Part of the debate – Senedd Cymru am 3:29 pm ar 18 Ionawr 2022.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwy'n rhannu pryderon y Gweinidog ynghylch Llywodraeth y DU yn gwneud penderfyniadau gwariant mewn meysydd datganoledig, yn enwedig y ffaith ei bod hi'n ymddangos bod y gwariant yn digwydd mewn seddau arbennig a ddelir gan blaid arbennig. Dyma enghraifft arall i ychwanegu at y dystiolaeth gynyddol bod undeboliaeth ffyrnig Llywodraeth y DU yn bygwth ymreolaeth y Senedd.
Gan symud at y datganiad, fe wyddom ni fod yna broblem barhaus yng Nghymru o ran cadw pobl yn ein cymunedau ni—draen dawn, fel y cyfeirir at hynny. Wrth gwrs, nid mater o bobl ifanc yn symud o Gymru i Loegr neu i wledydd eraill yn unig mo hwn; mae hon yn broblem ar lefel ranbarthol hefyd, er enghraifft yr ymfudo o gefn gwlad i'r trefi. Mae'r draen dawn yn amlwg iawn yn ei gwneud hi'n frwydr i gael gwelliant economaidd i ardaloedd. Mae hyn hefyd yn bygwth y mynediad sydd gan y rhanbarthau i sgiliau a thalentau i gyflawni'r cynlluniau o fewn y fframwaith economaidd rhanbarthol. Gan ddefnyddio'r canolbarth yn enghraifft, mae pryderon ynghylch newidiadau demograffig yn y rhanbarth, yn ymwneud yn benodol â phoblogaeth sy'n heneiddio, draen dawn a mudo net. Fe wyddom ni i ostyngiad rhagamcanol yn y boblogaeth o oedran gweithio o tua 16 y cant ddigwydd rhwng 2018 a 2019, ac, ar yr un pryd, fe ddisgwylir y bydd gostyngiad o 3.45 y cant yn yr economi yn y rhanbarth o'i gymharu â chynnydd o 7.4 y cant yn economi'r DU yn ei chyfanrwydd. A wnaiff y Gweinidog amlinellu sut y bydd partneriaethau economaidd rhanbarthol a phrosiectau rhanbarthol yn gweithio ochr yn ochr â'r Warant i Bobl Ifanc, a phrosiectau eraill, i fynd i'r afael â draen dawn? Rwy'n siŵr y byddai'r Gweinidog yn cytuno y bydd cyfleoedd i ennill sgiliau ar gyfer y rhanbarthau hynny yng Nghymru y mae'r draen dawn wedi effeithio arnyn nhw'n hanfodol i'w ffyniant economaidd hirdymor.
Os caf i dynnu sylw'r Gweinidog at ynni, at sero net a thlodi tanwydd yn benodol. Er bod yr holl fframweithiau economaidd rhanbarthol yn codi materion yn ymwneud â newid hinsawdd, ynni gwyrdd, a sero net, nid oes ymrwymiad na sicrwydd gwirioneddol ynddyn nhw y bydd datblygu economaidd sy'n deillio o bartneriaethau rhanbarthol yn helpu i gyrraedd nod sero net Llywodraeth Cymru. Sut mae'r Gweinidog am fonitro datblygiadau yn y rhanbarth yn y dyfodol, tybed, i sicrhau y bydd hyn yn cefnogi twf economaidd gwyrdd, ac yn atal twf economaidd rhag niweidio'r amgylchedd fel gwnaeth cyhyd, a sicrhau bod prosiectau yn y rhanbarthau yn gweithio tuag at ein nodau newid hinsawdd ni.
Rwy'n awyddus i godi mater anghydbwysedd rhwng prosiectau ynni gwyrdd o fewn y rhanbarthau hefyd. Er enghraifft, fframwaith economaidd y gogledd—fe geir pwyslais enfawr ar brosiectau gwyrdd a allai helpu i hybu datblygiad yn y rhanbarth, a hynny'n gwbl briodol. Eto i gyd, gan ddychwelyd at enghraifft y canolbarth, er bod fframwaith y canolbarth, adroddiad ymledol y canolbarth, a chytundeb y fargen derfynol yn nodi bod adnoddau naturiol yn y canolbarth mewn sefyllfa dda i gynhyrchu mathau adnewyddadwy gwyrdd o ynni, nid yw'r fargen dwf yn y canolbarth wedi nodi unrhyw brosiectau ynni yn y rhanbarth ar hyn o bryd, ac nid yw nodau sero net yn ymddangos yn yr amcanion buddsoddi.
Peth mwy digalon hefyd yw clywed na chafodd unrhyw brosiectau ynni eu nodi yn y rhanbarth yng ngoleuni'r argyfwng costau byw a'r tlodi tanwydd cyffredin sy'n bodoli yn rhanbarth y canolbarth. Mae 17 y cant o aelwydydd yng Ngheredigion a 14 y cant ym Mhowys yn byw mewn tlodi tanwydd. Yn y cyfamser, yn fy rhanbarth i yng Ngorllewin De Cymru, fe amcangyfrifir bod 8 y cant yn byw mewn tlodi tanwydd ym Mhen-y-bont ar Ogwr, 10 y cant yn Abertawe, ac 11 y cant yng Nghastell-nedd Port Talbot. Fe wyddom ni fod y cynnydd mewn prisiau ynni a ddisgwylir ym mis Ebrill 2022 eleni, yn ogystal â chynnydd blaenorol, yn effeithio yn anghymesur ar rai rhanbarthau yng Nghymru, fel ardaloedd gwledig, llai cysylltiedig yn fwy nag ardaloedd eraill. O ystyried hyn, fe hoffwn i gael gwybod gan y Gweinidog: sut mae Llywodraeth Cymru am sicrhau y gall pob rhanbarth yng Nghymru elwa ar ddatblygiadau prosiectau ynni gwyrdd gyda'r nod o fod â biliau ynni mwy rhesymol, yn enwedig wrth i ni wynebu argyfwng costau byw, y mae tlodi tanwydd yn rhan ysgogol o'r argyfwng hwnnw?