Part of the debate – Senedd Cymru am 3:10 pm ar 18 Ionawr 2022.
Diolch, Llywydd. Rwy'n falch heddiw o roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am y cynnydd a wnaeth y Llywodraeth hon ynghyd â'i phartneriaid i helpu i adeiladu economïau rhanbarthol cryfach ledled Cymru. Yn ystod fy natganiad i, fe fyddaf i'n myfyrio ar yr heriau a wynebwn ni o hyd, yn enwedig yng ngoleuni effaith ymadael â'r Undeb Ewropeaidd a diffyg cynlluniau gan Lywodraeth y DU hyd yn hyn ar gyfer cyllid yn lle'r cyllid oddi wrth yr UE a lleihau anghydraddoldebau ledled y DU.
Fis diwethaf fe gyhoeddais i'r fframweithiau economaidd rhanbarthol ar gyfer pob un o bedwar rhanbarth Cymru. Mae'r rhain yn rhan annatod o'n hymrwymiad ni i fodel datblygu economaidd yn seiliedig ar leoedd sy'n golygu ein bod ni'n adeiladu ar gryfderau unigryw ein rhanbarthau ni ac yn gweithio gyda nhw. Lluniwyd y fframweithiau hyn gyda phartneriaid ym mhob un o'r rhanbarthau, gan gynnwys yr awdurdodau lleol a chyrff rhanbarthol. Maen nhw'n seiliedig ar dystiolaeth a chytundeb, gyda blaenoriaethau clir sy'n cyd-fynd â'n fframwaith ni ar gyfer buddsoddiadau rhanbarthol, y genhadaeth economaidd ac, wrth gwrs, y rhaglen lywodraethu. Mae'r dull aeddfed hwn yn hanfodol i lunio gweledigaeth a rennir gydag amcanion cyffredin i sicrhau Cymru sy'n decach, gwyrddach a mwy llewyrchus. Serch hynny, mae'r gwaith hwn yn parhau i fod yn ddiffygiol iawn ar lefel y DU. Rydym ni'n dal i bryderu nad yw Llywodraeth y DU wedi darparu dull ystyrlon hyd yn hyn o ran sut, ble a pham y caiff arian i olynu cronfeydd yr UE ei ddefnyddio.
Mae ein bargeinion dinesig a thwf ni'n ganolog i gyflawni blaenoriaethau'r fframweithiau yn effeithiol—y cytundebau buddsoddi tair ffordd rhwng Llywodraeth Cymru, Llywodraeth y DU ac awdurdodau lleol a gynlluniwyd i sicrhau twf economaidd rhanbarthol sy'n parhau. Mae'r pedwar cytundeb rhanbarthol ar y gweill erbyn hyn. Roeddwn i'n falch o gymryd rhan yn y gwaith o arwyddo cytundeb terfynol y fargen ar gyfer y canolbarth ar y cyd â Llywodraeth y DU ac awdurdodau lleol Ceredigion a Phowys. Rwy'n arbennig o falch fod y cytundebau hyn yn golygu bod gwaith mewn partneriaeth agos yn digwydd ym mhob rhan o lywodraeth, ac fe ddylen nhw helpu i wella gwasanaethau, hybu sgiliau, a chreu cyfleoedd cyflogaeth sy'n talu'n dda.
Mae Cynghrair Mersi a'r Ddyfrdwy yn y gogledd hefyd yn dangos sut mae cydweithio gwirioneddol yn bosibl ar sail drawsffiniol, gan ddod ag awdurdodau yng ngogledd Cymru ynghyd â phartneriaid y tu draw i'r ffin. Mae hynny'n dangos y gall partneriaeth lwyddiannus gefnogi twf economaidd strategol hefyd. Fe ddylai Cynghrair Mersi a'r Ddyfrdwy allu ategu ac ychwanegu at y gwaith sy'n cael ei wneud gan bob un o'r chwe awdurdod lleol yng ngogledd Cymru yn hytrach na chystadlu a dyblygu'r gwaith sy'n cael ei wneud ganddyn nhw.
Mae fy swyddogion i'n parhau i gefnogi'r cyd-bwyllgorau corfforaethol wrth i ni gwmpasu eu swyddogaethau nhw o ran cyflawni llesiant economaidd, gan gryfhau ymhellach ein model beiddgar ni sy'n seiliedig ar leoedd. Mae gwaith gyda'r Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd ar y gweill hefyd, ac fe fydd hwnnw'n rhoi cyngor pellach i ni wrth i ni ddatblygu ein strwythurau llywodraethu aml-lefel ar gyfer datblygu economaidd cenedlaethol a rhanbarthol yng Nghymru.
Mae hi'n dwy flynedd erbyn hyn ers i'r DU ymadael â'r UE, ac eto nid yw Llywodraeth y DU wedi anrhydeddu ei haml addewidion hi na fyddai Cymru'r un geiniog ar ei cholled, ac, yn fwriadol, fe ddiystyriwyd datganoli yng Nghymru y pleidleisiodd pobl Cymru amdano ddwywaith mewn refferenda. Nid ydym ni ddim callach o hyd o ran sut mae Llywodraeth y DU yn bwriadu lleihau anghydraddoldebau rhanbarthol ledled y DU, a sut y caiff y symiau llai o arian yn lle'r arian oddi wrth yr UE ei rhannu, a beth fydd swyddogaeth y Llywodraethau datganoledig.
Mae colli cannoedd o filiynau o bunnau o gyllid a ddeuai o'r UE yn flaenorol drwy weithrediad y cynlluniau gan Lywodraeth y DU ar gyfer y gronfa ffyniant a rennir yn golygu torri addewidion mewn ffordd uniongyrchol a diamwys. Roedd gan Lywodraeth y DU addewid plaen yn y maniffesto yn etholiad 2019 i roi rhywbeth yn lle a oedd yn cyfateb, o leiaf, i gyfanswm y cyllid oddi wrth yr UE ym mhob gwlad yn y DU. Nid yw'r cynlluniau i wario £2.6 biliwn ledled y DU dros y tair blynedd ariannol nesaf yn cyfateb i'r £375 miliwn a fyddai wedi dod i Gymru bob blwyddyn pe cedwid yr addewidion hynny.
Mae effaith bod â llai o reolaeth dros lai o arian yn dechrau dod i'r amlwg yng Nghymru. Mae llawer o bartneriaid, gan gynnwys Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru, Ffederasiwn Busnesau Bach Cymru, Cydffederasiwn Diwydiant Prydain Cymru, Prifysgolion Cymru a Cholegau Cymru, yn mynegi eu pryderon nhw o ran diffyg eglurder oddi wrth Lywodraeth y DU a'r bylchau mewn cyllido y maen nhw'n eu hwynebu nawr. Mae Llywodraeth Cymru hefyd, wrth gwrs, yn wynebu toriadau ariannol sy'n fygythiad gwirioneddol i gynlluniau ledled Cymru gan gynnwys Busnes Cymru, Banc Datblygu Cymru, arloesi busnes SMARTCymru a phrentisiaethau.
Er bod yr holl bartneriaid yn parhau i fod yn y tywyllwch o ran manylion yr olynydd-gronfa, mae hi'n amlwg o hyd bod Llywodraeth y DU yn parhau i gau Llywodraeth Cymru allan wrth wneud penderfyniadau ar faterion a ddatganolwyd yn bendant ers dros ddau ddegawd. Rydym ni'n dal i bryderu y byddwn ni'n gweld symiau bach o arian yn cael eu dyrannu unwaith eto i brosiectau bach, lleol, gan arwain at ddyblygu a chynnig gwerth gwael am arian. Fe fydd hyn yn golygu hefyd y bydd Llywodraeth y DU yn cipio darnau o'r gronfa hon i gefnogi'r mentrau ehangach a ddewiswyd yn ôl ei mympwy, megis y cynllun rhifedd ar gyfer oedolion, Multiply. Ymgais annoeth, ddryslyd a bwriadol arall i danseilio datganoli yng Nghymru oedd cyhoeddiad y cynllun hwn y llynedd heb unrhyw fewnbwn gennym ni.
Fe fydd gorfodi cynghorau i gystadlu â'i gilydd yn hytrach na defnyddio cyllid sy'n seiliedig ar anghenion yn golygu hefyd y bydd mwy o bobl ar eu colled nag ar eu hennill yng Nghymru, fel dangosodd rownd gyntaf y gronfa codi'r gwastad eisoes. Nid ydym ni'n gwybod cynnwys y meini prawf gwrthrychol yn y cyfnod treialu, os oedd yna rai o gwbl. Chwe awdurdod lleol yn unig a oedd yn llwyddiannus, gyda'r rhan fwyaf o'r cyllid—er syndod, o ystyried yr anghenion a gafodd eu cydnabod yng Nghymru—yn mynd i etholaethau a ddelir gan y Ceidwadwyr.
Nid ydym ni wedi cael bwrw golwg dros Bapur Gwyn drafft Llywodraeth y DU ar godi'r gwastad, heb sôn am gael cyfle i gyfrannu. Fe allai'r papur hwn fod yn fan cychwyn ar gyfer deialog, o leiaf, ac rydym ni'n gobeithio mai felly y bydd hi. Fe ddylai'r Papur Gwyn hwn sicrhau'r cyfleoedd gorau ar gyfer buddsoddi strategol, nid buddsoddiadau ar raddfa fechan a fyddai'n ddiffygiol o ran lleihau anghydraddoldebau rhanbarthol ledled y DU, ac yn wir yma yng Nghymru. Fel mae llawer o Aelodau yma'n gwybod heddiw, yng Nghymru rydym ni wedi symud oddi wrth fuddsoddiadau tameidiog ymhell dros ddegawd yn ôl, ar ôl gwrando ar dystiolaeth ddiamwys gan bartneriaid ac arbenigwyr, gan gynnwys, wrth gwrs, bwyllgorau'r Cynulliad, y cadeiriwyd nifer ohonyn nhw gan aelodau o'r wrthblaid swyddogol.
Mae'r Senedd hon a'n partneriaid ni'n iawn i bryderu am y defnydd o'r pwerau cymorth ariannol yn Neddf Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig 2020 drwy'r cronfeydd hyn a'r bygythiadau cysylltiedig y maen nhw'n eu hachosi i gyllid a datganoli yng Nghymru. Nid yw pobl Cymru wedi rhoi mandad i Lywodraeth y DU herwgipio arian ac amddifadu Cymru o'i gallu i wneud penderfyniadau. Fe fyddai sicrwydd o ran ariannu yn ein galluogi ni i gefnogi'r gwaith o ailadeiladu economi Cymru, a theilwra'r cymorth hwnnw i anghenion Cymru. Mae cynlluniau Llywodraeth y DU hyd yn hyn yn fygythiad uniongyrchol i'r gwaith hwnnw.
Rwy'n gobeithio y bydd Michael Gove, yn rhinwedd ei swydd newydd yn Ysgrifennydd Gwladol dros godi'r gwastad, yn cydnabod difrifoldeb y sefyllfa ac yn trafod y pryderon hyn gyda ni mewn ffordd ystyrlon. Mae'r cydweithio cadarnhaol a welwn ni ynglŷn â bargeinion dinesig a thwf yn dangos bod hynny'n gwbl bosibl, ond mae angen dull gonest ac adeiladol o gydweithio. Os na fydd Llywodraeth y DU yn newid cwrs, fe gaiff cyfleoedd economaidd gwirioneddol i'n rhanbarthau ni eu peryglu, yn ogystal â miloedd o swyddi a sgiliau.
Rydym ni wedi mynegi yn eglur iawn fod ymagwedd Llywodraeth Cymru at lesiant economaidd yn seiliedig ar yr egwyddor bod pobl a lleoedd yn bwysig. Rydym ni'n eiddgar i wireddu ein huchelgais ni o ddarparu gwell swyddi yn nes adref a sicrhau bod manteision twf economaidd yn cael eu profi gyda thegwch ym mhob rhan o Gymru. Rydym ni'n cyd-ddylunio â'n partneriaid ni, ac fe fyddwn ni'n gweithio i gefnogi cryfderau unigryw ein rhanbarthau ni wrth gefnogi twf economaidd sy'n gynhwysol a chynaliadwy. Rydym ni'n parhau i wneud cynnydd o ran creu'r amodau lle bydd mwy o bobl, yn enwedig y rhai sydd dan anfantais, a'n pobl ifanc ni, yn teimlo mwy o hyder o ran cynllunio eu dyfodol nhw yng Nghymru. Mae rhanbarthau cryfach a deinamig wrth hanfod ein hymrwymiad ni i greu economi Gymreig gryfach, decach a gwyrddach. Diolch i chi.