1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi – Senedd Cymru am 1:45 pm ar 19 Ionawr 2022.
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Yn gyntaf y prynhawn yma, llefarydd y Ceidwadwyr, Paul Davies.
Diolch, Lywydd. Weinidog, croesawodd busnesau ledled Cymru y cyhoeddiad ddydd Gwener gan Lywodraeth Cymru y bydd cyfyngiadau COVID yng Nghymru yn cael eu llacio dros y pythefnos nesaf. Cafodd y cyhoeddiad hwnnw ei groesawu’n arbennig gan fusnesau yn y sector lletygarwch a sector y nos sydd wedi wynebu caledi mawr, nid yn unig dros yr ychydig wythnosau diwethaf, ond drwy gydol y pandemig. Mae'r heriau sy'n wynebu'r sectorau hynny'n dal i fodoli gyda chynaliadwyedd rhai busnesau dan fygythiad o hyd yn ogystal â'r posibilrwydd y bydd swyddi'n cael eu colli. Weinidog, pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi’i wneud o effaith y cyfyngiadau ar y diwydiant lletygarwch a diwydiant y nos yng Nghymru? Pa mor hyderus ydych chi fod y pecyn cymorth presennol gan Lywodraeth Cymru yn ddigon i dalu’r costau y mae busnesau'n eu hwynebu o ganlyniad i’r cyfyngiadau hyn?
O ganlyniad i’r mesurau diogelu, gwyddom nad oedd nifer o sectorau busnes yn gallu masnachu. Ac wrth gwrs, fe'i gwnaethom yn ofynnol i rai busnesau gau, yn ogystal â mynnu bod rhannau eraill o'r sector lletygarwch a oedd ar agor yn gweithredu mewn ffordd wahanol. Dyna pam ein bod wedi darparu’r cymorth y gwnaethom ei ddarparu. Fe wnaethom gyhoeddi’r cymorth hwnnw pan oedd y camau diogelu’n cael eu rhoi ar waith a’u cyhoeddi. Rwyf wedi ymgysylltu’n uniongyrchol â’r sector lletygarwch, gan gynnwys diwydiant y nos, ac maent wedi bod yn onest iawn ynghylch yr heriau y maent yn eu hwynebu a’r effaith uniongyrchol a gânt ar eu busnesau, ar y bobl sy’n rhedeg ac yn rheoli’r busnesau hynny, ac yn wir, ar eu gweithwyr. Mae rhai pobl yn wirioneddol bryderus am y dyfodol, gan ein bod mewn sefyllfa lle mae llawer o fusnesau'n wynebu heriau gyda mynediad at arian parod, yn ogystal â'u gallu i edrych ymlaen at wahanol fath o amgylchedd masnachu. Rwy’n rhoi ystyriaeth ddifrifol i'r pryderon a glywaf yn uniongyrchol a’r ymgysylltiad uniongyrchol gan fy swyddogion. Dyna pam ein bod wedi edrych ar y ffordd y gallwn ei gwneud ychydig yn haws i gael gafael ar y mathau o gymorth sydd gennym, a'i wneud ychydig yn fwy hael. Dyna pam ein bod hefyd yn parhau i weithio gyda'r sector i geisio sicrhau ein bod yn cefnogi busnesau hyfyw wrth i'r amodau masnachu newid, ac wrth i hyder cwsmeriaid newid, gobeithio, ac y bydd pobl yn dod yn ôl i gefnogi busnesau lleol da, y rheini efallai y bydd aelodau iau o garfan oedran wahanol i mi a Mr Davies am eu defnyddio’n fwy rheolaidd, yn ogystal â’r ystod ehangach o fusnesau y gwyddom fod y mesurau angenrheidiol rydym wedi’u rhoi ar waith ar y cam hwn yn y pandemig wedi effeithio’n uniongyrchol arnynt.
Weinidog, wrth inni edrych ymlaen, mae’n bwysig fod Llywodraeth Cymru yn nodi sut yn union y mae’n mynd i gefnogi cynaliadwyedd y sector ar gyfer y dyfodol ar ffurf strategaeth benodol. Fel rhan o’r strategaeth honno, dylai Llywodraeth Cymru edrych ar rai o’r heriau sylfaenol a oedd yn wynebu’r sector cyn y pandemig ac ystyried pa wersi y gall eu dysgu o bandemig COVID, er mwyn sicrhau na chaiff cynaliadwyedd y sector ei fygwth yn y dyfodol. Wrth gwrs, wrth inni gefnu ar y pandemig, mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru ailystyried yr angen am basys COVID, a chadarnhau, fan lleiaf, pa feini prawf y bydd angen eu bodloni cyn eu diddymu. Weinidog, o ystyried bod pasys COVID wedi’u profi’n aneffeithiol ar gyfer cadw clybiau nos a lleoliadau tebyg ar agor, sef holl sail y Llywodraeth, gyda llaw, dros gyflwyno’r pasys hyn yn y lle cyntaf, pa gamau rydych yn eu cymryd bellach i ddiddymu pasys COVID, a llunio atebion a gefnogir gan y diwydiant yn lle hynny i gefnogi'r sector lletygarwch a sector y nos yn y tymor byr a'r tymor canolig?
O ran strategaeth ar gyfer y dyfodol, rydym yn edrych ar yr hyn a allai ddigwydd mewn ystod o sectorau gwahanol. Felly, rydym yn edrych ar strategaeth fanwerthu, ac rydym yn edrych ar y strategaeth—ailedrych arni—ar gyfer yr economi ymwelwyr. Bydd hynny ynddo’i hun yn gwneud gwahaniaeth i amrywiaeth o bobl yn y sector lletygarwch. Mae'r ddau sector yn amlwg yn gysylltiedig iawn. Rwyf hefyd yn gwbl agored i weld a oes angen inni wneud mwy ynghylch y rhan o hynny sy'n ymwneud â digwyddiadau, neu'n wir, economi'r nos yn benodol. Felly, mae gennyf feddwl agored ynglŷn â lle gallwn gael sgwrs ddefnyddiol a chynhyrchiol. Ond rydym yn dechrau o sylfaen dda, gan ein bod yn ymgysylltu'n rheolaidd â phobl sy'n arwain ac yn rhedeg y busnesau hynny, a cheir sgyrsiau gonest ynglŷn â'r heriau yn ogystal â'r ysgogiadau sydd ar gael i ni i'w cefnogi.
Ar ail ran eich cwestiwn ynglŷn â phasys COVID, rwy'n credu bod nifer o'r honiadau a wnaeth yr Aelod yn anghywir. Cyflwynwyd pasys COVID ar y sail fod hon yn ffordd ddefnyddiol o reoli risg ac y byddai'n helpu i gadw busnesau ar agor am fwy o amser, gan y byddai gwneud fel arall, er mwyn rheoli'r sefyllfa iechyd y cyhoedd, wedi arwain at fwy o darfu a'r perygl o gau mewn sectorau. Roedd yn ymwneud ag osgoi cau busnesau a'u cadw ar agor. Nid yw'r ffaith ein bod, serch hynny, wedi gorfod cymryd camau pellach, gan gynnwys y mesurau diweddar, yn golygu bod pasys COVID wedi methu; mae'n dangos cryfder ac effaith ton omicron, yn enwedig, yn trechu pob un o'r mesurau diogelu hynny. Pan welwch y niferoedd arswydus o uchel o achosion a ddigwyddodd, credaf ei bod yn gwbl anghywir ac yn ddadl braidd yn anonest yn ddeallusol i ddweud bod pasys COVID wedi methu am ein bod er hynny wedi gorfod rhoi camau pellach ar waith i ddiogelu iechyd y cyhoedd. Edrychaf ymlaen at weld y cyngor iechyd cyhoeddus ynglŷn â pha bryd na fydd pasys COVID yn fesur cymesur i helpu i ddiogelu iechyd y cyhoedd, ond nid oes unrhyw dystiolaeth hyd yma eu bod wedi cael effaith sylweddol ar broffidioldeb busnesau lle cawsant eu cyflwyno.
Weinidog, y gwir amdani yw bod pasys COVID wedi cael effaith enfawr ar economi’r nos, gyda pheth tystiolaeth yn dangos bod cost gweithredu pasys COVID oddeutu £400 yr wythnos ar gyfartaledd. Byddai hyn yn golygu cost o £20,000 y flwyddyn. Ac ni ddylem anghofio bod y lleoliadau hyn wedi cael eu gorfodi i gau er gwaethaf yr addewid y byddai pasys COVID yn eu cadw ar agor. Heddiw, gwneir cais am adolygiad barnwrol ynghylch parhau i gyflwyno pasys COVID yng Nghymru er nad oes unrhyw dystiolaeth eu bod yn cyflawni eu hamcanion.
Weinidog, mae’r sectorau hyn yn hollbwysig i bob un ohonom. Maent yn asedau diwylliannol pwysig sy'n hyrwyddo ac yn codi ymwybyddiaeth o artistiaid a cherddorion newydd. Maent yn cyflogi cryn dipyn o bobl, yn enwedig llawer o bobl ifanc, ac mae lleoliadau lletygarwch yn aml yn asedau cymunedol pwysig. Fodd bynnag, mae’r pandemig hwn wedi bod yn arswydus i'r sector lletygarwch gyda llawer o fusnesau’n brwydro i oroesi ac yn teimlo bod Llywodraethau wedi gwneud tro gwael â hwy.
Mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi ei strategaeth ei hun ar gyfer y sector, yn canolbwyntio ar ailagor, adfer a chadernid, ac mae'n hanfodol bellach fod Llywodraeth Cymru yn gwneud yr un peth ar gyfer y sector yma yng Nghymru. Felly, Weinidog, a allwch ddweud wrthym beth yw cynlluniau hirdymor Llywodraeth Cymru ar gyfer y sectorau hyn ar ôl y pandemig a sut rydych yn hyrwyddo rolau'r sectorau hyn fel hybiau llesiant cymunedol wrth inni gefnu ar y pandemig? A allwch gadarnhau hefyd faint yn union o arian y mae Llywodraeth Cymru wedi’i ddyrannu o’r gyllideb i’w fuddsoddi mewn mesurau cadernid ar gyfer y sectorau hyn yn y dyfodol?
Credaf ichi ofyn tri chwestiwn penodol. Ar y rhan gyntaf, nid wyf yn cytuno â barn yr Aelod ynghylch pasys COVID a’u heffaith. Maent yn fesur sydd wedi ein helpu i gadw sectorau ar agor lle byddem fel arall wedi gorfod cyflwyno mesurau diogelu pellach a fyddai wedi effeithio ar eu gallu i fasnachu. Nid ydym yn mynd i gytuno ar hynny.
Ar ddyfodol y sector, rwy'n obeithiol am ddyfodol y sector, oherwydd rydym yn awyddus i ddod allan o'r cam hwn yn y pandemig, gan fy mod yn edrych ymlaen at weld y pandemig yn rhan o hanes yn hytrach na'r realiti dyddiol y mae Gweinidogion yn dal i orfod ei reoli. Ond yn arbennig, pan ddaw'r gwanwyn a’r haf, pan fo’r amodau yn llawer llai difrifol, gallwch edrych ymlaen at adferiad mewn amrywiaeth o weithgareddau. Fel y dywedais yn gynharach, rydym wedi gweld y ffordd y mae'r economi ymwelwyr wedi gwneud gwahaniaeth mawr iawn, gyda mwy o bobl yn dod i Gymru, mwy o bobl yn mynd i mewn i wahanol fusnesau. Yr her fwyaf i lawer o’r busnesau hynny fu cael digon o staff i ymdopi â’r galw. Mae hynny'n rhan o’r her ynghylch cael marchnad lafur dynnach nad yw’n ymwneud o gwbl â phasys COVID nac yn wir â'r dewisiadau a wnaed gan y Llywodraeth hon. Rwy’n awyddus i gael sgyrsiau gyda’r sector fel nad wyf yn ceisio gorfodi strategaeth arnynt, a strategaeth sy'n gweithio ochr yn ochr â’r gwaith a wnawn gydag ystod o fusnesau eraill. Rydym mewn sefyllfa dda i wneud hynny, fel yr awgrymais eisoes.
O ran dyrannu cyllid yn y dyfodol, y gwir amdani yw, os byddwn yn wynebu argyfwng arall byddwn yn ystyried mesurau cyllido brys pellach. Byddem yn disgwyl i Drysorlys y DU ysgwyddo ei ddyletswydd a gwneud ei waith pe bai'n rhaid i unrhyw ran o'r DU gymryd camau pellach i ddiogelu iechyd y cyhoedd. Fel y gŵyr yr Aelod, mae'r gyllideb ddrafft a gyhoeddwyd gan y Gweinidog cyllid yn nodi ystod eang o fesurau gwario ac yn nodi'n glir ein bod yn defnyddio'r holl adnoddau sydd ar gael i ni i helpu i roi hwb i'r economi ac i gefnogi gwasanaethau cyhoeddus. Edrychaf ymlaen at ddadl lawn ar y gyllideb derfynol.
Llefarydd Plaid Cymru nawr—Luke Fletcher.
Diolch, Lywydd. Gwyddom ar hyn o bryd fod pobl a gweithwyr yng Nghymru yn byw drwy argyfwng costau byw sydd ond yn mynd i waethygu. Mae cyfradd chwyddiant y DU yn 5.4 y cant ar hyn o bryd—y gyfradd uchaf ers 30 mlynedd—a disgwylir i’r cynnydd barhau, gan gyrraedd uchafbwynt o 6 y cant yng ngwanwyn 2022. Mae’r cyfraddau chwyddiant uchel hyn yn sylweddol uwch na thwf cyflogau cyfredol, a oedd oddeutu 4 y cant yn ail hanner 2021. Golyga hyn fod cyflogau gwirioneddol yn gostwng a disgwylir iddynt barhau i ostwng o gymharu â phrisiau. Mewn gwirionedd, nid oes disgwyl i gyflogau dyfu'n sylweddol tan ddiwedd 2022, a hyd yn oed erbyn 2025, bydd cyflogau gwirioneddol bron i £800 yn is nag y byddent wedi bod pe bai twf wedi parhau ar yr un lefel â chyn y pandemig. Mae hyn hefyd yn effeithio’n anghymesur ar bobl ar incwm isel, gydag incwm bron i draean o aelwydydd incwm isel wedi gostwng ers mis Mai 2021. Crybwyllwyd hyn gan y Gweinidog mewn ateb i gwestiwn blaenorol, ond o ystyried bod gweithwyr yn gweithio'r un faint neu fwy o oriau, o ystyried bod gweithwyr yn ennill llai o arian mewn termau real a bod ganddynt lai o allu i brynu’r hanfodion sydd eu hangen arnynt, a allai’r Gweinidog nodi’r hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i sicrhau bod cyflogau gweithwyr ar yr isafswm cyflog yn cynyddu yn ystod yr argyfwng costau byw hwn?
Mae’r Aelod wedi tynnu sylw at y pwynt fod cyflogau wedi bod yn gostwng mewn termau real, ac mae hwnnw’n bwynt y tynnodd Jayne Bryant sylw ato yn y cwestiwn cyntaf heddiw wrth gwrs—fod cyflogau gwirioneddol wedi gostwng. Mae'r ffigurau yn y dyddiau diwethaf yn peri cryn bryder. Dylai fod yn destun cryn bryder i bob un ohonom. Rwyf wedi tynnu sylw eisoes at rai o'r camau y mae'r Llywodraeth hon wedi eu cymryd mewn meysydd lle credwn y dylai Llywodraeth y DU fod wedi gweithredu ond rydym ni wedi dewis gweithredu i geisio cefnogi teuluoedd. Os caf roi'r enghraifft o £51 miliwn a gyhoeddwyd gan Rebecca Evans a Jane Hutt, dylai'r cymorth rydym yn ei roi i helpu pobl i dalu hyd at £100 o fil tanwydd eu cartref dros y gaeaf helpu oddeutu 350,000 o gartrefi yng Nghymru. Nid yw'n fesur bach; mae'n rhoi cymorth i gryn dipyn o aelwydydd. Felly, rydym yn edrych ar ble mae gennym bwerau a ble mae ein hadnoddau'n ein galluogi i roi cymorth i deuluoedd.
Ar yr isafswm cyflog, rydym wedi dweud yn glir ein bod am i Gymru fod yn economi cyflog uchel. Rydym am weld y cyflog byw yn cael ei fabwysiadu mewn mwy o sectorau. Fe welwch hynny yn y ffordd y gweithiwn drwy'r sector cyhoeddus. Bydd gan y Gweinidog iechyd fwy i’w ddweud, wrth gwrs, am ymrwymiad ein rhaglen lywodraethu i sicrhau'r cyflog byw gwirioneddol yn y sector gofal cymdeithasol. Bydd hynny’n gwneud gwahaniaeth enfawr i sector sy’n cyflogi nifer fawr o fenywod, yn aml mewn swyddi ar gyflogau isel. Ac wrth gwrs, mae hwnnw'n arian sy'n annhebygol o ddiflannu o'r wlad—mae'n arian sy'n debygol o gylchredeg a chael ei wario ar deuluoedd lleol ac ar swyddi lleol hefyd. Felly, rydym yn ceisio chwarae rôl arweiniol yn sicrhau bod cyflogau'n codi, ac yn sicr, rydym am weld cyflogau gweithwyr yn codi gyfuwch â chwyddiant, fan lleiaf. Ond mae pob un o’r pethau hynny dan fygythiad os bydd Trysorlys y DU yn gwrthod gweithredu. Rwy'n gobeithio y gellir datrys y materion eraill sy'n tynnu eu sylw ar ben arall yr M4, fel y gallwn gael Llywodraeth gyfrifol o’r diwedd gydag arweinwyr cyfrifol a gweddus sy’n cydnabod bod yr argyfwng costau byw wedi cyrraedd a bod angen gweithredu i fynd i'r afael ag ef.
Wrth gwrs. Mae llawer o bethau y gellir eu gwneud i fynd i’r afael, yn benodol, â llesiant a chyflogau gweithwyr yn ystod yr argyfwng costau byw hwn, ac mae pob un ohonynt yn galw am gamau cyflym a phendant gan y Llywodraeth, nid yn unig yng Nghaerdydd, ond yn San Steffan hefyd.
Wrth gwrs, bydd y Gweinidog yn ymwybodol o fy nghefnogaeth i a nifer o fy nghyd-Aelodau trawsbleidiol i incwm sylfaenol cyffredinol, ac rwy’n siŵr fod y Gweinidog wedi darllen, gyda chryn ddiddordeb, yr adroddiad a gynhyrchwyd gan y Pwyllgor Deisebau ar dreial incwm sylfaenol cyffredinol arfaethedig yng Nghymru. Mae'r rhai ohonom sy'n cefnogi treial incwm sylfaenol cyffredinol ar raddfa fwy hefyd yn credu y dylai incwm sylfaenol cyffredinol fod yn rhan o becyn polisi. Ddydd Llun, lansiwyd treial wythnos waith pedwar diwrnod gan Autonomy, 4 Day Week UK a 4 Day Week Global. Mae gan yr wythnos waith pedwar diwrnod lawer o fanteision, megis cynnydd mewn cynhyrchiant, gwelliannau i lesiant gweithwyr, a gwelliannau i gydraddoldeb rhywiol yn y gweithle. Treialodd Microsoft yr wythnos waith pedwar diwrnod yn un o'u swyddfeydd a chanfu gynnydd o 40 y cant mewn cynhyrchiant. Canfu arolwg barn a gynhaliwyd gan Lywodraeth yr Alban fod 80 y cant o’r cyhoedd yn yr Alban yn credu y byddai hyn yn gwella eu llesiant.
Yr hyn rydym yn ei weld ym mhob rhan o'r byd yw nifer o dreialon yn mynd rhagddynt, ar incwm sylfaenol cyffredinol a’r wythnos waith pedwar diwrnod, ac er bod gennym ein treial incwm sylfaenol cyffredinol arfaethedig ein hunain yma yng Nghymru, nid ydym wedi gweld Llywodraeth Cymru yn ystyried treialu wythnos waith pedwar diwrnod eto. Er fy mod yn deall bod y Llywodraeth yn dymuno gwylio’n ofalus i weld beth sy’n digwydd mewn gwledydd eraill yn gyntaf, rydym yn colli cyfle yma—cyfle i fwrw ymlaen â pholisïau blaengar mewn ffordd sy’n golygu y cânt eu rhoi ar waith yma yng Nghymru yn gynt yn hytrach nag yn hwyrach. A fyddai’r Gweinidog yn cytuno nad oes gennym unrhyw beth i’w golli drwy gynnal ein treial wythnos waith pedwar diwrnod ein hunain yma yng Nghymru cyn gynted â phosibl?
Ar incwm sylfaenol cyffredinol a'r wythnos waith pedwar diwrnod—ac wrth gwrs, mae gan Jack Sargeant gwestiwn ar dreialon wythnos waith pedwar diwrnod yn nes ymlaen heddiw—mae gennym ddiddordeb yn yr hyn sy'n digwydd. Nid oes gennym unrhyw beth i'w golli drwy adolygu'r dystiolaeth mewn rhannau eraill o'r byd a gweld pa mor gymaradwy ydyw. Mae gennym heriau bob amser ynglŷn â sut rydym yn blaenoriaethu adnoddau cyfyngedig y Llywodraeth, ac yn cynnal treialon sy’n ystyrlon ac yn werth chweil, sy'n gallu dweud rhywbeth wrthym am yr hyn y gellid ei gymhwyso yn y dyfodol, a pha mor eang y gallai’r cyfle hwnnw fod hefyd. Dyna pam fod y cynllun peilot incwm sylfaenol cyffredinol yn beilot i ddysgu mwy, ac mae’r Prif Weinidog wedi dweud yn glir iawn—mae’n beilot sy’n targedu grŵp o bobl i ddechrau, lle gwyddom nad oes canlyniadau gwych i’r bobl hynny yn yr economi ehangach, i ddysgu mwy ynglŷn â sut y gallwn gefnogi’r grŵp hwnnw o bosibl, ac a ellir rhoi hynny ar waith yn llwyddiannus mewn ardal ehangach wedyn. Ac wrth gwrs, dyna holl bwynt cynlluniau peilot—dysgu beth sy'n gweithio, dysgu weithiau beth nad yw'n gweithio, a gweld a ellir ei gymhwyso ar raddfa ehangach ac yn fwy llwyddiannus. Felly, mae gennyf feddwl agored a diddordeb gwirioneddol mewn dysgu o'r hyn sy'n digwydd yn y wlad hon, ar draws yr ynysoedd hyn, ac ymhellach i ffwrdd hefyd yn wir.
Mae cwestiwn 3 [OQ57461] wedi'i dynnu nôl, felly cwestiwn 4 nesaf, Jack Sargeant.