Part of the debate – Senedd Cymru am 3:49 pm ar 19 Ionawr 2022.
Diolch i Jack fel Cadeirydd y Pwyllgor Deisebau am sicrhau y gellid cynnal y ddadl hon ar fyr rybudd.
Nid yw sgrinio serfigol yn brofiad dymunol a dweud y lleiaf, ac rwy'n siŵr nad fi yw'r unig fenyw yng Nghymru i fod wedi gohirio neu gasáu mynychu apwyntiad sgrinio, ond rydym hefyd yn deall mai sgrinio serfigol yw un o'r apwyntiadau pwysicaf y gallwn eu mynychu fel menywod ac yn ddi-os, mae'n achub bywydau. Mae'r camau gwyddonol a wnaed i sicrhau bod y prawf ar gyfer HPV yn fwy cywir yn newyddion gwych a dylid ei ddathlu. Ond roedd y ffordd y gwnaed y cyhoeddiad yn warthus a gwnaeth i lawer o fenywod deimlo'n bryderus, yn rhwystredig ac yn ddryslyd. Mae'r ffaith bod y ddeiseb hon wedi cyrraedd dros 30,000 o lofnodion dros gyfnod o ddiwrnod neu ddau yn dyst i gryfder y teimladau. Er y cafwyd yr ymddiheuriad i ddilyn y cyhoeddiad, ymddiheuriad a oedd yn cynnwys llawer mwy o wybodaeth, mae llawer o fenywod yn dal i deimlo'n ddig, ac rwy'n un ohonynt.
Mae wedi cymryd cenedlaethau a chenedlaethau o fenywod i frwydro i gael rheolaeth dros eu cyrff eu hunain. Dylai menywod gael hawl i benderfynu pryd yr hoffent fynychu eu hapwyntiad sgrinio, boed hynny bob tair blynedd neu bum mlynedd, neu unrhyw adeg yn y canol, beth bynnag am y prawf gwell. I lawer o fenywod, mae bywyd yn mynd yn y ffordd, boed hynny oherwydd gwaith neu ofal plant. Ac os ydym yn onest, yn amlach na pheidio, credaf ein bod yn gadael i fywyd fynd yn y ffordd. Gwyddom fod tair blynedd rhwng apwyntiadau sgrinio wedyn yn mynd yn debycach i bedair neu bump. Os ydym am weld newid o dair i bum mlynedd, i rai menywod gallai hyn ddod yn hyd at 10 mlynedd yn hawdd.
Diben apwyntiadau sgrinio serfigol, yn bennaf oll, yw canfod HPV, ond gwyddom i gyd, pan fyddwch yn mynychu'r prawf ceg y groth hollbwysig, nid y prawf ei hun yw'r unig beth y byddwn yn ei drafod, ond y pecyn llesiant cyfan. Gan ein bod ar ein mwyaf hyglwyf yn ystod y prawf ceg y groth, rydym weithiau'n teimlo'n fwy abl i gael y trafodaethau mwy anghyfforddus sydd fel arfer yn cael eu gohirio. I rai menywod, fel y rhai sy'n profi cam-drin domestig, efallai mai eu hapwyntiad sgrinio serfigol yw'r unig adeg y gallant weld gweithiwr gofal iechyd proffesiynol ar eu pen eu hunain. Nid ymwneud â sgriniad ar gyfer HPV yn unig y mae'r apwyntiadau hyn, maent yn ymwneud â'r pecyn ehangach o archwiliadau a gofal sydd ar gael iddynt. Byddai cynyddu'r cyfnod rhwng yr apwyntiadau hyn yn niweidiol i fenywod a'u lles. Gadewch inni gydnabod y camau gwyddonol enfawr rydym wedi'u gwneud, ond heb gamu'n ôl ar hawl menywod i benderfynu, yn enwedig mewn materion yn ymwneud â'u llesiant.