Part of the debate – Senedd Cymru am 6:59 pm ar 18 Ionawr 2022.
Dyma ni'n cyrraedd y cyfnod pleidleisio, felly, ac mae'r bleidlais gyntaf ar eitem 9, ar y cynnig cydsyniad deddfwriaethol ar Fil yr Heddlu, Troseddu, Dedfrydu a'r Llysoedd, cynnig 1. A dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig hwnnw a gyflwynwyd yn enw Jane Hutt. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 42, neb yn ymatal, 12 yn erbyn, ac felly mae'r cynnig yna wedi ei gymeradwyo.