Part of the debate – Senedd Cymru am 4:01 pm ar 19 Ionawr 2022.
Roedd hi'n holi am y cynllun peilot yn Lloegr. Rydym yn gwylio'r cynllun peilot yn Lloegr gyda diddordeb. Gwyddom ein bod wedi gweld ymateb gwell i sgrinio coluddion ers i brawf FIT gael ei anfon allan i bobl. Rydym wedi gweld cynnydd yn nifer y bobl sy'n defnyddio hwnnw o 60 y cant i 65 y cant. Rydym eisiau gwybod ai dyna fydd yr ymateb mewn perthynas â sgrinio serfigol ar gyfer yr ardaloedd penodol hynny lle nad yw pobl yn mynd am brawf. Felly, rydym eisiau gweld bod y dystiolaeth yn ddiogel ac yn effeithiol cyn inni ystyried cyflwyno hwnnw yng Nghymru.