Part of the debate – Senedd Cymru am 4:48 pm ar 25 Ionawr 2022.
Diolch, Dirprwy Lywydd, a diolch, Gweinidog, am y datganiad. Plant, mamau, tadau, neiniau a theidiau—nid oedd neb yn ddiogel rhag cael eu llowcio yn fflamau llygredig Natsïaeth. Llofruddiwyd dros 6 miliwn o bobl, fel yr ydym ni eisoes wedi clywed, ac fe'u llofruddiwyd nid am unrhyw fai o'u heiddo eu hunain, ond dim ond oherwydd pwy oedden nhw. Ac mae'r nifer hwnnw'n fwy na ffigur yn unig; y tu ôl iddo mae miliynau o bobl a oedd yn famau a thadau, yn feddygon ac yn athrawon, yn ddynion ac yn fenywod a laddwyd yn ddidrugaredd gan y gyfundrefn ffiaidd honno. Ac eto, yr unig ryddhad i ni yw bod rhai, yn ffodus, wedi llwyddo i oroesi'r dioddefaint hwnnw. Un o'r rheini oedd y diweddar Mady Gerrard, a lwyddodd i ddechrau bywyd newydd iddi hi ei hun yn Sir Fynwy. Wrth gofio ei dioddefaint, dywedodd wrth y South Wales Argus:
'Ym 1944, yn 14 oed, cefais fy alltudio o fy Hwngari frodorol i Auschwitz. Roeddwn wedi dyweddïo i briodi'r dyn yr oeddwn i'n ei garu'n fawr. Roedd arno eisiau bod yn feddyg a minnau yn hanesydd celf, ond nid dyna oedd Hitler wedi'i gynllunio i ni. Fe gyrhaeddom ni Auschwitz ar 8 Gorffennaf. Roedd yn uffern.'
Ni fyddwn byth yn gwybod yn iawn beth ddigwyddodd yn y gwersyll hwnnw. Yn dilyn y rhyfel, dychwelodd i'w Hwngari frodorol gan obeithio dod o hyd i'w thad, ond byddai'n dysgu'n fuan ei fod yn un o'r 6 miliwn. Mae Diwrnod Cofio'r Holocost yn annog pob un ohonom ni i gofio un o'r cyfnodau tywyllaf mewn hanes, yn ogystal â'r hil-laddiadau dilynol yn Cambodia, Rwanda, Bosnia a Darfur. Felly, mae'n ddyletswydd arnom ni i sicrhau nad yw erchyllterau'r Holocost byth yn cael eu hanghofio. Fel mae dyfyniad enwog yn Auschwitz yn ei ddweud yn huawdl, 'Mae'r un nad yw'n cofio hanes yn sicr o fyw drwyddo eto.'
Felly, mae'n rhaid inni ddysgu o'r gorffennol yn ogystal â pheidio byth â osgoi'r her o gasineb o bob math. Rwy'n croesawu cyllid Llywodraeth Cymru ar gyfer y rhaglen Gwersi o Auschwitz, sy'n cael ei chyflwyno ar y cyd ag Ymddiriedolaeth Addysgol yr Holocost. Gweinidog, a wnewch chi roi sicrwydd y bydd Llywodraeth Cymru yn darparu cyllid hirdymor ar gyfer y rhaglen honno? Diolch.