Gwasanaethau Iechyd Meddwl

Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 3:05 pm ar 19 Ionawr 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lynne Neagle Lynne Neagle Labour 3:05, 19 Ionawr 2022

(Cyfieithwyd)

Diolch am eich cwestiwn. Mae’n ddrwg iawn gennyf glywed am yr unigolyn ifanc y cyfeirioch chi ato. Rwy'n falch iawn o weld unrhyw sefydliad sy'n gweithio i gefnogi pobl sydd naill ai wedi eu heffeithio gan hunanladdiad neu i atal hunanladdiad. Nid wyf yn gyfarwydd â'r sefydliad hwn fy hun, ond rwy’n fwy na pharod i gael golwg ar y gwaith a wnânt. Yn ddiweddar, caeodd cylch ceisiadau am swm sylweddol o gymorth profedigaeth yng Nghymru—oddeutu £1 filiwn y byddaf yn gwneud cyhoeddiad yn ei gylch cyn bo hir—ond byddwn yn cynghori'r sefydliad i gysylltu â’r bwrdd iechyd a’r bwrdd partneriaeth rhanbarthol, gan y gallai fod cyfleoedd ariannu ar gael drwy'r llwybr hwnnw. Ond rwy'n fwy na pharod i gael golwg ar y gwaith y maent yn ei wneud ac i gyfeirio at gyfleoedd pellach am gymorth.