Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:22 pm ar 18 Ionawr 2022.
Diolch i'r Aelod am y cwestiwn yna. Llywydd, mae Llywodraeth Cymru wedi gwneud lefelau digynsail o gyllid ar gael i fusnesau Cymru drwy'r pandemig, gan gynnwys y gronfa cadernid economaidd ddiweddaraf o £120 miliwn a phecynnau ardrethi annomestig. Agorwyd cofrestriadau ar gyfer y cymorth ardrethi annomestig yr wythnos diwethaf, ac mae busnesau yng Nghymru eisoes yn derbyn taliadau.