4. Datganiad gan Weinidog yr Economi: Economïau Rhanbarthol Cryfach

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:56 pm ar 18 Ionawr 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mabon ap Gwynfor Mabon ap Gwynfor Plaid Cymru 3:56, 18 Ionawr 2022

Hynny ydy, mae'r twf economaidd yn ddibynnol ar fuddsoddiad mewn isadeiledd. Mae isadeiledd yn luosogydd economaidd, wedi'r cyfan. Yn ôl yn 2015, dywedodd yr OECD bod yna anghydbwysedd mawr rhanbarthol yn y Deyrnas Gyfunol, ac mae arnaf i ofn bod yna berig i wendidau'r Deyrnas Gyfunol gael eu hadlewyrchu yma yng Nghymru. Er enghraifft, mae ardaloedd gwledig yn parhau i ddioddef o ddiffyg darpariaeth o fand eang a rhwydwaith ffonau symudol, yn ogystal â gwendidau isadeiledd eraill. Ydy'r Gweinidog felly'n cytuno bod angen sicrhau bod yna fuddsoddiad sylweddol yn ein hisadeiledd er mwyn gweld twf economaidd cytbwys ym mhob rhanbarth o Gymru? Ac yn olaf, ydy'r Gweinidog yn cytuno y dylid cefnogi datblygu mentrau cydweithredol a pherchnogaeth cymunedol ar adnoddau lleol er mwyn cloi pres i mewn i'r economi leol ac atal yr economi echdynnol, gan sicrhau swyddi yn lleol? Diolch.