Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:11 pm ar 18 Ionawr 2022.
Mae cyngor o'r fath ar gael i bob aelwyd yng Nghymru drwy ein cynllun Nyth rhaglen Cartrefi Cynnes. Cynigir cyngor a chymorth ychwanegol i aelwydydd agored i niwed mewn ardaloedd sydd yn y perygl mwyaf o dlodi tanwydd drwy ein cynllun treialu gwasanaethau cynghori ar ynni. Mae'r ardaloedd hyn yn cynnwys Gwynedd ac Ynys Mȏn, y ddwy yn rhanbarth yr Aelod ei hun.