Addysg Gymraeg yn Nwyrain De Cymru

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:40 pm ar 25 Ionawr 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Delyth Jewell Delyth Jewell Plaid Cymru 1:40, 25 Ionawr 2022

Wel, diolch am hwnna. Mae'r strategaeth 2050 yn cyfeirio at gynyddu'r gyfran o bob grŵp ysgol sy'n cael addysg drwy'r Gymraeg o 22 y cant erbyn 2031. Mae yna siroedd yn y de-ddwyrain lle nad oes ysgol uwchradd Gymraeg o gwbl. Ond, hyd yn oed gydag ysgolion cynradd, mae yna lefydd sydd ar eu colled. Ers cau adeilad Ysgol Gymraeg Rhyd-y-Grug ym Mynwent y Crynwyr, neu Quakers Yard, does dim ysgol Gymraeg amlwg i blant oedran cynradd sy'n byw yn y pentref, nac yn Nhreharris yn sir Merthyr, nac ychwaith yn Nelson, sydd jest dros y ffin yng Nghaerffili. Gallai ysgol gynradd yn yr ardal yna wasanaethu nifer fawr iawn o ddisgyblion: plant sydd naill ai yn teithio yn bell iawn ar fws bob bore a phob nos, neu sydd ddim yn gallu mynychu ysgol Gymraeg. Rwy'n deall bod cyfrifoldeb ar gynghorau fan hyn, ond, Prif Weinidog, mae plant a theuluoedd yn colli cyfle euraidd i gael mynediad hawdd at addysg Gymraeg. A fyddech chi'n gallu cymryd cyfrifoldeb a gweithio ar y cyd â chynghorau, yn enwedig i'w cael nhw i weithio ar y cyd hefyd, i ffeindio ffyrdd o sicrhau bod plant yn Nelson a Mynwent y Crynwyr yn gallu cael mynediad hawdd at addysg Gymraeg?