Part of the debate – Senedd Cymru am 5:14 pm ar 18 Ionawr 2022.
Diolch, Llywydd. Mae eleni yn nodi 10 mlynedd ers cyfres o doriadau llym ac annheg i gymorth cyfreithiol gan Lywodraeth y Ceidwadwyr a Democratiaid Rhyddfrydol. Cafodd y toriadau eu gwneud drwy Ddeddf Cymorth Cyfreithiol, Dedfrydu a Chosbi Troseddwyr 2012. Ar y pryd, dywedodd y Gweinidog cyfiawnder, Jonathan Djanogly, y byddai'r Ddeddf yn gwneud costau cyfreithiol yn fwy teg. Ond, erbyn hyn, mae'n amlwg bod y toriadau wedi gwneud y gwrthwyneb yn llwyr.