1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 25 Ionawr 2022.
Diolch, Llywydd. Wnaf i ddim canu'r cwestiwn, dwi'n ofni.
1. Pa gefnogaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei ddarparu i atal difrod gan lifogydd mewn cymunedau yn y gogledd yn sgil newid hinsawdd? OQ57533
Llywydd, yn unol â'r cytundeb cydweithio, mae ein cyllideb ddrafft yn nodi cynnydd mewn cyllid cyfalaf a chyllid refeniw i amddiffyn rhag llifogydd ac amddiffyn yr arfordir ledled Cymru, wrth inni ymateb i heriau’r newid yn yr hinsawdd.
Diolch am yr ateb. Mae'n dda clywed hynny. Wrth gwrs, un rhwystredigaeth yw ein bod ni'n cymryd gymaint o amser yn aml iawn i fynd i'r afael ag adfer is-adeiledd. Yn y cyfamser, yn aml iawn, mae'r difrod yn gallu gwaethygu, ac mae'r gost yn y pen draw yn mynd yn fwy. Dwi'n meddwl am enghreifftiau fel y B5606 yn Newbridge ger Wrecsam. Mae dros flwyddyn nawr ers i'r difrod ddigwydd yn fanna. A phont Llannerch yn Nhrefnant yn Sir Ddinbych, lle mae yna flwyddyn hefyd ers i'r difrod ddigwydd i'r bont yn fanna. Ac yn y ddau achos, wrth gwrs, mae trigolion lleol, pan oedden nhw'n gallu cwblhau teithiau byr, nawr yn gorfod cwblhau teithiau hir eithriadol gan fod yr is-adeiledd wedi'i golli, ac mae hynny'n dod â chost o safbwynt ôl-troed carbon hefyd.
Felly, a gaf i wneud cais ar i'r Llywodraeth edrych yn fuan, yn ogystal, wrth gwrs, ag edrych yn ffafriol, ar geisiadau gan yr awdurdodau lleol am fuddsoddiad i adfer y ddwy enghraifft yna o is-adeiledd sydd wedi cael eu colli oherwydd llifogydd a newid hinsawdd, oherwydd nid yn unig y mae'r oedi yn golygu bydd y gwaith yna'n costio mwy yn ariannol, ond mae hefyd yn golygu bod yna gost uwch o safbwynt newid hinsawdd?
Wel, Llywydd, diolch i Llyr Gruffydd am y cwestiynau. Un o'r rhesymau pam rŷn ni wedi rhoi mwy o refeniw i mewn i'r system yw i helpu awdurdodau lleol i baratoi ceisiadau am arian i wneud gwaith ble mae'r gwaith yn angenrheidiol. Ac rŷn ni'n cydnabod y ffaith bod yr awdurdodau lleol wedi cael trafferth i roi popeth gyda'i gilydd, i roi pethau i mewn i ni. Er enghraifft, dwi ddim yn gyfarwydd gyda'r enghraifft roedd Llyr Gruffydd yn cyfeirio ati yn Wrecsam, ond dwi yn gyfarwydd gyda phont Llannerch, ac, ar hyn o bryd, dŷn ni ddim wedi derbyn cais oddi wrth y cyngor lleol.
So, beth rŷn ni wedi gwneud yw nid jest gynyddu arian ar yr ochr cyfalaf i wneud y gwaith, ond y refeniw hefyd i helpu awdurdodau lleol a phobl eraill i baratoi at y gwaith, i roi ceisiadau at ei gilydd, i'w rhoi nhw i mewn i ni, a thrwy wneud hynny, i gyflymu'r broses sydd gyda ni i gyd.
Prif Weinidog, mae llawer o gyrchfannau glan môr ar draws y gogledd, fel y gwyddoch chi, yn agored i berygl llifogydd, gan gynnwys Tywyn a Bae Cinmel yn fy etholaeth i. Nawr, ceir cynlluniau i wella'r amddiffynfeydd môr yn Nhywyn a Bae Cinmel, yn rhan o'r rhaglen rheoli risg arfordirol. Ond mae'r cynigion a ddatblygwyd gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy hyd yma yn eithaf anneniadol o'u cymharu â rhai o'r cynlluniau mewn rhannau eraill o'r gogledd, gan gynnwys ym Mae Colwyn a'r Rhyl cyfagos, ac nid yw'n ymddangos eu bod nhw'n adlewyrchu statws pwysig Tywyn a Bae Cinmel i'r economi ymwelwyr. Felly, Prif Weinidog, a gaf i ofyn i chi pa sicrwydd y gallwch chi ei roi i'r etholwyr yng Ngorllewin Clwyd o ran gallu Llywodraeth Cymru i weithio gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Conwy nawr i gyflwyno gwelliannau newydd i amddiffynfeydd rhag llifogydd arfordirol yn ardal Tywyn a Bae Cinmel a fydd nid yn unig yn gwella diogelwch rhag llifogydd ond hefyd yn gwella'r arfordir, yn gwella mynediad at ein traethau lleol, ac yn gwneud y cyrchfannau hyn yn fwy deniadol i bobl leol ac ymwelwyr hefyd, fel y gallan nhw ennill statws baner las ar ôl i'r gwaith gael ei gwblhau?
Diolch i Darren Millar am y cwestiwn yna, Llywydd. Mae'n codi nifer o faterion pwysig. Mae'n iawn, wrth gwrs—Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yw'r awdurdod rheoli perygl llifogydd ar gyfer y rhannau hynny o'r arfordir, Bae Cinmel i Landdulas, a'r rhannau eraill y soniodd amdanyn nhw. Fel y dywedais i yn fy ateb i Llyr Gruffydd, un o'r rhesymau yr ydym ni wedi cynyddu ochr refeniw ein cyllideb yw i ganiatáu i awdurdodau lleol gael mwy o gapasiti i ddatblygu'r cynlluniau y maen nhw'n eu cyflwyno ar gyfer cyllid wedyn. Ceir 10 cynllun rhaglen rheoli risg arfordirol ar draws y gogledd, ac mae'r arian wedi'i neilltuo—cyfanswm o £190 miliwn, rwy'n credu—i alluogi'r holl gynlluniau hynny i gael eu cyflawni.
Mae mater y mae'r Aelod yn ei godi sy'n un eithaf anodd, yn fy marn i. Mae'n rhaid i'r arian sy'n cael ei neilltuo ar gyfer y rhaglen rheoli perygl arfordirol ganolbwyntio ar ddiogelu cymunedau a busnesau, ac yn y blaen, rhag llifogydd—llifogydd arfordirol. Ac nid yw yno yn bennaf, felly, i gynyddu pa mor ddeniadol yw ardaloedd, nac i ddenu twristiaeth, ond, wrth gwrs, mae'r rheini yn ystyriaethau pwysig iawn pan fydd y cynlluniau hyn yn cael eu dylunio. Nawr, ceir tensiynau, felly, weithiau o ran dod â gwahanol ffrydiau ariannu at ei gilydd, i wneud yn siŵr, pan fydd gwaith yn cael ei wneud, ei fod yn gwneud y prif beth—diogelu cymunedau rhag peryglon llifogydd a llifogydd arfordirol. Ond mae'r ystyriaethau y mae Darren Millar yn eu codi ynghylch sut mae'r gwaith hwnnw yn effeithio wedyn ar ba mor ddeniadol yw ardal ac yn cyfrannu at ei heconomi yn ehangach yn rhai pwysig. A byddaf yn gwneud yn siŵr bod y pwynt hwnnw yn cael ei gyfleu i'r bobl sy'n gyfrifol am oruchwylio'r rhaglenni.
Prif Weinidog, rwy'n croesawu cyhoeddiad diweddar Llywodraeth Cymru o goeden am ddim i bob aelwyd. Mae etholwyr wedi gofyn i mi holi a fydd yn bosibl i aelwydydd ymuno â'i gilydd a phlannu eu coed mewn mannau cymunedol, i greu coedwigoedd bach ac, mewn rhai achosion, i helpu i amsugno dŵr wyneb mewn ardaloedd cymunedol a allai, o bosibl, arwain at lifogydd i gartrefi fel arall.
Diolch i Ken Skates am hynna, Llywydd. Mae'n gwneud pwynt pwysig—bod plannu coed yn rhan o'r amddiffynfeydd rhag llifogydd naturiol yr ydym ni'n awyddus i'w hyrwyddo fel Llywodraeth Cymru. Diolch iddo am dynnu sylw at ein cynllun i annog pob dinesydd yma yng Nghymru i blannu coed. Bydd Ken Skates yn gwybod, Llywydd, bod dwy elfen i'r cynllun: bydd aelwydydd yn gallu dewis coeden eu hunain a'i phlannu yn eu gardd eu hunain, neu byddan nhw'n gallu gwneud eu coeden yn rhan o ymdrech gymunedol. Bydd y rhan honno o'r cynllun yn cael ei harwain gan Coed Cadw. Rwy'n credu ei bod hi'n wych clywed bod cymunedau mewn cysylltiad â'u Haelod o'r Senedd lleol yn gofyn sut y gallan nhw weithredu gyda'i gilydd drwy'r cynllun hwn i wneud gwahaniaeth o'r math a amlinellodd Ken. Ym mis Chwefror, bydd tudalen bwrpasol yn cael ei chyhoeddi gan Coed Cadw—tudalen we—ac yna bydd y grwpiau hynny yn gallu bod mewn cysylltiad â Coed Cadw a gweld sut y gellir manteisio ar y cyfle gwych hwnnw i blannu mwy o goed yn y ffordd gyfunol honno a gwneud gwahaniaeth o ran llifogydd ac amwynderau cymunedol eraill.
Mae cwestiwn 2 [OQ57495] wedi ei dynnu yn ôl. Cwestiwn 3 sydd nesaf, felly, gan Delyth Jewell.