Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:47 pm ar 25 Ionawr 2022.
Diolch, Llywydd. Cyn ein bod ni'n symud ymlaen i ofyn cwestiynau i'r Prif Weinidog, hoffwn i ategu'ch sylwadau chi, Llywydd, wrth ddymuno pen-blwydd hapus iawn i'r Urdd, sydd wedi ac sydd yn dal i gyfrannu'n enfawr i'n treftadaeth, i'n hiaith, i'n pobl ifanc ni ac i'n bywyd pob dydd ni. Felly, pen-blwydd hapus iawn.