Part of the debate – Senedd Cymru am 2:42 pm ar 25 Ionawr 2022.
Diolch, Llywydd. Mae caffael yn un o'r ysgogiadau pwysicaf a mwyaf grymus y gall Llywodraeth Cymru ei ddefnyddio i helpu i gyflawni ei dyhead o ran ei rhaglen lywodraethu ar gyfer Cymru fwy llewyrchus, fwy cyfartal a gwyrddach. Dim ond rhai o'r blaenoriaethau niferus y gellir eu cefnogi drwy bolisi caffael clir, clyfar ac effeithiol yw twf economaidd cynaliadwy, gwaith teg, datgarboneiddio a darparu gwasanaethau cyhoeddus effeithiol. Rwy'n falch o roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau heddiw am ein gwaith ni gyda phartneriaid ledled y sector cyhoeddus, y sector preifat, a'r trydydd sector i gefnogi'r uchelgeisiau hyn.
Mae cwmpas amrywiol a graddfa eang gwariant y sector cyhoeddus yng Nghymru yn gosod sylfeini cadarn i wneud yn fawr o'n cyfraniad ni at y saith nod llesiant yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015. Mae'r gallu gan gaffael y sector cyhoeddus yng Nghymru i sicrhau canlyniadau o ran gwerth cymdeithasol ehangach ar gyfer llesiant Cymru. Mae 'gwerth cymdeithasol' yn derm eang a ddefnyddiwyd i ddisgrifio effeithiau cymdeithasol, amgylcheddol, diwylliannol, ac economaidd y camau a gymerwyd gan gymunedau, sefydliadau, llywodraethau ac unigolion. Mae'r Llywodraeth hon wedi ymrwymo i weithio gyda phartneriaid ledled Cymru a thu hwnt i ddatblygu dull modern a chynaliadwy o gaffael, ac rwyf i wedi comisiynu ymgynghoriaeth Canolfan Cydweithredol Cymru i fapio'r tirlun cyfredol o ran gwerth cymdeithasol, gan gynnwys yr offer amrywiol sydd ar gael i sector cyhoeddus Cymru. Fe fydd Canolfan Cydweithredol Cymru yn ymgysylltu â rhanddeiliaid i gasglu canfyddiadau a gwneud argymhellion i gefnogi'r gwaith o ddarparu gwerth cymdeithasol yn Llywodraeth Cymru, ac yn y pen draw fe fydd hynny'n cefnogi dull gweithredu cyson ledled Cymru.
Mae caffael yn faes lle gellir cyflawni llawer iawn pan fydd partneriaid blaengar yn cydweithio â'i gilydd, ac mae cytundeb cydweithredu Llywodraeth Cymru â Phlaid Cymru yn cynnwys ymrwymiad i archwilio sut i bennu nodau ystyrlon i gynyddu cyfran y gwariant caffael a roddir i gyflenwyr yng Nghymru o'i chyfradd bresennol. Rydym ni eisoes yn annog ac yn cefnogi busnesau bach a chanolig eu maint i dendro am gyfleoedd, ac fe fyddaf i'n ymchwilio i fesurau pellach a all wneud y broses dendro yn un haws ac yn fwy ymarferol i fusnesau bach yng Nghymru. Ar gyfer cynyddu cyfran y cyflenwyr yng Nghymru eto, fe fyddwn ni'n cynnal dadansoddiad manwl o gadwyni cyflenwi'r sector cyhoeddus. Fe wnes i gyfarfod yn ddiweddar ag aelod dynodedig Plaid Cymru, Cefin Campbell, i drafod datblygiad cynnar y gwaith hwn, ac fe fyddaf i'n rhoi diweddariad arall i'r aelodau ar wahanol elfennau'r gwaith hwn maes o law.
Mae Llywodraeth Cymru yn gwneud llawer o waith eisoes i hyrwyddo prynu cynnyrch a wnaed yng Nghymru, gan gynnwys defnyddio dur o Gymru mewn prosiectau seilwaith. Fe fyddaf i'n ymchwilio ymhellach gyda fy nghyd-Weinidogion i'r cyfleoedd y mae'r Strategaeth buddsoddi yn seilwaith Cymru newydd yn eu cynnig i ni ar gyfer gwneud cynnydd pellach yn y maes hwn, gan gynnwys ymestyn y cyfleoedd ar gyfer dur Cymru mewn prosiectau cyhoeddus.
O ran cynigion Llywodraeth y DU ar gyfer diwygio caffael, mae fy swyddogion i wedi bod yn gweithio'n agos gyda thîm Bil diwygio caffael y DU i gyfrannu at ddatblygu'r Bil. Bydd yr Aelodau'n cofio fy natganiad ysgrifenedig ar 18 Awst, lle nodais y bydd darpariaeth ar gyfer awdurdodau contractio Cymru yn cael ei gwneud o fewn Bil diwygio caffael Llywodraeth y DU. Roedd y penderfyniad hwn yn dilyn ymgysylltu â phartneriaid cymdeithasol a rhanddeiliaid ar draws y sector cyhoeddus, y sector preifat a'r trydydd sector, ac roedd yn amodol ar dderbyn sicrwydd ysgrifenedig gan Lywodraeth y DU na fyddai ymuno â deddfwriaeth y DU yn cael effaith negyddol ar Fil Partneriaeth gymdeithasol a chaffael cyhoeddus (Cymru), yn hytrach fe fydd y ddeddfwriaeth yn ategu ei gilydd ac yn gwneud y mwyaf o'n gallu i gyflawni'r canlyniadau polisi pwysig yr ydym ni'n eu ceisio.
Er y bydd y Bil i ddiwygio caffael gan Lywodraeth y DU yn canolbwyntio ar y prosesau sylfaenol ar draws y cylch bywyd masnachol, fe fydd y Bartneriaeth gymdeithasol a'r Bil caffael cyhoeddus yn canolbwyntio ar sicrhau bod canlyniadau sy'n gyfrifol yn gymdeithasol yn cael eu cwblhau oherwydd ein caffael ni. Fel y cadarnhaodd fy nghyd-Aelod i, y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol, mae fy swyddogion i'n parhau i gysylltu â thîm Bil diwygio caffael y DU a thîm y Bartneriaeth Gymdeithasol a'r Bil Caffael Cyhoeddus i sicrhau cyn lleied o gamosodiadau â phosibl rhwng y ddau ddarn pwysig hyn o ddeddfwriaeth.
Rydym ni'n deall mai bwriad Llywodraeth y DU yw cyflwyno'r Bil diwygio caffael pan fydd amser seneddol yn caniatáu hynny. Mae fy nghyd-Aelod, y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol, wedi dweud o'r blaen hefyd ein bod ni'n dal i fod ar y trywydd iawn i gyflwyno'r Bil partneriaeth a chaffael cymdeithasol ym mlwyddyn gyntaf y tymor Seneddol hwn. Felly, mae hi'n bosibl y bydd Bil diwygio caffael y DU a Bil partneriaeth gymdeithasol a chaffael cyhoeddus Llywodraeth Cymru yn cael eu cyflwyno i'r Senedd tua'r un pryd â'i gilydd. Fe fydd y ddau Fil hwn, gyda'i gilydd, yn rhoi llwyfan newydd a blaengar ar gyfer caffael yng Nghymru sy'n sicrhau canlyniadau cymdeithasol, amgylcheddol, economaidd, a diwylliannol, gan gynnwys ein huchelgais ni i wneud Cymru yn wlad gwaith teg.
Rydym ni'n ymwybodol iawn o'r cymorth y bydd ei angen ar yr ymarferwyr a'r diwydiant o ganlyniad i'r newidiadau hyn yn y ddeddfwriaeth, ac fe fyddwn ni'n gweithio gyda rhanddeiliaid i sicrhau y bydd canllawiau statudol ymarferol a chynhwysfawr ar waith cyn gynted â phosibl ar ôl i'r Biliau dderbyn Cydsyniad Brenhinol. Fe fydd y canllawiau hyn yn arbennig o bwysig yng nghyd-destun yr her barhaus o ran diffyg maint a gallu caffael yn y sector cyhoeddus yng Nghymru. Roeddwn i'n falch o gyhoeddi datganiad ysgrifenedig i'r Senedd yn gynharach ym mis Tachwedd yn tynnu sylw at yr hyn yr ydym ni'n ei wneud i helpu i roi hwb i'r proffesiwn. Mewn cydweithrediad â rhanddeiliaid, rydym ni wedi darparu rhaglen ar gyfer cynyddu maint a gallu'r proffesiwn caffael yng Nghymru gyda chyllid o bron i £700,000 ers 2020. Rydym ni wedi cefnogi 118 o aelodau staff y sector cyhoeddus i ymgymryd â rhaglen ddyfarnu'r Sefydliad Siartredig Prynu a Chyflenwi. Mae'r cyrsiau pwrpasol yn cynnwys defnyddio iaith a therminoleg gyfarwydd, gan ddefnyddio enghreifftiau o Gymru i helpu myfyrwyr i roi polisi caffael Cymru ar waith. Yn ddiweddar, rwyf i wedi cymeradwyo cyllid ar gyfer y rhaglen i'r dyfodol a fydd yn cefnogi 76 o leoedd eraill ar y rhaglen garfan.
Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, rydym ni hefyd wedi cynnal ymarfer darganfod i'n helpu ni i wella ein systemau caffael digidol ni a'u paratoi nhw i gefnogi diwygio caffael yn ogystal ag ysgogiadau pwysig eraill o ran caffael, fel y Bil partneriaeth gymdeithasol. Defnyddiwyd yr adborth hwn i lunio ein map ffyrdd digidol diweddaraf o ran caffael am y tair blynedd nesaf, ac mae'r gwaith hwn bellach wedi cyrraedd ei gam cyflawni. Mae ein gwaith ni'n cyd-fynd hefyd ag argymhellion gan gomisiynydd cenedlaethau'r dyfodol ar gyfer canolfan ragoriaeth caffael yng Nghymru. Fe wnaethom ni lansio ymarfer darganfod ar ddiwedd y llynedd gyda chyfraniad oddi wrth randdeiliaid o bob rhan o'r sector cyhoeddus yng Nghymru. Byddaf yn ystyried y canfyddiadau a'r argymhellion sy'n deillio o'r ymarfer hwn yn ystod yr wythnosau nesaf.
Caiff llawer iawn o waith cyffrous ei wneud gan Lywodraeth Cymru i hybu caffael er budd y cyhoedd yng Nghymru ac ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol, ac rwy'n edrych ymlaen at glywed gan Aelodau ar draws y Siambr heddiw. Diolch.