1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:47 pm ar 25 Ionawr 2022.
Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau. Ac ar ran y Ceidwadwyr heddiw, Paul Davies.
Diolch, Llywydd. Cyn ein bod ni'n symud ymlaen i ofyn cwestiynau i'r Prif Weinidog, hoffwn i ategu'ch sylwadau chi, Llywydd, wrth ddymuno pen-blwydd hapus iawn i'r Urdd, sydd wedi ac sydd yn dal i gyfrannu'n enfawr i'n treftadaeth, i'n hiaith, i'n pobl ifanc ni ac i'n bywyd pob dydd ni. Felly, pen-blwydd hapus iawn.
Prif Weinidog, mae tua 20 y cant o bobl yng Nghymru ar restr aros am driniaeth nad yw'n fater brys, ac mae 1 o bob 4 o'r cleifion hynny wedi bod yn aros dros flwyddyn am driniaeth, ac mae dros 42,000 o bobl bellach wedi bod yn aros am driniaeth ers mis Tachwedd 2019. Nawr, yr wythnos diwethaf, rhybuddiodd y Gweinidog iechyd bod ffigurau yn debygol o waethygu cyn iddyn nhw wella. Felly, yng ngoleuni sylwadau'r Gweinidog iechyd ychydig ddiwrnodau yn ôl, a allwch chi ddweud wrthym ni pa fodelu y mae Llywodraeth Cymru wedi ei wneud o ran ffigurau amseroedd aros? Oherwydd mae'n hanfodol eich bod chi, fel Llywodraeth, yn edrych ar y senarios gwaethaf fel bod byrddau iechyd yn gallu cynllunio'r gwaith o ddarparu gwasanaethau yn eu rhanbarthau yn fwy effeithiol. Ac a yw'r Gweinidog iechyd yn iawn bod amseroedd aros yn debygol o waethygu?
Llywydd, rwy'n credu bod y Gweinidog iechyd yn iawn, yn y byrdymor, nad ydym ni wedi gweld eto yn y ffigurau a gyhoeddwyd hyd yma effaith y don omicron a'r angen i ddargyfeirio adnoddau'r gwasanaeth iechyd i'r rhaglen frechu a gynhaliwyd yn ystod mis Rhagfyr. Felly, rwy'n credu bod y Gweinidog iechyd, drwy'r modelu sy'n cael ei wneud, yn rhybuddio pobl y bydd y sefyllfa anodd a fydd yn wynebu'r GIG yn gwaethygu cyn iddi wella. Ond bydd yr Aelod Paul Davies wedi gweld Cymdeithas Feddygol Prydain yng Nghymru yn dweud, hyd yn oed yn y ffigurau a gyhoeddwyd yr wythnos diwethaf, bod arwyddion cyntaf o adferiad, ac mae hynny wedi'i seilio ar fodelu, modelu a wnaed gan fyrddau iechyd, modelu a wnaed ar draws arbenigeddau, wedi'i gefnogi yn aml iawn gan drefniadau cenedlaethol, er enghraifft ym maes orthopedeg, i wneud yn siŵr ein bod ni'n gwneud ein gorau i gyfateb capasiti newydd i ddelio â'r galw cynyddol sydd wedi tyfu dros yr 20 mis diwethaf. A cheir cyfres o ffyrdd y bydd byrddau iechyd yn bwriadu gwneud hynny—gwneud y mwyaf o'u capasiti eu hunain, cyflawni mwy o restrau ar benwythnosau, ceisio cydweithredu ar draws ffiniau â byrddau iechyd eraill a thros y ffin i Loegr, i'r siroedd a'r byrddau iechyd hynny sydd wedi'u lleoli ar hyd y ffin honno, ac yna gallu gweld y trai yn troi ar y rhestrau sydd wedi datblygu dros y cyfnod diwethaf pan oedd COVID yn goruchafu.
Prif Weinidog, mae'r Gweinidog iechyd wedi dweud ein bod ni yn dal mewn sefyllfa lle mae cyfyngiadau gwirioneddol iawn yn ein hysbytai oherwydd COVID, ac felly dylai eich sylwadau eich hun yr wythnos diwethaf ein bod ni heibio'r brig, a bod y sefyllfa wedi gwella yn sylweddol, olygu, yn dilyn ffigurau mis Rhagfyr, y dylai amseroedd aros ddechrau lleihau. Yn y cyfamser, mae'n hanfodol nad yw cleifion sy'n mynd i safleoedd GIG mewn perygl o ddal COVID-19. Byddwch wedi gweld yr adroddiad arolygu ysbyty damniol ar Ysbyty'r Tywysog Charles fis diwethaf, a ganfu nad oedd y trefniadau ar gyfer atal a rheoli heintiau yn yr adran achosion brys a'r uned penderfyniadau clinigol yn diogelu cleifion, aelodau'r cyhoedd a staff. Canfu'r adroddiad hwnnw hefyd fethiannau sylweddol o ran cadw at ganllawiau lleol a chenedlaethol, ac fe'i gwnaed yn eglur gan y staff eu hunain eu bod nhw'n poeni am ddal COVID-19 ac yn bryderus am eu cleifion. Felly, Prif Weinidog, pa gamau brys y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i fynd i'r afael â'r materion y tynnwyd sylw atyn nhw yn yr adroddiad hwnnw? Ac yn ehangach, a allwch chi ddweud wrthym ni beth sy'n cael ei wneud i sicrhau bod trefniadau ar gyfer atal a rheoli heintiau ym mhob ysbyty yn diogelu cleifion a staff mewn gwirionedd?
Llywydd, mae'r hyn a ddywedodd Paul Davies ar y dechrau yn cyfeirio at y cyfyng-gyngor cyfan yma, onid yw? Mae ysbytai yn parhau i orfod delio â nifer sylweddol iawn o gleifion sydd wedi dal coronafeirws—mae dros 1,000 o welyau yn y GIG yn dal i fod yn y sefyllfa honno—ac ysbytai yn gorfod rhannu eu hunain yn barthau coch a pharthau gwyrdd, a staff yn dal i orfod gwisgo cyfarpar diogelu personol, gyda'r holl amser y mae hynny'n ei gymryd a'r effaith y mae'n ei chael ar gynhyrchiant, yr angen i lanhau safleoedd a theatrau llawdriniaethau yn ddwys rhwng cleifion, yn enwedig os ydych chi'n gweithredu lle mae'n hysbys bod COVID yn rhan o gyflwr y claf hwnnw. Nid yw'r gwasanaeth iechyd mewn ffordd gyflym yn mynd i allu parhau fel pe na bai dim o hynny yn digwydd. Bydd sgil-effaith faith ar y gwasanaeth iechyd, ac mae arnaf ofn mai'r camau y mae'r bwrdd iechyd yn eu cymryd a fyddai'n arafu cynhyrchiant yn anochel yw'r union rai y mae Paul Davies yn cyfeirio atyn nhw, sy'n diogelu rhag trosglwyddiad coronafeirws o fewn amgylchedd yr ysbyty.
Nawr, gwelais i'r adroddiad ar sefyllfa Merthyr, ac roedd yn fater a godwyd gan aelodau staff eu hunain. A lle mae adroddiad Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru yn dweud bod y cynlluniau gan y bwrdd iechyd lleol i wella'r sefyllfa honno wedi dod atyn nhw mewn ffordd a oedd yn rhoi hyder y byddai'r pethau hynny yn gwella nawr.
Gallwch fod yn siŵr bod staff, ar draws y GIG cyfan, yn gweithio yn ddiflino i geisio atal COVID rhag cylchredeg yn yr ysbyty. Yr un cyfraniad mwyaf y gallwn ni ei wneud at hynny yw parhau i ostwng cyfraddau yn y gymuned, oherwydd mae hwn yn feirws sy'n canfod ei ffordd i leoliadau agored i niwed lle bynnag y mae'r lleoliadau hynny i'w canfod, a pho fwyaf y mae coronafeirws yn cylchredeg yn y gymuned, yr anoddaf yw atal y feirws hwnnw rhag symud i mewn, pa un a yw hynny i leoliad carchar, i leoliad cartref gofal, i ysbyty. Lleoliadau caeedig yw lle mae'r feirws yn ffynnu, a'r cyfraniad mwyaf y gallwn ni i gyd ei wneud i atal y feirws rhag cylchredeg yn yr ysbyty yw lleihau ei gylchrediad yn y gymuned.
Prif Weinidog, mae'n amlwg bod yr adroddiad hwn yn rheswm arall pam mae angen ymchwiliad COVID Cymru gyfan, fel y gellir craffu'n llawn ar faterion fel hyn ac ateb cwestiynau ynghylch sut y digwyddodd y methiannau hyn. Mae gan gleifion yr hawl i deimlo'n ddiogel mewn ysbyty, ac eto, fel y mae'r adroddiad hwn yn ei ddangos, ceir perygl o draws-heintio, ac roedd cleifion mewn perygl mewn rhai achosion. Yn ôl ffigurau diweddar, cafodd bron i chwarter y bobl a fu farw o coronafeirws yng Nghymru eu heintio yn yr ysbyty, ac er i Weinidogion ddweud wrthym ni yn gyson eu bod nhw'n dysgu gwersi ac yn rhoi protocolau cryfach ar waith, mae adroddiad Ysbyty'r Tywysog Charles yn dangos bod cleifion yn dal i gael eu peryglu. Mae wedi dod i'r amlwg bellach, diolch i Grŵp Teuluoedd mewn Profedigaeth COVID-19 dros Gyfiawnder—Cymru, bod adroddiad 'gwersi a ddysgwyd' gan Lywodraeth Cymru yn dilyn yr achosion o SARS yn 2004, lle ymrwymodd Llywodraeth Cymru i archwilio a dyrannu cyllid i wneud iawn am y diffyg cyfleusterau ynysu. Felly, Prif Weinidog, a ddigwyddodd yr archwiliad hwnnw, ac a gafodd ysbytai Cymru y gefnogaeth gywir i foderneiddio eu lleoliadau i ymladd feirysau a drosglwyddir drwy'r awyr rhwng 2004 a dechrau pandemig COVID? Os felly, pam mae rhai byrddau iechyd yn dweud wrth deuluoedd bod diffyg cyfleusterau ynysu wedi peryglu eu gallu i gadw cleifion yn ddiogel? Ac o ystyried y galwadau bellach am ymchwiliad Cymru gyfan gan sefydliadau, gan wleidyddion a chan deuluoedd ledled Cymru, beth fydd yn ei gymryd o'r diwedd i Lywodraeth Cymru gytuno i ymchwiliad Cymru gyfan, fel y gall teuluoedd gael cyfiawnder ac y gallwn ni gael atebion o'r diwedd o ran penderfyniadau a wnaed yma yng Nghymru gan eich Llywodraeth chi?
Wel, Llywydd, rwyf i wedi ateb y cwestiwn hwn gan Aelodau o'r Blaid Geidwadol dro ar ôl tro, ac nid wyf i'n bwriadu ailadrodd yr hyn yr wyf i wedi ei ddweud wrthyn nhw ar yr achlysuron lawer hynny. Yr hyn y byddai'n ei gymryd i ni gael ymchwiliad Cymru gyfan fyddai i mi golli ffydd, fel y mae ef wedi ei wneud eisoes, yn amlwg, yng ngallu Prif Weinidog y DU i ddarparu'r ymchwiliad y mae wedi ei addo. Nawr, os byddaf yn dod at y diffyg hyder sydd ganddo ym mharodrwydd Prif Weinidog y DU i wneud hynny, yna byddai'n rhaid i mi feddwl eto am y trefniadau yma yng Nghymru. Hyd yn hyn, fel yr wyf i hefyd wedi ei esbonio droeon yn y gorffennol, mae Llywodraeth Cymru wedi cael cyfle i fod yn rhan o benodiad y barnwr, y Barnwr Hallett, a fydd yn arwain ymchwiliad annibynnol y DU gyfan, ac roeddwn i'n fodlon â'r penodiad hwnnw. Rwy'n falch iawn ei bod hi'n rhywun sydd â dealltwriaeth gref iawn o'r cyd-destun datganoledig a bydd yn dod â'r gallu i sicrhau bod yr ymchwiliad hwnnw yn canolbwyntio ar brofiadau yma yng Nghymru.
Ceir rhwystr arall i'w basio yn ystod y dyddiau nesaf, pan rwy'n gobeithio y byddwn ni'n gweld y cylch gorchwyl drafft. Mae gyda'r barnwr o hyd ar hyn o bryd. Mae Llywodraeth Cymru, drwy ein swyddogion, wedi cyfrannu at ddatblygu'r cylch gorchwyl hwnnw. Mae Prif Weinidog y DU wedi addo y bydd cyfle mwy ffurfiol i ni wneud sylwadau arnyn nhw ar ôl i'r Barnwr Hallett gwblhau ei hystyriaeth. Byddaf eisiau gweld bod y cylch gorchwyl hwnnw yn sicrhau y bydd y profiad yma yng Nghymru yn cael ei archwilio yn briodol ac yn llawn gan yr ymchwiliad hwnnw. Ac yna bydd cyfres arall o faterion y bydd angen i mi fod yn fodlon â nhw, ynglŷn â'r ffordd y bydd yr ymchwiliad ei hun yn ymgymryd â'i waith. Byddaf yn disgwyl i'r ymchwiliad gael mynediad at arbenigedd am Gymru. Byddaf yn disgwyl iddo gael gwrandawiadau yma, yn uniongyrchol yng Nghymru, i wneud yn siŵr y gall gasglu profiadau, safbwyntiau a chwestiynau pobl yng Nghymru a fydd eisiau i'r ymchwiliad hwnnw allu gwneud y synnwyr gorau y gall o brofiad teuluoedd, cleifion, staff yma yng Nghymru yn ystod y pandemig. Ni fyddan nhw ond yn cael yr atebion hynny, yn fy marn i, pan fyddan nhw'n gallu archwilio'r hyn a ddigwyddodd yma yng Nghymru o fewn y cyd-destun ehangach ac weithiau'n llunio cyd-destun y DU hwnnw. Dyna pam rwy'n credu mai dyna'r ffordd orau o hyd o gael atebion y bydd pobl yn dymuno eu gweld o ymchwiliad i'r hyn a ddigwyddodd yma yng Nghymru. Ac nid oes amheuaeth y bydd hynny yn cynnwys y cwestiynau eraill y mae'r Aelod wedi eu codi y prynhawn yma.
Arweinydd Plaid Cymru nawr, Adam Price.
Llywydd, a gaf innau hefyd longyfarch Urdd Gobaith Cymru ar ran Plaid Cymru am eu canmlwyddiant a hefyd am eu llwyddiant gyda'r ddwy record byd? A diolch iddyn nhw am eu cyfraniad anhygoel i fywyd Cymru dros y ganrif sydd wedi mynd, a hefyd diolch iddyn nhw am roi esgus ichi ddangos eich doniau cerddorol o'r gadair y prynhawn yma. Ond, ymlaen at y craffu.
Prif Weinidog, bu llawer o drafod yn ddiweddar ynghylch byw gyda COVID. Mae'n bwysig cofio, pan fyddwn ni'n clywed yr ymadrodd hwnnw, wrth gwrs, bod bron i 60,000 yng Nghymru, yn ôl y Swyddfa Ystadegau Gwladol, yn byw gyda COVID hir. Mae COVID hir neu syndrom ôl-COVID-19 yn cynnwys amrywiaeth eang o symptomau, ond y nodwedd fwyaf cyson, fel y gwyddom ni, yw math o flinder parhaus difrifol a all fod yn gwbl wanychol. Y tri grŵp galwedigaethol sy'n cael eu heffeithio fwyaf, yn ôl ystadegau swyddogol, yw gofal cymdeithasol, addysgu a gofal iechyd—pobl sydd wedi rhoi eu hunain ar y rheng flaen i wasanaethu eraill ac sydd bellach yn talu'r pris am eu diwydrwydd. A yw'r Prif Weinidog yn cytuno â mi y dylid dosbarthu COVID-19 fel clefyd galwedigaethol bellach, fel sydd wedi digwydd eisoes mewn wyth gwlad yn Ewrop, yn ogystal ag yng Nghanada a De Affrica, ac y dylai fod gan y rhai sydd wedi dal COVID hir fel clefyd cronig drwy gael eu hamlygu yn y gwaith hawl i iawndal?
Wel, Llywydd, ni fyddai hwnnw yn fater i Weinidogion, yn fy marn i, i wneud penderfyniad o'r fath heb y cyngor y byddai ei angen arnyn nhw, ac nid wyf i wedi gweld unrhyw gyngor yn uniongyrchol o'r math hwnnw. Ond rwy'n cytuno â'r hyn y mae Adam Price wedi ei ddweud am bwysigrwydd COVID hir. Mae ffigurau'r Swyddfa Ystadegau Gwladol yr wyf i'n credu ei fod yn dibynnu arnyn nhw yn dangos yn wir fod 58,000 o bobl sy'n byw mewn cartrefi preifat yng Nghymru yn dioddef symptomau COVID bedair wythnos ar ôl dal y clefyd am y tro cyntaf, ac mewn bron i draean o'r rheini, neu tua thraean o'r rheini, mae pobl yn dal i ddioddef y symptomau hynny flwyddyn ar ôl cael y digwyddiad acíwt.
Felly, un o'r rhesymau pam yr wyf i'n teimlo mor rhwystredig pan fyddaf yn clywed gwleidyddion Ceidwadol yn bennaf yn siarad yn rhwydd am fyw gyda coronafeirws, fel pe bai'n rhyw fath o fater dibwys, yw ein bod ni'n gwybod mai po fwyaf y bobl sy'n dal coronafeirws yn y gymuned, hyd yn oed pan fydd yn ysgafn i'r rhan fwyaf o bobl, bydd cyfran ohonyn nhw yn byw gyda COVID hir yn y pen draw, a po fwyaf y bobl sy'n dal y clefyd, y mwyaf o bobl y bydd yna sydd â COVID hir. Ac nid yw hynny yn rhywbeth i roi o'r neilltu fel pe na bai'n cyfrif am ddim.
Hyd yma, mae clinigau arbenigol ar gyfer COVID-19 hir wedi cael eu sefydlu yng Nghanada, yr Unol Daleithiau, Lloegr, yr Almaen, Gwlad Belg, Ffrainc, Sbaen, Norwy, ac, yn yr Eidal, mae'r sefydliad iechyd cenedlaethol yno wedi argymell yn ddiweddar y dylid creu clinigau cleifion allanol ôl-COVID yn eu gwlad hwythau hefyd. Y farn gyson ymhlith cleifion yw ei bod hi'n annheg disgwyl i feddygon teulu ddarparu'r cymorth angenrheidiol ar gyfer cyflwr sydd angen ymyrraeth arbenigol ac y mae ei drin yn gofyn am gysylltiad cryf ag ymchwil trosiadol na ellir ond ei ddarparu gan glinigau penodedig, ac y mae ei absenoldeb yn gorfodi llawer o bobl i fynd yn breifat ar hyn o bryd. Byddai hynny yn anghywir beth bynnag, ond mae'n arbennig o anghywir pan fo ffigurau'r Swyddfa Ystadegau Gwladol yn dangos bod COVID hir ddwywaith mor gyffredin ymhlith y rhai mwyaf difreintiedig. A yw Llywodraeth Cymru yn barod i ailystyried ei dull gweithredu a sefydlu clinigau arbenigol y mae cleifion ac arbenigwyr meddygol yn rhyngwladol yn galw fwyfwy amdanyn nhw?
Wel, rwy'n credu bod llawer o anfanteision i'r strategaeth honno. Nid yw'r dystiolaeth y mae'r Aelod yn cyfeirio ati gen i; nid wyf i'n gwybod beth mae'n ei olygu wrth ddweud bod llawer o bobl yn mynd yn breifat, ac yn sicr nid wyf i'n cydnabod y safbwynt bod cleifion o'r farn gyffredinol nad meddygon teulu yw'r bobl iawn i ddarparu'r cymorth sydd ei angen arnyn nhw. Mae'r canolfannau yn Lloegr wedi eu gorlethu gymaint gan atgyfeiriadau erbyn hyn bod rhestrau aros mor hir â COVID hir. Felly, nid yw cymryd y cam syml o sefydlu canolfan o bell ffordd yn sicr yn rhoi'r ateb sydd ei angen ar gleifion. Ac rwyf i wedi credu erioed, os ydych chi'n dioddef o COVID hir—. Roedd Adam Price yn iawn pan ddywedodd bod 51 y cant o'r bobl hynny yn dweud mai blinder gwanychol iawn yw'r prif symptom. Nawr, os oes gennych chi flinder gwanychol iawn ac y dywedir wrthych chi bod yn rhaid i chi wneud taith hir o ble’r ydych chi'n byw i ganolfan arbenigol ymhell i ffwrdd er mwyn cael triniaeth, nid wyf i'n sicr mai dyna'r ateb gorau i'ch cyflwr.
Felly, y dull gweithredu sydd gennym ni yng Nghymru yw ein bod ni eisiau gwneud yn siŵr bod ein clinigwyr gofal sylfaenol mor barod â phosibl i ymateb i gynifer o bobl â phosibl yn llwyddiannus yn agos at eu cartrefi eu hunain, oherwydd natur y cyflwr, ac yna, pan fydd pobl sydd angen math mwy arbenigol o driniaeth, gallu darparu honno drwy'r GIG hefyd. Nid wyf i wedi fy argyhoeddi eto mai'r syniad o ganolfannau yw'r ateb cywir i Gymru.
Rwy'n credu bod y farn gonsensws, yn sicr ymhlith yr arbenigwyr rhyngwladol yr wyf i wedi bod yn eu darllen, yn symud tuag at strategaeth ategol, y mae'n amlwg sydd â rhan i'w chwarae ar gyfer gofal sylfaenol, ond sy'n ategu hynny gyda'r clinigau arbenigol hyn mewn cyflwr lle mae gwybodaeth yn datblygu yn gyflym. Nawr, mae amcangyfrifon ledled y byd yn awgrymu bod rhwng 10 y cant ac 20 y cant o blant sy'n dal COVID-19 yn datblygu COVID hir pediatrig, a chan ddefnyddio ffigurau'r Swyddfa Ystadegau Gwladol, mae'n bosibl amcangyfrif bod ymhell dros 5,000 o blant yng Nghymru yn dioddef o'r cyflwr hwn ar hyn o bryd. Os nad yw Llywodraeth Cymru yn barod i sefydlu clinigau arbenigol ar gyfer oedolion, am y rhesymau y mae'r Prif Weinidog wedi eu hamlinellu, a yw o leiaf yn barod i wneud hynny ar gyfer plant y mae eu bywydau cyfan mewn perygl o gael eu difetha os na chânt y diagnosis cyflymaf posibl, y cyngor meddygol gorau a'r driniaeth fwyaf effeithiol, yn seiliedig ar yr wybodaeth ddiweddaraf? Siawns nad yw'r genhedlaeth hon o bobl ifanc, ar ôl yr hyn y maen nhw wedi bod drwyddo eisoes, yn haeddu dim llai.
Gadewch i mi ddechrau, Llywydd, trwy gytuno â rhywbeth a ddywedodd Adam Price, oherwydd nid wyf i'n meddwl—. Nid fy mwriad i oedd nodweddu'r drafodaeth hon fel pe bai meddwl Llywodraeth Cymru yn gaeedig o ran hyn i gyd, oherwydd mae'n iawn bod gwybodaeth yn datblygu drwy'r amser. Mae astudiaethau ymchwil yn adrodd drwy'r amser. Mae 19 o astudiaethau COVID o ansawdd uchel ar y gweill ar hyn o bryd, ac mae Cymru yn cymryd rhan mewn cryn dipyn ohonyn nhw. Felly, rydym ni'n parhau i ddilyn canlyniad y ddadl honno, ac os oes gwahanol fathau o ddarpariaeth y mae'r wybodaeth sy'n datblygu yn awgrymu y dylem ni eu darparu yma yng Nghymru, yna wrth gwrs dyna'r hyn y byddwn ni'n ystyried ei wneud. Roeddwn i'n myfyrio, ac rwy'n dal i fyfyrio, nad yw'r sefyllfa bresennol o ran gwybodaeth yn fy arwain i gredu mai rhoi ein prif bwyslais ar ganolfannau arbenigol yw'r ffordd orau o gael y cymorth gorau i'r rhan fwyaf o bobl. Nawr, o ran plant, un o'r problemau yma yw nad oes diffiniad y cytunwyd arno o hyd—dim diffiniad clinigol y cytunwyd arno—ymhlith y colegau brenhinol ac eraill sy'n gyfrifol am yr hyn yw COVID hir mewn plant i fod. Sut fyddech chi'n gwneud diagnosis? Sut fyddech chi'n nodi rhywun? Mae'n anodd pan nad yw'r diffiniad ei hun wedi'i gytuno.
Nawr, rydym ni'n dal i fod mewn cysylltiad agos â'r Coleg Brenhinol Pediatreg ac Iechyd Plant ar y mater hwn. Mae'r niferoedd yr ydym ni'n gwybod amdanyn nhw, sy'n cael eu hadrodd, o blant sydd â COVID hir yng Nghymru yn dal i fod yn isel. A gallwch allosod niferoedd yn y ffordd y gwnaeth arweinydd Plaid Cymru, ond nid yw nifer y plant yn y system mewn gwirionedd y nodwyd eu bod nhw'n dioddef o COVID hir mor uchel ag y byddai'r allosod hwnnw yn ei awgrymu. Mae byrddau iechyd yn trin y plant hynny yn unol â'u hanghenion penodol. Nawr, mae gennym ni grŵp arbenigol ar COVID hir yma yng Nghymru, ac mae ganddo is-grŵp erbyn hyn, sy'n edrych yn benodol ar sut rydym ni'n trin plant â COVID hir, a cheir seminar a drefnwyd ar gyfer 7 Chwefror i glinigwyr sy'n ymwneud â thrin plant ddod at ei gilydd a rhannu profiadau a'n helpu i ddatblygu ein dull o ddarparu gwasanaethau ar eu cyfer. Yn union fel y dywedodd Adam Price, Llywydd, mae ein sefyllfa o ran gwybodaeth a dealltwriaeth yn datblygu, yn gyffredinol, drwy'r amser o ran COVID hir. Rwy'n credu bod hynny yn arbennig o wir am blant, lle mae'n debyg bod gan wybodaeth a dealltwriaeth gryn dipyn o dir i'w ennill cyn y gallwn ni fod yn sicr am y ffyrdd gorau o ddiwallu anghenion y bobl ifanc hynny.