Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:41 pm ar 25 Ionawr 2022.
Wel, diolch yn fawr, i Delyth Jewell am y cwestiwn ychwanegol, Llywydd. Ac mae'n wych i gael y cwestiwn ar y diwrnod ble rydym yn dathlu canmlwyddiant yr Urdd, sydd wedi gwneud cymaint o waith i hybu'r iaith gyda phobl ifanc. Fel dwi wedi clywed pan ydw i wedi sgwrsio gyda swyddogion sy'n gweithio ar y cynlluniau strategol Cymraeg mewn addysg, maen nhw wedi dod i mewn gyda'r uchelgais roeddem ni'n edrych i'w weld yn y cynlluniau newydd. Ac, wrth gwrs, mae hwnna yn ymateb i beth roedd Delyth Jewell yn ei ddweud—treial tyfu'r Gymraeg ym mhob rhan o'r rhanbarth, ond ledled Cymru hefyd, yn enwedig gydag ysgolion cynradd. Dwi ddim wedi gweld y cynlluniau eto. Maen nhw'n dod i'r Gweinidogion yn ystod yr wythnos sydd i ddod, a dwi'n edrych ymlaen at weld cynlluniau ym mhob awdurdod lleol yn rhanbarth Dwyrain De Cymru i weld beth maen nhw'n gallu gwneud er mwyn gwneud mwy i dynnu mwy o blant i mewn i addysg drwy gyfrwng y Gymraeg.
Pan fyddwn ni'n siarad am ysgolion uwchradd, beth rydyn ni'n gobeithio gweld yw awdurdodau lleol yn cydweithio—ble dydyn nhw ddim yn gallu gwneud darpariaeth jest ar eu pen eu hunain, i gydweithio gydag awdurdodau lleol eraill i gael addysg uwchradd i blant sy'n gyfleus iddyn nhw, ac o'r safon ble rydyn ni'n gallu gweld yr iaith yn parhau i gynyddu.