Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:59 pm ar 25 Ionawr 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Adam Price Adam Price Plaid Cymru 1:59, 25 Ionawr 2022

(Cyfieithwyd)

Prif Weinidog, bu llawer o drafod yn ddiweddar ynghylch byw gyda COVID. Mae'n bwysig cofio, pan fyddwn ni'n clywed yr ymadrodd hwnnw, wrth gwrs, bod bron i 60,000 yng Nghymru, yn ôl y Swyddfa Ystadegau Gwladol, yn byw gyda COVID hir. Mae COVID hir neu syndrom ôl-COVID-19 yn cynnwys amrywiaeth eang o symptomau, ond y nodwedd fwyaf cyson, fel y gwyddom ni, yw math o flinder parhaus difrifol a all fod yn gwbl wanychol. Y tri grŵp galwedigaethol sy'n cael eu heffeithio fwyaf, yn ôl ystadegau swyddogol, yw gofal cymdeithasol, addysgu a gofal iechyd—pobl sydd wedi rhoi eu hunain ar y rheng flaen i wasanaethu eraill ac sydd bellach yn talu'r pris am eu diwydrwydd. A yw'r Prif Weinidog yn cytuno â mi y dylid dosbarthu COVID-19 fel clefyd galwedigaethol bellach, fel sydd wedi digwydd eisoes mewn wyth gwlad yn Ewrop, yn ogystal ag yng Nghanada a De Affrica, ac y dylai fod gan y rhai sydd wedi dal COVID hir fel clefyd cronig drwy gael eu hamlygu yn y gwaith hawl i iawndal?