Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:33 pm ar 19 Ionawr 2022.
Diolch, Lywydd. Ddirprwy Weinidog, a ydych yn ymwybodol fod y ffigurau diweddaraf gan Ganolfan Genedlaethol Ymchwil ac Archwilio Gofal Dwys yn awgrymu bod gan gymaint ag 81 y cant o gleifion y cadarnhawyd bod ganddynt COVID-19 yng Nghymru BMI o dros 25, pan fo'r ystod iach rhwng 18.5 a 24.9. Rydym eisoes yn gweld bod bron i ddwy ran o dair o oedolion Cymru dros bwysau neu'n ordew, gyda chwarter oedolion Cymru yn ordew. Dyma un o'r cyfraddau uchaf yn y DU. Gordewdra sy'n achosi un o'r risgiau mwyaf i'ch iechyd, o glefyd y galon, diabetes, colesterol uchel a phroblemau orthopedig, ac mae hyn yn costio miliynau o bunnoedd i'r GIG bob blwyddyn. Weinidog, a ydych yn credu bod 'Pwysau Iach: Cymru Iach' wedi lleihau ffigurau gordewdra dros y blynyddoedd diwethaf neu a yw ond yn strategaeth arall eto gan Lywodraeth Cymru nad yw'n gweithio?