Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:01 pm ar 25 Ionawr 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Adam Price Adam Price Plaid Cymru 2:01, 25 Ionawr 2022

(Cyfieithwyd)

Hyd yma, mae clinigau arbenigol ar gyfer COVID-19 hir wedi cael eu sefydlu yng Nghanada, yr Unol Daleithiau, Lloegr, yr Almaen, Gwlad Belg, Ffrainc, Sbaen, Norwy, ac, yn yr Eidal, mae'r sefydliad iechyd cenedlaethol yno wedi argymell yn ddiweddar y dylid creu clinigau cleifion allanol ôl-COVID yn eu gwlad hwythau hefyd. Y farn gyson ymhlith cleifion yw ei bod hi'n annheg disgwyl i feddygon teulu ddarparu'r cymorth angenrheidiol ar gyfer cyflwr sydd angen ymyrraeth arbenigol ac y mae ei drin yn gofyn am gysylltiad cryf ag ymchwil trosiadol na ellir ond ei ddarparu gan glinigau penodedig, ac y mae ei absenoldeb yn gorfodi llawer o bobl i fynd yn breifat ar hyn o bryd. Byddai hynny yn anghywir beth bynnag, ond mae'n arbennig o anghywir pan fo ffigurau'r Swyddfa Ystadegau Gwladol yn dangos bod COVID hir ddwywaith mor gyffredin ymhlith y rhai mwyaf difreintiedig. A yw Llywodraeth Cymru yn barod i ailystyried ei dull gweithredu a sefydlu clinigau arbenigol y mae cleifion ac arbenigwyr meddygol yn rhyngwladol yn galw fwyfwy amdanyn nhw?