2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Part of the debate – Senedd Cymru am 2:31 pm ar 18 Ionawr 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lesley Griffiths Lesley Griffiths Labour 2:31, 18 Ionawr 2022

(Cyfieithwyd)

Diolch, Llywydd. Mae gen i un newid i fusnes yr wythnos hon. Bydd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn gwneud datganiad yn y man i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am COVID-19. Mae'r busnes drafft ar gyfer y tair wythnos eistedd nesaf wedi ei nodi ar y datganiad a'r cyhoeddiad busnes, sydd ar gael ymysg papurau'r cyfarfod sydd ar gael i'r Aelodau'n electronig.