Part of the debate – Senedd Cymru am 5:05 pm ar 19 Ionawr 2022.
Diolch, Lywydd. Rhaid bod pawb yn ymwybodol o'r argyfwng costau byw sydd bellach yn bygwth taro llawer o'n hetholwyr, ac eithrio deiliaid Rhif 10 efallai. Mae chwyddiant wedi neidio i 5.4 y cant, ei lefel uchaf mewn bron i 30 mlynedd. Caiff ei yrru gan gostau uwch dillad, bwyd ac esgidiau, dodrefn a nwyddau'r cartref, ac oedi mewn cadwyni cyflenwi ym mhorthladdoedd Prydain. Mae Banc Lloegr yn disgwyl iddo godi ymhellach, yn enwedig os bydd Llywodraeth y DU yn parhau i fod wedi'i pharlysu, tra'n wynebu argyfwng ynni cydamserol, a allai arwain at gynnydd blynyddol o £500 neu fwy i aelwydydd. Er bod cyflogau'n codi i rai, mae'r cynnydd mewn costau byw, ynghyd â mesurau fel toriadau i gredyd cynhwysol, yn llawer mwy gan olygu bod y gweithiwr cyffredin yn waeth ei fyd.
Mae Canghellor y DU yn dweud ei fod yn gwrando. Credaf mai'r neges gan y cyhoedd fyddai dechrau gweithredu'n bendant cyn i bobl rewi yn eu cartrefi neu fynd yn llwglyd neu golli eu tenantiaethau neu'n wir, y cartrefi y maent yn berchen arnynt. Mae llawer o'r ysgogiadau yn nwylo Llywodraeth y DU. Felly, mae'n destun gofid mawr fod Llywodraeth y DU, ac yn enwedig Prif Weinidog y DU ei hun, yn canolbwyntio cymaint ar gadw eu bachau ar allweddi Rhif 10 doed a ddelo fel na allant ganolbwyntio o gwbl ar yr argyfwng costau byw. Ni allaf wneud yn well na chyfeirio Aelodau Ceidwadol y Senedd at eiriau un o aelodau meinciau cefn y Prif Weinidog ei hun—a chyn Weinidog ac un o'r rhai a ymgeisiodd am yr arweinyddiaeth, yn wir—yn y cwestiynau i'r Prif Weinidog heddiw, pan ddywedodd wrth y Prif Weinidog, gan ddyfynnu anerchiad Cromwell i'r Senedd hir:
'Yn enw Duw, ewch.'
Wrth i Lywodraeth y DU encilio i fyncer, y tu allan mae'r gwyntoedd oer yn brathu. Maent yn brathu'n galed mewn llefydd fel Bury South. Wrth inni groesawu Christian Wakeford, AS Llafur newydd Bury South, heddiw, nodwn pa mor berthnasol yw ei eiriau ar adael y Blaid Geidwadol i'r ddadl hon heddiw. Dywedodd hyn:
'Rwy'n poeni'n angerddol am bobl Bury South ac rwyf wedi dod i'r casgliad nad yw polisïau'r Llywodraeth Geidwadol dan arweiniad Boris Johnson yn gwneud unrhyw beth i helpu pobl yr etholaeth ac yn wir nid ydynt ond yn gwneud y trafferthion y maent yn eu hwynebu bob dydd yn waeth.'
Mae ei eiriau'n mynd i adleisio mewn llawer o ardaloedd llai cefnog yn y DU, gan gynnwys rhai a gynrychiolir ar hyn o bryd gan Aelodau Ceidwadol yn y Senedd hon a'u cymheiriaid ymhlith Aelodau Seneddol San Steffan. Yng Nghymru hefyd, gwyddom fod effaith Johnson yn dweud llawer. Er gwaethaf ymdrechion gorau Llywodraeth Lafur Cymru, mae fel nofio i fyny'r afon yn erbyn llanw o ddifaterwch ac anfedrusrwydd Johnsonaidd.
Dywed Cyngor ar Bopeth yng Nghymru wrthym fod cynnydd o 17 y cant eisoes wedi bod yn nifer y bobl sy'n ceisio cymorth gyda dyledion. Gwelwyd y cynnydd mwyaf yn nifer yr ymholiadau a oedd yn ymwneud â dyledion ynni, sydd bellach 150 y cant yn uwch fis Tachwedd diwethaf nag yn yr un cyfnod yn 2019. Mewn ymchwil ledled y DU, maent yn adrodd bod un o bob pump o bobl yn torri'n ôl ar siopa bwyd a gwresogi er mwyn arbed arian. Maent yn rhagweld cynnydd enfawr mewn anghenion dyled a chaledi pan gaiff y cap ynni ei godi, gan arwain at gynnydd o £500, £600, £700 neu fwy ar filiau bob blwyddyn. Weinidog, gwyddom fod Cyngor ar Bopeth ac eraill yn gofyn am bethau penodol gan Lywodraeth y DU, gan gynnwys grant cymorth ynni untro wedi'i dargedu at aelwydydd incwm isel a chynnydd mwy yng ngwerth budd-daliadau y gwanwyn hwn. Wel, gadewch inni weld a yw'r Canghellor yn gwrando mewn gwirionedd. Ond yn y cyfamser, gofynnaf i'r Gweinidog ysgrifennu at Lywodraeth y DU i gyflwyno'r mesurau hyn a mesurau brys eraill yn y DU.
Ond maent yn gofyn am bethau gan Lywodraeth Cymru, gan gynnwys cymorth ychwanegol i helpu awdurdodau lleol i ddileu ôl-ddyledion y dreth gyngor na ellir eu hadennill, a gododd 42 y cant y llynedd, ac ehangu cynllun ôl-ddyledion y dreth gyngor. Gallwn wneud gwahaniaeth yma yng Nghymru—gwahaniaethau fel yr hyn a wnaed gan y gronfa cymorth i aelwydydd, i helpu'r teuluoedd sydd wedi'u taro waethaf gan yr argyfwng costau byw, i dargedu cymorth tuag at aelwydydd incwm is, gyda chymorth uniongyrchol i bobl sy'n wynebu costau byw cynyddol y gaeaf hwn. Darparwyd mwy na £1.1 miliwn i gefnogi ac i gryfhau banciau bwyd a phartneriaethau bwyd cymunedol a hybiau cymunedol, i helpu i fynd i'r afael â thlodi bwyd ac ansicrwydd bwyd a darparu ystod eang o wasanaethau i helpu pobl a theuluoedd i wneud y gorau o'u hincwm. Ac yn lleol yn fy ardal i, mae cyngor bwrdeistref Pen-y-bont ar Ogwr dan arweiniad Llafur yn argymell rhewi lefel y dreth gyngor am y flwyddyn i ddod, i helpu trigolion sy'n dioddef yn sgil yr argyfwng costau byw, a hynny diolch i'r cynnydd mwyaf erioed yn y cyllid gan Lywodraeth Cymru. Ac maent hefyd yn mynd i ddarparu £2.5 miliwn ychwanegol i sicrhau bod pob gweithiwr gofal lleol yn cael codiad cyflog i'r cyflog byw fan lleiaf. Ac mae mwy.
Weinidog, nid yng Nghymru y ceir rhai o'r ysgogiadau mwyaf pwerus, ond rhaid inni ddefnyddio pob arf sydd ar gael inni i helpu'r rhai yr effeithir arnynt fwyaf gan yr argyfwng costau byw, ac i fynd i'r afael â syrthni a difaterwch Llywodraeth Johnsonaidd y DU. Mae angen inni ddangos y gwahanol flaenoriaethau a gwerthoedd a gweithredoedd Llywodraeth Cymru a phartneriaid yn lleol. Felly, mae'r cynnig a drafodwn heddiw yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi cynllun argyfwng i leihau'r pwysau a achosir gan y cynnydd mewn costau byw ar y naill law a chyflogau sy'n aros yn eu hunfan ar y llaw arall. Beth bynnag am barlys Llywodraeth y DU yn wyneb y storm sydd ar y gorwel, gadewch inni wneud popeth yn ein gallu yng Nghymru. Rwy'n eich annog i gefnogi'r cynnig hwn.