Part of the debate – Senedd Cymru am 3:45 pm ar 19 Ionawr 2022.
Wrth inni nodi Wythnos Atal Canser Ceg y Groth, hoffwn wneud pwynt cyffredinol ar y dechrau, sef nad yw merched bob amser yn cael digon o addysg am eu cyrff—mae'n wir am fechgyn hefyd, wrth gwrs. Gall cyfuniad o embaras, diffyg dealltwriaeth, cywilyddio corfforol hyd yn oed, ymffurfio o'r adeg pan fydd merched yn eithaf ifanc, ac mae'n sicr fod y ffactorau hynny'n cyfrannu at y ffaith nad yw un o bob tair menyw yn mynd i'w hapwyntiad sgrinio serfigol pan gânt eu gwahodd. Clywsom eisoes yn y ddadl am y miloedd o fenywod a fydd yn cael gwybod bob blwyddyn fod ganddynt newidiadau yng nghelloedd ceg y groth, felly rhaid inni ddod o hyd i ffyrdd gwell o siarad am y materion hyn a normaleiddio'r broses o fynd am brawf ceg y groth.
Ar y ddeiseb hon yn benodol, y newidiadau i brofion ceg y groth rheolaidd, dywedwyd eisoes eu bod wedi cael eu cyfathrebu'n wael iawn, a bod hynny wedi achosi pryder y gellid bod wedi ei osgoi. Mae'r esboniad a roddwyd inni gan Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi tawelu meddyliau llawer o bobl, ond ers cyhoeddi'r newid hwnnw mae menywod sy'n dal yn nerfus wedi cysylltu â mi. Roeddwn am godi'r pryderon hynny yma fel y gallwn gael atebion adeiladol iddynt gan y Gweinidog. Mae rhai etholwyr wedi codi'r ffaith—mae eisoes wedi'i nodi—y gall haint HPV glirio o fewn blwyddyn neu ddwy, sy'n golygu y gallai haint fod wedi clirio erbyn i brawf gael ei wneud. Mae'r etholwyr hynny wedi holi sut y gallai rhywun sy'n edrych ar y canlyniadau wedyn wybod a yw'r haint wedi achosi newidiadau i gelloedd os nad ydynt yn chwilio am y newidiadau hynny. Cafodd etholwraig arall ddiagnosis o ganser cam 1 yn 30 oed yn 2021 a chafodd y canser ei ganfod yn ystod ei phrawf ceg y groth tair blynedd. Pe bai hi wedi aros am ddwy flynedd ychwanegol, mae hi'n poeni y gallai'r canser fod wedi datblygu llawer mwy ac effeithio ar ei ffrwythlondeb o bosibl, neu rywbeth llawer mwy difrifol.
Nawr, fel y dywedais, dylai'r prawf newydd weithio'n dda iawn i'r rhan fwyaf o'r rhai sydd wedi cael y brechlyn HPV, sy'n amlwg yn rhywbeth i'w groesawu'n fawr, oherwydd bydd hynny wedi lleihau nifer yr achosion o newidiadau celloedd annormal. Ni fydd pawb wedi cael cynnig y brechlyn hwnnw, a gwn y bydd menywod, yn enwedig yn eu 30au, wedi colli'r cyfle hwnnw oherwydd mae hynny'n wir yn fy achos i hefyd. Felly, yn yr un modd, hoffwn glywed mwy am yr hyn y gellid ei wneud i dawelu meddyliau menywod ynglŷn â hynny. Mae pryder arall sydd gan rai o fy etholwyr yn ymwneud â menywod a allai ddatblygu canser ceg y groth nad yw'n gysylltiedig â HPV. Mae'n debyg y byddent yn cael eu gadael heb eu sgrinio, felly pa ddarpariaeth y gellid ei gwneud ar eu cyfer hwy os gwelwch yn dda? Rwyf wedi codi'r pryderon hyn er mwyn cael eglurder i'r etholwyr sy'n dal i deimlo'n anesmwyth ynglŷn â'r newid hwn.
Weinidog, gellid bod wedi osgoi hyn i gyd wrth gwrs pe bai neges wedi mynd allan cyn i'r graffig hwnnw gael ei rannu ar y cyfryngau cymdeithasol. Deallaf wrth gwrs y bydd gwersi wedi'u dysgu ynglŷn â hyn, ond ochr yn ochr â'r ymholiadau penodol hynny hoffwn ofyn sut y bydd Iechyd Cyhoeddus Cymru yn ceisio mynd i'r afael ag unrhyw arwydd a allai ddatblygu fod y neges anghywir yn cael ei chyfleu i fenywod—hynny yw, nad yw mor bwysig iddynt fynd i gael prawf ceg y groth. Gwn nad dyna a olygir gyda'r newid hwn mewn unrhyw ffordd, ond unwaith eto gallai gwactod ddatblygu i'r rhagdybiaethau anghywir gael eu gwneud, oni bai ein bod yn llenwi'r gwactod hwnnw. Dywedodd un etholwraig wrthyf ei bod hi'n bwysig mynd hyd yn oed os nad ydych yn credu bod angen i chi fynd, fel ymweld â'r deintydd, ac mae'n bwysig iawn nad yw negeseuon iechyd y cyhoedd yn annog menywod yn anfwriadol i beidio â mynd i gael eu sgrinio. Felly, byddwn yn ddiolchgar am unrhyw wybodaeth y gallai'r Gweinidog ei darparu wrth grynhoi'r ddadl a allai leddfu'r pryderon y soniais amdanynt sydd gan fy etholwyr.
Ond y pwynt hanfodol y byddwn yn ei wneud wrth gloi, Ddirprwy Lywydd, yw bod angen i ni, unwaith eto, sicrhau bod menywod o bob oed yn teimlo bod profion ceg y groth yn normal, nad ydynt yn rhywbeth i boeni yn eu cylch. Pan oeddwn yn yr ysgol, byddai pobl yn sôn amdanynt o dan eu gwynt, fel pe baent yn bethau i arswydo rhagddynt—nid yr athrawon, dylwn ddweud, ond disgyblion eraill—a chefais yr argraff y byddent yn boenus iawn. Mewn gwirionedd, i'r rhan fwyaf o fenywod, mae'n gwbl ddi-boen; ychydig yn lletchwith—nid oes angen iddo fod yn lletchwith. Ond rwy'n credu bod angen inni ddod o hyd i ffyrdd o fynd i'r afael â'r naratif hwn, ac mae'n digwydd am fod gormod o'r pynciau hyn yn cael eu hystyried yn bynciau tabŵ ac am na chânt eu trafod.