Part of 3. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru am 3:12 pm ar 19 Ionawr 2022.
A gaf fi ddiolch i Heledd Fychan am ei sylwadau pellach? Rwy’n cytuno at ei gilydd â phopeth a ddywedodd. Mae darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus yn chwarae rhan hynod bwysig ym mywyd diwylliannol ac economaidd Cymru, ac rydym yn bryderus iawn ynghylch y cyhoeddiad byrbwyll a wnaed gan Lywodraeth y DU ynglŷn â'u dyfodol yn y tymor byr ac yn hirdymor. Mae pobl Cymru yn disgwyl ac yn haeddu darlledu gwasanaeth cyhoeddus sy'n adlewyrchu bywyd yng Nghymru, yn cefnogi ein mynegiant creadigol amrywiol ac yn hyrwyddo'r Gymraeg. Gallai’r toriad cyllid mewn termau real a gyhoeddwyd yn y dyddiau diwethaf fygwth yr holl elfennau allweddol hynny o’r gwasanaethau presennol, yn ogystal â datblygiad y diwydiant cyfryngau yng Nghymru. Nid yw'r syniad fod Llywodraeth y DU wedi paratoi cynlluniau mwy hirdymor i ystyried y materion hyn yn gredadwy.
Mae'r ffordd y gwnaed y cyhoeddiadau hyn yn dangos yn glir mai'r gwrthwyneb sy'n wir. Er y cawsom gyhoeddiad gan Nadine Dorries ynghylch diddymu ffi'r drwydded, ymddengys bod Rishi Sunak wedi camu'n ôl ar hynny i raddau dros y dyddiau diwethaf, ar ôl iddynt weld adwaith y cyhoedd i'r cyhoeddiad penodol hwnnw. Oherwydd mae'n amlwg nad oedd y cyhoeddiad hwnnw'n gredadwy fel unrhyw fath o gynllun cynhwysfawr a oedd yn barod i gael ei gyhoeddi mor fuan ar ôl i Rif 10 wynebu argyfwng gwleidyddol arall wedi'i achosi ganddynt hwy eu hunain. Yr hyn y byddwn yn ei ddweud yw bod ehangu gweithgarwch y BBC yng Nghymru wedi bod yn rhan annatod o lwyddiant rhyfeddol y diwydiant teledu a ffilm yng Nghymru dros y blynyddoedd diwethaf, a byddai unrhyw fygythiad i'r cynnydd hwn yn arddangosiad amlwg o fwriad y Llywodraeth hon i iselhau a llesteirio economi Cymru.
Mewn perthynas â datganoli darlledu, fel y gŵyr Heledd Fychan, mae ymrwymiad yn y cytundeb cydweithio i archwilio, ar y cyd, y posibilrwydd o greu awdurdod darlledu a chyfathrebu cysgodol i Gymru, gan ddarparu buddsoddiad ychwanegol i ddatblygu mentrau i wella cyfryngau a newyddiaduraeth yng Nghymru. Rydym yn gweithio ar gynlluniau i fynd ar drywydd yr achos dros ddatganoli pwerau darlledu a chyfathrebu yn barod ar gyfer datganoli’r pwerau hynny i Gymru. Credaf ei bod yn deg dweud bod consensws eang fod y fframwaith darlledu a chyfathrebu presennol yn annigonol. Mae’n llesteirio bywyd democrataidd ein gwlad, nid yw’n gwasanaethu anghenion nac uchelgeisiau’r Gymraeg, a’i ymosodiad diweddaraf ar ddarlledu gwasanaeth cyhoeddus yw’r dystiolaeth ddiweddaraf na fydd y system bresennol yn cyflawni hynny.
Rwyf am gloi drwy ailadrodd yr hyn a ddywedodd Prif Weinidog Cymru ddoe, sef bod angen brys am glymblaid o gefnogaeth yn awr i amddiffyn cyllid cyhoeddus ar gyfer darlledu gwasanaeth cyhoeddus yn y DU.