Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:55 pm ar 25 Ionawr 2022.
Wel, Llywydd, rwyf i wedi ateb y cwestiwn hwn gan Aelodau o'r Blaid Geidwadol dro ar ôl tro, ac nid wyf i'n bwriadu ailadrodd yr hyn yr wyf i wedi ei ddweud wrthyn nhw ar yr achlysuron lawer hynny. Yr hyn y byddai'n ei gymryd i ni gael ymchwiliad Cymru gyfan fyddai i mi golli ffydd, fel y mae ef wedi ei wneud eisoes, yn amlwg, yng ngallu Prif Weinidog y DU i ddarparu'r ymchwiliad y mae wedi ei addo. Nawr, os byddaf yn dod at y diffyg hyder sydd ganddo ym mharodrwydd Prif Weinidog y DU i wneud hynny, yna byddai'n rhaid i mi feddwl eto am y trefniadau yma yng Nghymru. Hyd yn hyn, fel yr wyf i hefyd wedi ei esbonio droeon yn y gorffennol, mae Llywodraeth Cymru wedi cael cyfle i fod yn rhan o benodiad y barnwr, y Barnwr Hallett, a fydd yn arwain ymchwiliad annibynnol y DU gyfan, ac roeddwn i'n fodlon â'r penodiad hwnnw. Rwy'n falch iawn ei bod hi'n rhywun sydd â dealltwriaeth gref iawn o'r cyd-destun datganoledig a bydd yn dod â'r gallu i sicrhau bod yr ymchwiliad hwnnw yn canolbwyntio ar brofiadau yma yng Nghymru.
Ceir rhwystr arall i'w basio yn ystod y dyddiau nesaf, pan rwy'n gobeithio y byddwn ni'n gweld y cylch gorchwyl drafft. Mae gyda'r barnwr o hyd ar hyn o bryd. Mae Llywodraeth Cymru, drwy ein swyddogion, wedi cyfrannu at ddatblygu'r cylch gorchwyl hwnnw. Mae Prif Weinidog y DU wedi addo y bydd cyfle mwy ffurfiol i ni wneud sylwadau arnyn nhw ar ôl i'r Barnwr Hallett gwblhau ei hystyriaeth. Byddaf eisiau gweld bod y cylch gorchwyl hwnnw yn sicrhau y bydd y profiad yma yng Nghymru yn cael ei archwilio yn briodol ac yn llawn gan yr ymchwiliad hwnnw. Ac yna bydd cyfres arall o faterion y bydd angen i mi fod yn fodlon â nhw, ynglŷn â'r ffordd y bydd yr ymchwiliad ei hun yn ymgymryd â'i waith. Byddaf yn disgwyl i'r ymchwiliad gael mynediad at arbenigedd am Gymru. Byddaf yn disgwyl iddo gael gwrandawiadau yma, yn uniongyrchol yng Nghymru, i wneud yn siŵr y gall gasglu profiadau, safbwyntiau a chwestiynau pobl yng Nghymru a fydd eisiau i'r ymchwiliad hwnnw allu gwneud y synnwyr gorau y gall o brofiad teuluoedd, cleifion, staff yma yng Nghymru yn ystod y pandemig. Ni fyddan nhw ond yn cael yr atebion hynny, yn fy marn i, pan fyddan nhw'n gallu archwilio'r hyn a ddigwyddodd yma yng Nghymru o fewn y cyd-destun ehangach ac weithiau'n llunio cyd-destun y DU hwnnw. Dyna pam rwy'n credu mai dyna'r ffordd orau o hyd o gael atebion y bydd pobl yn dymuno eu gweld o ymchwiliad i'r hyn a ddigwyddodd yma yng Nghymru. Ac nid oes amheuaeth y bydd hynny yn cynnwys y cwestiynau eraill y mae'r Aelod wedi eu codi y prynhawn yma.