Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi – Senedd Cymru am 2:12 pm ar 19 Ionawr 2022.
Ie, rwy'n gwerthfawrogi'r ymateb hwnnw, Weinidog. Mae nifer fawr o fusnesau yn fy etholaeth yn dibynnu ar y marchnadoedd twristiaeth a hamdden, fel y mae llawer ar draws llain arfordirol gogledd Cymru, ac mae'r ddwy flynedd ddiwethaf wedi bod yn eithaf trychinebus, fel y gwyddoch. Nid yn unig y mae angen cymorth parhaus ar y busnesau hyn gyda phethau fel ardrethi busnes er mwyn helpu gyda cholledion mawr a gafwyd dros y cyfnod diweddar, ond mae angen sicrwydd arnynt hefyd mai dewis olaf un fydd cyfyngiadau yn y dyfodol. Felly, Weinidog, gyda hynny mewn golwg, pa drafodaethau a gawsoch gyda'ch cyd-Weinidogion Cabinet ynghylch sicrhau bod Dyffryn Clwyd a Chymru gyfan yn wir, yn gwbl agored i fusnes pan fydd y tymor twristiaeth yn dechrau mewn cwta wythnosau?