Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:15 pm ar 18 Ionawr 2022.
Diolch i Carolyn am godi'r cwestiwn yma. Dwi wir yn cefnogi'r cynnig yma gan Carolyn. Mae angen i systemau a chynlluniau gwahanol weithio fel un i sicrhau bod cymorth yn y tymor byr, fel y cynllun cymorth tanwydd gaeaf, yn helpu unigolion yn y tymor hir drwy fesurau arbed ynni. Mae angen i fesurau tymor byr fynd law yn llaw â mesurau mwy hirdymor.
Un o'r mesurau tymor byr y gall y Ceidwadwyr yn San Steffan gymryd nawr yw torri treth ar werth ar ynni, gan arbed hyd at £100 y flwyddyn i deuluoedd—llawer mwy na cheiniogau, fel y mae Aelodau Senedd y Ceidwadwyr wedi honni yn yr wythnos ddiwethaf. Brif Weinidog, beth yw eich barn chi ar dorri treth ar werth ar ynni? Diolch yn fawr iawn.