7. Dadl Plaid Cymru: Costau byw

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:11 pm ar 19 Ionawr 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Delyth Jewell Delyth Jewell Plaid Cymru 5:11, 19 Ionawr 2022

(Cyfieithwyd)

Mae argyfwng fel arfer yn digwydd ar unwaith. Mae'n gyfnod o anhawster dwys, a pherygl weithiau. Ond pan fyddwn yn meddwl am argyfyngau, rydym yn tueddu i'w cysylltu â sydynrwydd, â rhywbeth annisgwyl, na chynlluniwyd ar ei gyfer, ac na ellir ei osgoi. Fodd bynnag, mae'r cyfuniad hwn o ymosodiadau ar gostau byw pobl yn rhywbeth a ragwelwyd yn llwyr. Mewn rhai ffyrdd fel y toriad i gredyd cynhwysol, Llywodraeth sydd wedi'i achosi. Mae hyd yn oed y cynnydd yn y biliau ynni sydd ar y gorwel wedi bod yn dod ers misoedd, ac yn hwy na hynny, gellid dadlau. Ac mae'r anghysondeb hwnnw, y gwrthdaro rhwng argyfyngau arferol a'r hyn sy'n digwydd yn awr, yn gythryblus ar lefel gysyniadol; mae iddo effeithiau yn y byd go iawn. Yn seicolegol, bydd pobl sydd eisoes yn ei chael hi'n anodd ymdopi â biliau, â phrisiau bwyd, wedi bod yn darllen penawdau ers misoedd a'u rhybuddiai fod pethau'n mynd i waethygu, gyda'r ymdeimlad hwnnw o arswyd rhag yr hyn sydd i ddod yn pwyso arnynt, ac ni fyddant yn gweld digon yn cael ei wneud i'w atal—yr ymdeimlad o argyfwng disgwyliedig a thrawma disgwyliedig. Mae'n mynd i greu panig a gofid tawel i deuluoedd, ac nid wyf yn siŵr fod digon yn cael ei wneud i fynd i'r afael â'r pwysau iechyd meddwl sy'n cael ei deimlo gan bobl ar hyd a lled Cymru. Mae pobl eisoes mewn argyfwng.

Dywedodd un fenyw wrth Newsnight yr wythnos hon ei bod yn bwyta Weetabix dair gwaith y dydd oherwydd mai torri ei bil bwyd yn sylweddol oedd yr unig ffordd y gallai fforddio gwresogi ei chartref. Dywedodd un arall wrth Newyddion nad oedd hi'n gallu cysgu am ei bod yn poeni. Roedd yr arian a roddai yn ei mesurydd yn diflannu mewn dim o dro, gyda gwres ei thŷ yn dianc drwy ffenestri drafftiog. Dywedodd fod ei mab yn sâl drwy'r amser. Nid profiadau ynysig yw'r rhain, fel y clywsom. Yng ngwanwyn 2021, bu'n rhaid i 16 y cant o aelwydydd Cymru dorri'n ôl ar wres, trydan neu ddŵr, a thorrodd 15 y cant yn ôl ar fwyd. Dywedir wrthym—unwaith eto, cawn ein rhybuddio ymlaen llaw—y bydd y ffigurau hyn yn tyfu wrth i gostau barhau i godi. Felly, bydd y bwlch rhwng sut y dylai pobl allu byw eu bywydau a'r realiti'n tyfu'n fwy. Bydd y bwlch cywilyddus hwnnw'n agor rhwng byw'n iawn a dim ond goroesi. Ar 1 Ebrill, bydd y cap ar brisiau ynni yn codi. Mae Sefydliad Resolution yn amcangyfrif y bydd hyn yn ychwanegu £600 at filiau ynni blynyddol pobl. Yr un wythnos, daw'r cynnydd i yswiriant gwladol i rym, gan wneud yr aelwyd gyfartalog £600 y flwyddyn yn waeth ei byd. Gyda'i gilydd, yr effaith flynyddol fydd £1,200, neu £100 bob mis.

O ran biliau ynni, mae yna ymyriadau y gellid eu gwneud, ac fe gânt eu gwneud gan wladwriaethau eraill yn wir. Mae Ffrainc yn gorfodi EDF i werthu ynni am brisiau isel. Mae Llywodraeth Sbaen wedi cyflwyno treth ffawdelw ar gynhyrchwyr trydan a chynhyrchwyr nwy. Mae'r Almaen wedi torri gordal ar filiau a ddefnyddir i gefnogi cynlluniau ynni adnewyddadwy, a fydd yn lle hynny'n cael cymorthdaliadau gwladwriaethol ychwanegol o drethi carbon uwch. Gallai'r rhain fod yn addas, neu'n wir yn bosibl, yng nghyd-destun y DU, neu efallai na fyddant yn addas, ond fe allai ac fe ddylai Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU edrych ar ymyriadau fel atal TAW ar filiau ynni dros dro, ôl-osod tai cymdeithasol yn gyflymach a dod o hyd i ffyrdd gwell o ddiogelu'r rhai sydd â mesuryddion rhagdalu. A ellid rhoi cerdyn Llywodraeth Cymru iddynt, er enghraifft, i'w defnyddio mewn sefyllfaoedd argyfyngus, gyda'r opsiwn o ad-dalu dyled yn hirdymor heb ddim llog? Byddai hynny'n ddrud, ond mae'n ymddangos mai'r dewis arall yw pobl yn dioddef a hyd yn oed yn marw oherwydd salwch a achosir gan yr oerfel; sefyllfa lle mae teuluoedd o dan bwysau ariannol sy'n gallu achosi straen a phryder acíwt a all lethu pobl a'u gorflino, ac eto drwy'r amser, argyfwng nad yw'n debyg i sioc fer, sydyn, ond rhwymyn sy'n tynhau'n araf, sy'n clymu pobl yn y gofid a'r dioddefaint sy'n eu caethiwo mewn trawma y maent wedi'i weld yn dod.

Dywedais ar ddechrau fy nghyfraniad fod argyfwng fel arfer yn sydyn a dwys, ond daw ystyr y gair 'argyfwng' mewn gwirionedd o'r Groeg am 'benderfyniad', a dyna'n sicr sydd ei angen yma ar y pwynt tyngedfennol hwn, y funud hon o ddisgwyliad cyn i'r argyfwng waethygu. Mae angen diwygio'n sylfaenol, ac mae angen inni ailystyried y ffordd rydym yn modelu ein cymdeithas fel nad yw'n dibynnu ar bobl yn goddef sefyllfa lle maent prin yn llwyddo i oroesi.