Gweinidog i wneud ei ddatganiad. Vaughan Gething.
Yr eitem nesaf y prynhawn nesaf yw'r datganiad gan Ddirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon, a'r Prif Chwip, ar y wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd yn dilyn cyhoeddi 'Y Fasnach mewn...
Eitem 6 sydd nesaf—datganiad gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru: BlasCymru/TasteWales: hyrwyddo bwyd a diod o Gymru i'r byd. Galwaf ar Lesley Griffiths i wneud y datganiad.
Symudwn ymlaen nawr at eitem 7, datganiad gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad ar gymorth cyfreithiol a mynediad at gyfiawnder. Galwaf ar Mick Antoniw i wneud y datganiad.
Felly, eitem 8 sydd nesaf, a honno yw'r Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau'r Dreth Gyngor (Gofynion Rhagnodedig a'r Cynllun Diofyn) (Cymru) (Diwygio) 2022. Dwi'n galw ar y Gweinidog Cyllid a...
Felly, os nad oes neb yn gwrthwynebu'r grwpio hynny, fe fyddaf nawr yn galw ar y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol i gynnig y ddau gynnig—9 a 10. Jane Hutt.
Dyma ni'n cyrraedd y cyfnod pleidleisio, felly, ac mae'r bleidlais gyntaf ar eitem 9, ar y cynnig cydsyniad deddfwriaethol ar Fil yr Heddlu, Troseddu, Dedfrydu a'r Llysoedd, cynnig 1....
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i ddod â swyddi sgiliau uchel i Ddwyrain Casnewydd?
Senedd Cymru (Saesneg: Welsh Parliament) neu'r Senedd yw'r corff datganoledig sy'n cael ei ethol yn ddemocrataidd i drafod polisïau ac sy'n cymeradwyo deddfwriaeth sy'n ymwneud â Chymru. Rhan o'i waith yw dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif. Rhwng mis Mai 1999 a mis Mai 2020, enw'r sefydliad oedd Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Saesneg: National Assembly for Wales). – Wicipedia