Part of 3. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru am 3:10 pm ar 19 Ionawr 2022.
Diolch, Dirprwy Weinidog. Mae cyhoeddiad Llywodraeth y Deyrnas Unedig am ffi'r drwydded ddydd Llun yn brawf pellach na fydd anghenion cyfryngol Cymru byth yn cael eu diwallu dan reolaeth San Steffan, ac mae'n nodi dechrau'r diwedd i'r holl syniad o ddarlledu cyhoeddus ym Mhrydain. Mae rhewi'r ffi drwydded am ddwy flynedd yn arwain at ansicrwydd mawr ar gyfer dyfodol cyfryngau Cymru, yn enwedig ein sianel genedlaethol, S4C, a Radio Cymru, a fydd yn cael eu hariannu yn gyfan gwbl o ffi'r drwydded. Cadarnhaodd Nadine Dorries y bydd y ffi drwydded yn cael ei rhewi am ddwy flynedd, sy'n cynrychioli toriad difrifol mewn termau real yng nghyllid y gorfforaeth.
Mae llawer ar feinciau'r Ceidwadwyr yn San Steffan wedi nodi pwysigrwydd darlledu Cymraeg a'r cyllid ychwanegol ar gyfer S4C. Fodd bynnag, a ydynt yn cydnabod y bydd toriad mewn termau real i setliad y BBC yn anochel yn effeithio ar ddarpariaeth Gymraeg, o gofio bod y BBC yn darparu gwerth tua £20 miliwn o raglenni i S4C bob blwyddyn? Ni all y cynnydd yn y cyllid ar gyfer allbwn digidol S4C wneud iawn am y toriad hwnnw, heb sôn am Radio Cymru. Mae'n gliriach nag erioed bod angen tirwedd cyfryngau iachach yng Nghymru. Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn dangos gelyniaeth gynyddol tuag at y BBC, tra ar yr un pryd mae allbwn newyddion lleol yn gwanhau. Mae hyn yn gwthio Cymru i mewn i gornel o ran diffyg y cyfryngau yn y Gymraeg a'r Saesneg, sy'n niweidio ein democratiaeth.
Gyda sôn pellach am ddileu ffi'r drwydded yn gyfan gwbl ar ôl 2027, rwy'n croesawu mwy nag erioed y bwriad i wthio am ddatganoli darlledu, sydd wedi ei gynnwys yn y cytundeb cydweithredu. A fyddai'r Dirprwy Weinidog yn cytuno gyda fi bod y datblygiadau diweddar yn tanlinellu pwysigrwydd ymrwymiad Llywodraeth Cymru i gefnogi datganoli cyfathrebu a darlledu i Gymru fel nad ydyn ni'n gaeth mewn ras i'r gwaelod lle mae elw'n clodfori darpariaeth o safon?