Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:27 pm ar 18 Ionawr 2022.
Diolch i Jenny Rathbone am hynna, Llywydd. Rydym ni wedi ymrwymo i ehangu prentisiaethau yng Nghymru yn erbyn ein hymrwymiad yn y rhaglen lywodraethu i greu 125,000 dros dymor y Senedd hon. Byddwn yn canolbwyntio ar brentisiaethau o ansawdd, cefnogi twf swyddi, datgarboneiddio, buddsoddi mewn prosiectau seilwaith, symudedd cymdeithasol a chynyddu sgiliau mewn meysydd galwedigaethol technegol.