1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi – Senedd Cymru ar 19 Ionawr 2022.
9. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o'r rhwystrau ariannol sy'n atal dechrau busnesau cymdeithasol yng Nghymru? OQ57451
Diolch. Rydym yn gweithio'n agos gyda'r sector mentrau cymdeithasol, a nodwyd bod cyllid yn rhwystr allweddol i fentrau cymdeithasol allu dechrau. Dyna pam y cymeradwywyd cynllun peilot y rhaglen Dechrau Newydd drwy Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru yn 2020. Rwyf hefyd wedi ymrwymo £235,000 pellach i gefnogi'r gwaith o greu mentrau cymdeithasol, gan dargedu newid hinsawdd, i helpu'r sector i sicrhau adferiad economaidd tecach a gwyrddach yma yng Nghymru.
Diolch. Fel y gŵyr y Gweinidog, mae mentrau cymdeithasol ar raddfa fach yn fodel busnes sy'n ei chael hi'n anodd cael troedle yn y farchnad, gyda chyllid yn her fwyaf o bell ffordd, yn enwedig cyfalaf dechrau busnes. Gan mai unigolion yw'r rhan fwyaf o entrepreneuriaid cymdeithasol, daw'r rhan fwyaf o'u cyllid o'u cynilion yn hytrach na mathau traddodiadol o ariannu, megis benthyciadau banc.
Er bod rhai pobl yn barod i dalu mwy am nwyddau a gwasanaethau sy'n dod o fenter gymdeithasol, mae llawer o ddefnyddwyr—yn enwedig rhai sydd ymhlith y tlotaf mewn cymdeithas—yn sensitif i brisiau, a byddant yn ceisio prynu am y pris mwyaf cystadleuol. Y broblem y mae hyn yn ei chreu i fentrau cymdeithasol yw ei fod yn cyfyngu ar eu gallu i ehangu, gan nad yw eu model busnes bob amser yn ddigon proffidiol i gael mynediad at yr arian angenrheidiol.
Yng nghymunedau'r Cymoedd, mae gennym wrthgyferbyniad, yn yr ystyr mai dyma'r cymunedau sydd fwyaf tebygol o elwa ar fentrau cymdeithasol, ac eto hwy yw'r lleiaf tebygol o allu fforddio talu mwy am nwyddau a gwasanaethau. Gyda hyn mewn golwg, Weinidog, pa asesiad y mae'r Llywodraeth wedi'i wneud o'r cymorth ariannol hirdymor sydd ei angen ar fentrau cymdeithasol yng Nghymru i allu ehangu o fod yn fentrau bach a chanolig? Diolch.
Wel, mae'n her go iawn, a gwn na fydd yr Aelod yn ei hoffi, ond daw'n ôl at rai o'r rhesymau pam ein bod wedi siarad cymaint am hen gronfeydd Ewropeaidd. Mae llawer o'r cymorth a ddarparwyd gennym wedi dod o'r hen gronfeydd Ewropeaidd roeddem yn arfer eu derbyn. Mae peidio â chael y rheini'n golygu bod ein gallu i wneud hynny wedi'i beryglu; rhaid inni gyfeirio adnoddau o rannau eraill o'r Llywodraeth. Hoffwn allu gwneud mwy a rhoi mwy o sicrwydd, ac mewn gwirionedd mae peidio â chael sicrwydd ynglŷn ag o ble y daw'r arian yn broblem wirioneddol. Mae gennym amrywiaeth o bobl sy'n gallu darparu'r cymorth busnes arbenigol sydd ei angen ar fentrau cymdeithasol yn aml i symud i sefyllfa o fod yn gyffredinol broffidiol. Felly, rydym yn cefnogi Busnes Cymdeithasol Cymru, Canolfan Cydweithredol Cymru ac eraill i wneud hynny.
Ein her ni, os nad yw'r arian ar gael, fydd ein bod yn gorfod torri'r got yn ôl y brethyn, ac mae honno'n broblem wirioneddol. Rwyf am barhau i gefnogi'r sector hwn. Credaf fod ganddynt rôl fawr i'w chwarae mewn cymunedau ledled y wlad. Byddem mewn sefyllfa well o lawer i roi'r sefydlogrwydd y credaf eu bod ei angen ac y maent yn ei haeddu pe baem yn cael mwy o sicrwydd ynghylch y modd y byddai arian yn lle cronfeydd yr UE yn cael ei ddefnyddio. Byddwn wedi meddwl na ddylai'r pwynt hwnnw, ynddo'i hun, fod yn un sy'n ddadleuol yn wleidyddol mewn gwirionedd, ond byddwn yn gobeithio y gallem gael mwy o gytundeb ar yr angen am sefydlogrwydd o ran y cyllid a ddaw i Gymru i wneud yr hyn y mae'r Aelod yn awgrymu y dylai ddigwydd.
Diolch i'r Gweinidog.