2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:32 pm ar 19 Ionawr 2022.
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr yn gyntaf, James Evans.
Diolch, Lywydd. Ddirprwy Weinidog, a ydych yn ymwybodol fod y ffigurau diweddaraf gan Ganolfan Genedlaethol Ymchwil ac Archwilio Gofal Dwys yn awgrymu bod gan gymaint ag 81 y cant o gleifion y cadarnhawyd bod ganddynt COVID-19 yng Nghymru BMI o dros 25, pan fo'r ystod iach rhwng 18.5 a 24.9. Rydym eisoes yn gweld bod bron i ddwy ran o dair o oedolion Cymru dros bwysau neu'n ordew, gyda chwarter oedolion Cymru yn ordew. Dyma un o'r cyfraddau uchaf yn y DU. Gordewdra sy'n achosi un o'r risgiau mwyaf i'ch iechyd, o glefyd y galon, diabetes, colesterol uchel a phroblemau orthopedig, ac mae hyn yn costio miliynau o bunnoedd i'r GIG bob blwyddyn. Weinidog, a ydych yn credu bod 'Pwysau Iach: Cymru Iach' wedi lleihau ffigurau gordewdra dros y blynyddoedd diwethaf neu a yw ond yn strategaeth arall eto gan Lywodraeth Cymru nad yw'n gweithio?
A all y Dirprwy Weinidog ddadfudo'i meicroffon, os gwelwch yn dda? Lynne Neagle. Ie, dyna ni; mae'n ddrwg gennyf am hynny. Ddirprwy Weinidog.
Diolch. Diolch am y cwestiwn hwnnw, James. Nid wyf wedi gweld yr astudiaeth y cyfeirioch chi ati, er fy mod wrth gwrs yn ymwybodol iawn o'r cysylltiad rhwng bod dros bwysau a'r cynnydd yn y risg o gael COVID difrifol. Ond rwy'n anghytuno'n llwyr â'ch awgrym mai dim ond strategaeth arall gan Lywodraeth Cymru yw ein strategaeth 'Pwysau Iach: Cymru Iach'. Rydym yn buddsoddi £6.6 miliwn bob blwyddyn yn y strategaeth hon, sydd ar fin cael ei hail-lansio a byddwn yn ystyried y ffaith bod y pandemig wedi gwaethygu'r problemau sy'n ein hwynebu gyda gordewdra. Bydd gennym amryw o fesurau ar waith i leihau lefelau gordewdra, sy'n broblem nid yn unig yng Nghymru, mae'n broblem ledled y DU.
Diolch ichi, Ddirprwy Weinidog. Ac rwy'n derbyn nad problem yng Nghymru yn unig yw hi, mae'n broblem ledled y DU. Fe ddywedoch chi wrthyf fi a chyd-aelodau o'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y byddwch yn cyflwyno cynllun cyflawni newydd ar gyfer 'Pwysau Iach: Cymru Iach' rhwng 2022 a 2024 ar 1 Mawrth, a disgwylir i hwnnw fod yn ymdrech drawsadrannol, gyda saith maes blaenoriaeth cenedlaethol. Byddai'n dda gennyf wybod, o gofio bod y cynllun cyflawni blaenorol wedi'i gyhoeddi lai na blwyddyn yn ôl, faint o gynnydd a wnaed ar yr wyth maes blaenoriaeth cenedlaethol yn y cynllun hwnnw. Ac a ydych yn credu bod y £6.6 miliwn yng nghyllideb 2022-24 ar gyfer 'Pwysau Iach: Cymru Iach' yn ddigon i gyflawni eich nodau yn y cynllun cyflawni newydd, gan ystyried y cynnydd yn nifer y bobl sydd dros eu pwysau?
Wel, o ran y cynllun cyflawni rydym wedi bod yn ei ddilyn, bu'n rhaid ei addasu oherwydd effaith y pandemig. Heb os, mae'r pandemig wedi cael effaith ar ein gallu i weithredu yn y maes hwn ac fel y dywedais eisoes, mae wedi gwaethygu'r problemau gyda gordewdra a phobl dros bwysau. Nodais y ffigurau rydym yn eu buddsoddi, sy'n sylweddol iawn, yng nghyfarfod y pwyllgor plant yr wythnos diwethaf. Ond rydym yn adolygu'r cynllun cyflawni'n rheolaidd, fel y gallwn addasu ein camau gweithredu i ymateb i'r canlyniadau rydym yn eu gweld. Er enghraifft, cyfeiriais yng nghyfarfod y pwyllgor yr wythnos diwethaf at y buddsoddiad rydym yn ei wneud i'r peilot plant a theuluoedd. Wel, yn amlwg, byddwn eisiau edrych ar effaith y cynlluniau peilot hynny, nodi sut y gallwn ddefnyddio'r hyn a ddysgwn, ac os oes angen, byddwn yn defnyddio cyllid pellach i fwrw ymlaen â hynny. Felly, nid wyf yn ystyried y ddogfen fel rhywbeth digyfnewid o gwbl. Yn amlwg, mae'n rhaid iddi fod yn ddogfen fyw, yn enwedig yng ngoleuni'r effaith y gwelwyd y pandemig yn ei chael ar iechyd corfforol a meddyliol pobl; rydym i gyd yn symud llai, ac mae hynny'n arwain at heriau mwy sylweddol.
Diolch, Ddirprwy Weinidog. Ac rwy'n cytuno y dylai'r dogfennau hyn fod yn ddogfennau byw sy'n newid ac yn addasu, ond mae'n braf gweld pa ddarpariaeth sy'n deillio o'r mathau hynny o fesurau sydd yn y dogfennau hynny.
Yn olaf, fe sonioch chi yr wythnos diwethaf fod y rhaglen atal diabetes bellach ar waith yng Nghymru, ac rwy'n falch iawn o weld hynny. Ond rwy'n pryderu bod gennym lawer o waith dal i fyny â'n cymdogion, o gofio bod GIG Lloegr wedi lansio eu rhaglen eu hunain yn 2016, a GIG yr Alban wedi gwneud yr un peth heb fod ymhell ar ôl hynny, yn 2017. Mae amcangyfrifon cyfredol yn awgrymu bod un o bob pump o boblogaeth Cymru mewn perygl o ddatblygu diabetes math 2, a bydd hyn yn costio hyd at £500 miliwn y flwyddyn i GIG Cymru i helpu i reoli diabetes a'r cymhlethdodau sy'n deillio o hynny, felly mae angen inni gael sicrwydd y bydd y rhaglen newydd hon yn llwyddiant. Felly, rwyf eisiau gwybod pa gerrig milltir a thargedau rydych yn gweithio tuag atynt yn y rhaglen, a sut y byddwch yn sicrhau ei bod yn cael ei hadolygu'n onest ac yn rheolaidd. Diolch, Lywydd, a diolch yn fawr iawn, Weinidog.
Diolch, James. Fel y dywedais yr wythnos diwethaf yn y pwyllgor, rydym wedi bod yn treialu'r rhaglen atal diabetes, a'r hyn rydym yn ei wneud yn awr yw ehangu'r rhaglen honno ar draws Cymru. Ond nid dyna'r unig fesur rydym yn ei roi ar waith i atal diabetes math 2. Mae gennym hefyd lwybr rheoli pwysau Cymru gyfan, sy'n cynnwys plant ac oedolion, a chredaf na ddylem anghofio ein bod, yn anffodus, yn gweld mwy o blant bellach mewn perygl o ddiabetes math 2, sy'n peri pryder mawr. Ond hefyd, o ran yr hyn a wnawn fel Gweinidogion i sbarduno cyflawniad yn y maes, rwyf fi ac Eluned Morgan wedi bod yn glir iawn ein bod yn ystyried y maes hwn yn flaenoriaeth ar gyfer atal. Mae wedi'i nodi yn y mesurau a roddwyd i gyrff y GIG yng Nghymru gan y Gweinidog, ac mae'r ddwy ohonom yn sicrhau ein bod, yn ein trafodaethau gyda'r GIG, yn parhau i bwysleisio'r hyn rydym yn disgwyl iddynt ei gyflawni ar yr agenda hon ac i wneud gwahaniaeth i'r agenda hon. Mae'n heriol gosod targedau yn y maes, yn enwedig wrth inni gefnu, gobeithio, ar y pandemig, oherwydd mae pethau fel y rhaglen mesur plant wedi cael eu heffeithio, ond rydym wedi bod yn glir iawn ein bod yn disgwyl i'r gwasanaethau hynny gael eu hadfer, a bod Gweinidogion yn disgwyl i leihau lefelau gorbwysau a gordewdra fod yn flaenoriaeth i ni, ac mae hynny'n rhywbeth y byddwn yn ei fesur wrth symud ymlaen.
Llefarydd Plaid Cymru nawr, Rhun ap Iorwerth.
Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Mae 70 y cant o breswylwyr cartrefi gofal yn byw efo dementia, ac mae cyswllt cymdeithasol, yn enwedig efo teulu neu ofalwyr anffurfiol, yn bwysig iawn iddyn nhw o ran dal gafael ar eu sgiliau cognitive ac ati. Mi oedd mesurau diogelwch y cyfnod clo, wrth gwrs, yn allweddol o ran atal lledaeniad COVID, ond o ystyried tystiolaeth fel ymchwil y Gymdeithas Alzheimer's, sy'n awgrymu bod 82 y cant o bobl efo dementia wedi gweld eu cyflwr yn dirywio yn ystod y clo cyntaf a bod lleihad mewn cyswllt cymdeithasol wedi bod yn ffactor fawr yn hynny, a fyddai'r Gweinidog yn cyd-fynd ag egwyddor yr hyn mae John's Campaign yn galw amdano fo, sef bod yn rhaid canfod ffyrdd o warchod y cyswllt yna, hyd yn oed yn wyneb heriau COVID? Ac ydy'r newid yn y ddeddf i wneud hawliau ymweld yn hawl dynol sylfaenol i gleifion dementia, fel galwodd yr Aelod Seneddol Plaid Cymru Liz Saville Roberts amdano fo yn ddiweddar, yn rhywbeth y gallai'r Gweinidog ei gefnogi?
Diolch yn fawr, Rhun. Dwi'n ymwybodol dros ben o'r ffaith bod cymaint o bobl yn dioddef o ddementia ar hyd a lled Cymru, nid jest y rheini mewn cartrefi gofal, ond mae lot o bobl gartref hefyd wedi cael eu hynysu, wedi gweld llai o gysylltiad, ac rŷn ni wedi gweld dirywiad yn ystod y cyfnodau yna ymysg hen bobl yn arbennig. A dyna pam rŷn ni wedi, dro ar ôl tro, gwneud yn siŵr ein bod ni'n edrych yn fanwl ar beth ddylai'r canllawiau fod o ran ymweld â chartrefi gofal. Rŷn ni wedi ceisio cael y balans yn iawn, ac mae yn anodd i gael y balans yn iawn, achos byddai pob un yn dechrau sgrechian pe byddem ni'n gweld system lle byddem ni'n cyflwyno omicron neu COVID mewn i gartrefi gofal. Felly, mae'n rhaid i ni gael y balans yn iawn, ac mae e'n anodd.
Mae'r canllawiau sydd gyda ni yn glir. Mae hawl gan bobl i fynd i weld eu hanwyliaid nhw yn y cartrefi gofal, ond y drafferth yw, mae'r rhan fwyaf o'r rhain yn gartrefi preifat sy'n cael eu rhedeg gan bobl sydd yn gorfod talu am yswiriant, ac maen nhw ofn na fyddai eu hyswiriant nhw yn eu diogelu nhw pe bai yna gyflwyniad o COVID i mewn i'r cartref gofal. Felly, o ran newid i'r ddeddf, dwi'n meddwl byddai hwnna'n gam mawr iawn i'w gymryd o ran beth yw hawl dynol. Nawr, mae hawl dynol yn dweud bod hawl gan berson i gael perthynas deuluol neu rywbeth. Felly, mi fyddech chi'n gallu apelio at hynny eisoes, dwi'n cymryd. Felly, y cwestiwn wedyn yw: a fyddai hwnna'n sefyll mewn llys barn? Dwi'n meddwl byddai fe'n anodd iawn i fynd ymhellach na hynny. Dwi ddim yn gwybod os oes yna enghreifftiau mewn llefydd eraill yn y byd, ond mae'r hawl yna eisoes yn bodoli, yr hawl i gael perthynas deuluol.
Diolch am yr ymateb yna. Byddai, mi fyddai fo'n gam mawr, ond yn gam pwysig. A'r holl bwynt o'i roi o mewn deddfwriaeth fyddai sicrhau bod yr egwyddor ddim yn gallu cael ei hanwybyddu; byddai'n rhaid gweithredu.
Yng Nghymru, mae yna gamau addawol iawn wedi cael eu cymryd—yr egwyddor o bartneriaid gofal yng nghynllun gweithredu Cymru ar gyfer dementia, er enghraifft—ond mae yna agendor mawr rhwng beth sy'n cael ei ddisgrifio yn y cynllun hwnnw a realiti. Mae yna leoliadau iechyd a gofal lle dydy'r canllawiau ddim yn cael eu dilyn. Fel y cyfeiriodd y Gweinidog, mae yna broblemau ychwanegol efo'r anhawster mewn cael yswiriant ar gyfer materion yn gysylltiedig â COVID mewn cartrefi gofal erbyn hyn, a dwi'n ategu cais Fforwm Gofal Cymru am gynllun indemnity tebyg i un yr NHS ar gyfer y sector gofal. Ond â ninnau rŵan ym mlwyddyn olaf y cynllun dementia presennol—a dyma'r mater allweddol—sut mae'r Llywodraeth am drio sicrhau bod geiriau cadarnhaol yn troi yn realiti?
Diolch yn fawr. Rydyn ni wedi rhoi'r canllawiau yn glir. Dwi'n gwybod bod Julie Morgan wedi bod yn sicrhau ei bod hi wedi gwneud popeth mae'n gallu i geisio cael pobl i gael yr access maen nhw ei angen i fynd i weld eu teuluoedd nhw. Mae'r cynllun dementia presennol—. Yn amlwg, rydyn ni'n edrych nawr ar fel y bydd y dyfodol yn edrych, a dwi'n meddwl bod yna gyfle yn fanna i weld pa mor bell rydyn ni'n gallu mynd gyda hawliau. Ond buaswn i'n meddwl y byddai hawliau—. Mae hawl yn gam deddfwriaethol eithaf mawr i'w gymryd. Yn amlwg, fe fyddai angen inni wedyn wneud lle yn yr agenda wleidyddol ar gyfer hynny. Mi fyddai fe'n gam mawr iawn. Felly, dwi'n barod i edrych i weld os byddai fe'n gwneud synnwyr, ond dwi'n meddwl mai'r peth gorau fyddai ceisio parhau i ddarbwyllo'r rheini sydd ddim wedi bod yn dilyn y canllawiau ei bod hi'n rhan o'u cyfrifoldeb nhw i ddilyn y canllawiau. Ac, wrth gwrs, mae'r rhan fwyaf o'r cartrefi gofal yma yn derbyn arian o gynghorau lleol, o'r Llywodraeth, felly mae yna bosibilrwydd yn fanna efallai i geisio gweld pa effaith rydym ni'n gallu ei chael drwy'r contracts rydym ni'n eu rhoi i'r bobl yma.
Mae'r cwestiwn nesaf i'w ateb gan y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol, ac, i ofyn cwestiwn 4, Natasha Asghar.