Part of the debate – Senedd Cymru am 2:42 pm ar 18 Ionawr 2022.
Bydd yr Aelod yn ymwybodol o'n hymrwymiad yn y rhaglen lywodraethu sy'n ymwneud ag adeiladu tai. Er fy mod i yn sylweddoli ein bod ni wedi gweld gostyngiad, mae'n amlwg y bydd pandemig COVID wedi cael effaith ar hynny, felly rydym ni yn gobeithio, pan fyddwn ni'n dod allan o'r cyfyngiadau ac yn y blaen, y byddwn ni'n gweld mwy o dai yn cael eu hadeiladu, oherwydd yn amlwg bod hynny wedi cael effaith. Roedd y mater y cododd James Evans â'r Prif Weinidog yn benodol iawn a byddwch chi wedi clywed ateb y Prif Weinidog i'w gwestiwn.