Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:27 pm ar 25 Ionawr 2022.
Llywydd, mae Llywodraeth Cymru yn benderfynol na fydd unrhyw genhedlaeth goll yng Nghymru o ganlyniad i'r pandemig coronafeirws. Mae ein gwarant i bobl ifanc yn rhaglen uchelgeisiol, sydd â'r bwriad o ddarparu cynnig o waith, addysg, hyfforddiant neu hunangyflogaeth i bawb dan 25 oed yn ne Cymru, gan gynnwys Cymoedd y De.