Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi – Senedd Cymru am 2:11 pm ar 19 Ionawr 2022.
Diolch. Fel y gŵyr yr Aelod, rydym yn darparu adnoddau sylweddol i helpu i adfer. Rydym yn darparu bron i £140 miliwn, pan ystyriwch y gronfa cadernid economaidd gwerth £120 miliwn, y gronfa adferiad diwylliannol gwerth £15.4 miliwn, a'r £3 miliwn cychwynnol a roddwyd i'r gronfa chwaraeon gwylwyr. Dyna'r cymorth brys i fusnesau rydym wedi'i ddarparu. Ers mis Ebrill 2020, efallai yr hoffai'r Aelod wybod bod busnesau yn sir Ddinbych wedi derbyn dros £65.7 miliwn o gymorth grant. Fodd bynnag, nid yw hynny'n cynnwys cymorth pecynnau unigol y gronfa adferiad diwylliannol, sy'n cymharu'n dda iawn â'r rhai sydd ar gael dros y ffin, ac rwy'n siŵr y bydd yr Aelod yn falch o glywed hynny.