Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 3:04 pm ar 19 Ionawr 2022.
Diolch, Ddirprwy Weinidog. Cyfarfûm yn ddiweddar â chynrychiolwyr Dezza's Cabin, elusen a sefydlwyd yn dilyn hunanladdiad trasig Derek Brundrett, disgybl yn Ysgol Harri Tudur, ysgol gyfun Penfro gynt, yn ôl yn 2013. Nod yr elusen yw darparu cymorth i leihau risg o hunanladdiad a hunan-niweidio ymhlith pobl ifanc, yn ogystal â chyfeirio at wasanaethau cymorth iechyd meddwl. A wnewch chi ymuno â mi i ganmol gwaith sefydliadau fel Dezza’s Cabin, sy’n darparu gwasanaeth mor werthfawr i’r gymuned leol? Ac a wnewch chi ymrwymo i ymchwilio i ba gymorth sydd ar gael i ddarparu cyllid mwy hirdymor i'r sefydliad hwn, fel y gallant barhau i dyfu ac ehangu eu gwasanaeth?