1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi – Senedd Cymru ar 19 Ionawr 2022.
1. Sut y bydd Llywodraeth Cymru yn defnyddio datblygu economaidd i fynd i'r afael â'r argyfwng costau byw DU gyfan yng Nghymru? OQ57477
Diolch am eich cwestiwn. Mae ein cenhadaeth economaidd, ochr yn ochr â’n strategaeth cyflogadwyedd sydd ar y ffordd, yn nodi ein polisïau i gynyddu sgiliau, cynhyrchiant ac enillion i helpu i godi safonau byw yma yng Nghymru. Llywodraeth y DU sy’n gyfrifol am lawer o’r ysgogiadau allweddol a mynd i'r afael â'r argyfwng costau byw wrth gwrs, ond mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi cyhoeddi cronfa gymorth i aelwydydd gwerth £51 miliwn a grant caledi i denantiaid gwerth £10 miliwn, sy’n dangos ymrwymiad Llywodraeth Cymru i gefnogi pobl Cymru.
Diolch am eich ateb, Weinidog. Mae costau byw yn y DU yn cynyddu'n aruthrol. Mae'n destun pryder mai crib y rhewfryn yn unig yw codiadau mewn prisiau ynni gyda'r newyddion heddiw fod chwyddiant wedi cyrraedd y lefel uchaf ers 30 mlynedd, ac yn mynd i ddal i godi. Bydd pwysau ariannol yn dod yn real iawn i lawer iawn o bobl. Bydd miloedd yn rhagor yn cael eu gwthio i fyw mewn tlodi, yn cael eu gorfodi i ddewis rhwng gwresogi neu fwyta. Mae gan Lywodraeth Dorïaidd San Steffan yr holl bwerau a’r cyllid i fynd i’r afael â hyn, ond ar adeg pan ddylent fod yn gwneud popeth a allant i ddiogelu pobl, mae'n well ganddynt ddefnyddio mwy o’u hegni i gynnal eu harweinydd. Rwy’n falch o glywed am y mesurau rydych wedi’u crybwyll yma yng Nghymru, Weinidog, ond mae’n hollbwysig ein bod yn defnyddio pob ysgogiad sydd gennym i helpu’r rheini sydd angen cymorth, o gefnogi cadwyni cyflenwi bwyd lleol i sicrhau bod gan bobl sgiliau a chyfleoedd cyflogaeth. A allwch roi sicrwydd inni y byddwch yn gwneud popeth a allwch i ddiogelu trigolion Gorllewin Casnewydd a Chymru drwy'r cyfnod anodd hwn?
Ie, diolch. Yn sicr, gallaf roi’r sicrwydd hwnnw i chi. Rwy’n poeni’n fawr am fy etholwyr fy hun, fel Aelodau etholaethau a rhanbarthau eraill wrth gwrs, yn enwedig yn sgil y rhybudd llym gan Sefydliad Resolution am drychineb costau byw ym mis Ebrill a fyddai'n effeithio ar dros hanner aelwydydd y wlad. Ac wrth gwrs, cyn y pandemig, roeddem wedi gwneud cynnydd pendant. Felly, amlygodd adroddiad Sefydliad Resolution ym mis Tachwedd 2020 fod Cymru, cyn y pandemig, wedi haneru’r bwlch cyflogaeth gyda’r DU dros y cyfnod datganoli a bod gennym fwy o swyddi yn hanner uchaf y sbectrwm incwm nag yn yr hanner gwaelod. Felly, roeddem eisoes yn gwneud cynnydd.
Wrth gwrs, rydym bellach yn cyflawni nifer o fesurau. Felly, o'r gronfa cefnogi cwmnïau lleol i gefnogi pobl i elwa mwy o'u heconomïau lleol, mae'r gwaith rydym yn ei wneud yn ehangach ar yr economi sylfaenol, ar gadwyni cyflenwi, yn mynd i greu mwy o swyddi yn nes at adref, yn ogystal, wrth gwrs, â’r warant i bobl ifanc a’r strategaeth cyflogadwyedd. Bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i weithredu i geisio diogelu dinasyddion Cymru ac i roi gobaith gwirioneddol i bobl ar gyfer y dyfodol fel y gall pobl gynllunio dyfodol llewyrchus yma yng Nghymru.
Weinidog, yr hyn rydym wedi’i glywed dros yr ychydig wythnosau diwethaf gan Aelodau a chithau yw eich bod yn hoffi grwgnach am Lywodraeth y DU â’r mantra arferol o, 'Nid ydym yn cael digon o arian’, ond y gwir amdani yw eich bod wedi cael mwy o arian nag erioed o'r blaen. Darparodd Llywodraeth y DU ffyrlo i weithwyr yn ystod COVID. Mae Llywodraeth y DU yn cynyddu’r cyflog byw cenedlaethol 6.6 y cant ym mis Ebrill eleni. Y broblem go iawn yma yw bod economi Cymru wedi bod yn methu ers dros 20 mlynedd. Incwm gwario gros aelwydydd Cymru yw'r isaf yn y DU. Collodd Cymru 6 y cant o'i busnesau wrth i fusnesau yn yr Alban a Gogledd Iwerddon gynyddu 10 y cant ac 19 y cant. Gennym ni y mae’r twf gwaethaf mewn gwerth ychwanegol gros o bob un o bedair gwlad y Deyrnas Unedig ers 1999 ac un busnes yn unig sydd gennym yng nghan cwmni'r FTSE. Felly, Weinidog, gyda’r argyfwng costau byw ar y ffordd, ac mae pob un ohonom yn bryderus ynghylch hwnnw, pa ysgogiadau economaidd pellach y gallwch chi a Llywodraeth Cymru eu defnyddio i sicrhau ein bod, yng Nghymru, yn creu economi sgiliau uwch a chyflogau uchel?
Wel, unwaith eto, gwleidydd Ceidwadol arall sydd am wadu bod gan y Llywodraeth Geidwadol unrhyw gyfrifoldeb dros argyfwng costau byw y DU. Nid yw’r ffigurau chwyddiant uchaf ers bron 30 mlynedd yn faterion sydd yn nwylo Llywodraeth Cymru. Byddai'n rhaid bod gennych safbwynt eithriadol ar faterion i ddweud mai ein cyfrifoldeb uniongyrchol ni yw hynny. Ac fel rydych yn ei gydnabod wrth sôn am ymyriadau fel ffyrlo, sy'n un o'r pethau da y mae Llywodraeth y DU wedi'i wneud yn ystod y pandemig yn fy marn i, Llywodraeth y DU sydd â'r ysgogiadau mwyaf a'r pwerau mwyaf. Gallent ddatrys problemau'n ymwneud â TAW. Gallent ddatrys problemau i gefnogi teuluoedd yn well yn hytrach na dewis mynd ag arian o bocedi'r teuluoedd sydd wedi’u taro galetaf, fel y gwnaethant wrth dorri credyd cynhwysol. Mae pob dewis a wnaed hyd yn hyn wedi gwneud bywyd yn anoddach i bobl gyffredin sy'n gweithio, a chredaf ei bod yn hen bryd i Lywodraeth y DU edrych eto ar yr hyn y gallai ac y dylai ei wneud. Ac fe’ch atgoffaf o’r hyn a ddywedais wrth Jayne Bryant: cyn y pandemig, roedd Cymru wedi haneru’r bwlch cyflogaeth gyda’r DU—mae mwy ar ôl i’w wneud o hyd, ond haneru’r bwlch cyflogaeth—yn ystod y cyfnod datganoli, a mwy o swyddi yn hanner uchaf y sbectrwm incwm nag yn yr hanner isaf. Felly, mae cynnydd gwirioneddol wedi'i wneud ac yn dal i gael ei wneud. Fel y clywsoch gennyf ddoe, gallem wneud cymaint yn rhagor pe baem yn gallu cael arian i fuddsoddi mewn sgiliau yn hytrach na’i fod yn cael ei gymryd oddi wrthym. Nid problem yng Nghymru yn unig yw hon; efallai yr hoffech edrych ar waith craffu Pwyllgor yr Economi yng Nghynulliad Gogledd Iwerddon, a dynnodd sylw at y problemau sydd ganddynt oherwydd y bwlch cyllid sylweddol sydd ganddynt hwythau hefyd o ran sgiliau ac arloesi oherwydd yr addewid a dorrwyd ym maniffesto 2019.
Diolch i'r Gweinidog, ac i Jayne Bryant am ofyn y cwestiwn pwysig yma.
Rwy’n siŵr fod pob un ohonom yn fwyfwy pryderus am y sefyllfa yng Nghymru, ac yn enwedig am y pwysau sy'n wynebu busnesau bach. Mae’r cyfuniad o effeithiau COVID, Brexit, ac erbyn hyn y costau ynni cynyddol, cynnydd mewn yswiriant gwladol a chwyddiant, yn rhoi pwysau aruthrol ar fusnesau bach. Mae ystadegau'r farchnad lafur a gyhoeddwyd heddiw yn dangos bod chwyddiant yn llawer mwy na'r cynnydd mewn cyflogau, gan arwain at ostyngiad mewn cyflogau gwirioneddol. Canfu arolwg yn 2021 gan y Ffederasiwn Busnesau Bach mai costau ynni yw’r pryder mwyaf sy’n wynebu ei aelodau a rhybuddiodd y gallent fod yn fygythiad difrifol i gwmnïau bach. Hoffwn godi dau bwynt. Weinidog, pa gymorth y gellid ei roi i fusnesau i’w galluogi i fuddsoddi mewn mesurau effeithlonrwydd ynni a datgarboneiddio? Mae Democratiaid Rhyddfrydol Cymru wedi cyflwyno cynlluniau ar gyfer cronfa rhyddhad buddsoddi ardrethi busnes, a thybed a ydych wedi rhoi unrhyw ystyriaeth i gyflwyno rhyddhad ariannol tebyg i gynorthwyo busnesau yn ystod yr argyfwng ynni? Diolch.
Diolch. Rwy'n cytuno—mae heriau’r cynnydd mewn costau ynni, gyda chynnydd pellach i ddod, yn ffactor pwysig iawn yn yr effaith ar yr holl nwyddau eraill hefyd, fwy neu lai, felly, bwyd, ac yna’r cynnydd mewn yswiriant gwladol ar ben hynny. Mae’r rheini oll yn cyfrannu at argyfwng gwirioneddol i gartrefi, yn ogystal ag i fusnesau. Ac mae pob un ohonom wedi gweld y sylw rheolaidd bellach yn y rhan fwyaf o'r cyfryngau prif ffrwd i'r argyfwng costau byw yma, sydd ar fin gwaethygu.
Ar eich pwynt ynglŷn â chronfa rhyddhad ardrethi busnes, mae’r Gweinidog cyllid eisoes wedi cyhoeddi rhyddhad ardrethi busnes sylweddol ar gyfer hanner cyntaf y flwyddyn nesaf. Unwaith eto, mae angen inni edrych yn greadigol ar y ddarpariaeth, oherwydd, beth bynnag yw'r honiadau cychwynnol am y setliad cyllideb tair blynedd, nid yw mor hael ag y gallai fod wedi ymddangos yn y penawdau cyntaf. Mewn gwirionedd, bydd gwerth yr arian hwnnw'n llai fyth yn sgil y cynnydd mewn chwyddiant, sydd ar ei uchaf ers bron i 30 mlynedd.
Ac o ran yr hyn rydym yn bwriadu ei wneud i helpu busnesau i newid i ffyrdd o ddefnyddio ynni'n fwy effeithlon, roedd y gronfa fuddsoddi a gyhoeddais cyn i'r pandemig ailymddangos ar ffurf omicron a'r don ddiweddaraf, yn ymwneud yn rhannol â sut y gallwn helpu i fuddsoddi ochr yn ochr â busnesau i wella effeithlonrwydd ynni. Felly, rwy'n awyddus i ddod allan o'r cyfnod hwn yn y pandemig, ac i drafod eto sut y gallwn weithio ochr yn ochr â busnesau a darparu cymelliadau iddynt wneud hynny. Ac mae'n rhan o'r pwynt hwn ynglŷn â rheoli trawsnewid i ddatgarboneiddio ein heconomi. Mae enillion i’w cael o well effeithlonrwydd hefyd, ond bydd angen inni helpu busnesau a theuluoedd drwy’r newid hwnnw.