Stelcio

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:23 pm ar 25 Ionawr 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 2:23, 25 Ionawr 2022

(Cyfieithwyd)

Llywydd, rydym ni'n cryfhau ein strategaeth trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol i gynnwys stelcio ac aflonyddu ar fenywod a merched mewn mannau cyhoeddus yn ogystal ag yn y cartref. Mae mynd i'r afael â chasineb at fenywod a thrais gwrywaidd wrth wraidd ein dull gweithredu.