5. Datganiad gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: Diwrnod Cofio'r Holocost

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:24 pm ar 25 Ionawr 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Sioned Williams Sioned Williams Plaid Cymru 4:24, 25 Ionawr 2022

Diolch, Dirprwy Lywydd. Yn ei lyfr arobryn Yr Erlid, mae Heini Gruffudd o Abertawe yn olrhain hanes ei fam, y llenor a'r ysgolhaig, Käthe Bosse-Griffiths, ac effaith erchyll twf Natsïaeth yr Holocost arni hi a'i theulu yn yr Almaen. Cawson nhw, fel miliynau o deuluoedd eraill nad oedd yn cael eu hystyried yn bobl gan y Natsïaid a'u cynghreiriaid, eu herlid, a rhai fel ei fam yn gorfod troi'n alltud, eraill fel ei hen fodryb yn cyflawni hunanladdiad, a miliynau fel ei famgu yn cael eu lladd yn y gwersylloedd carchar. Mae'n anodd dirnad y dioddefaint. Ond mae cyfrolau fel Yr Erlid, drwy adrodd hanes un teulu, yn ein helpu i ddeall y modd y galluogwyd i ideoleg wrthdroëdig a rhagfarn esgor ar greulondeb annynol a hil-laddiad. Roedd profiad teulu fy chwaer yng nghyfraith, Dr Zoe Morris-Williams, yn un tebyg iawn, ac mae disgynyddion ei thadcu, yr arlunydd Heinz Koppel, ddaeth yn un o artistiaid blaenllaw Cymru, wedi gwneud cyfraniad mawr i'w cymunedau ac i Gymru, gyda Zoe, yn wyres i ffoadur, yn achub bywydau fel meddyg. 

Yn yr un modd ag y mae hanesion teuluoedd unigol yn sicrhau ein bod yn deall yr annealladwy, mae un diwrnod, Diwrnod Cofio'r Holocost, yn ein helpu i gofio bywydau'r miliynau a laddwyd yn sgil erledigaeth y Natsïaid, a hefyd pob teulu ar draws ein byd sydd wedi dioddef yn sgil hil-laddiad. Mae diwrnod o gofio yn rhoi cyfle inni wir adlewyrchu ar yr hanesion hyn ac i glywed a deall y rhybuddion sydd ymhlyg ynddynt, ac ymrwymo i weithio tuag at ddyfodol heb erledigaeth a chreulondeb o'r fath, ac i ddileu'r hiliaeth a'r anoddefgarwch sy'n medru arwain at hynny. 

Rydym ni wedi sôn yn y lle hwn ein bod ar hyn o bryd yn byw trwy argyfwng economaidd nas welwyd ei fath ers degawdau. Rydym wedi gweld mewn cyfnod o argyfwng cenedlaethol ac ansicrwydd economaidd sut mae anoddefgarwch yn gallu tyfu a hefyd yn gallu cael ei feithrin am resymau gwleidyddol. Dyw hyn ddim yn perthyn i'r gorffennol. Dim ond wythnos diwethaf y gwelais i symbol Natsïaeth wedi ei baentio ar wal gorsaf bws yng Nghastell-nedd. Ac mae'r ystadegau brawychus am adroddiadau o ymosodiadau gwrth-Semitaidd a hiliol yng Nghymru yn arddangos yn glir bod diffyg goddefgarwch ar gynnydd yma. Dysgodd yr Holocost i ni fod gwrthsefyll rhagfarn a senoffobia yn hanfodol.

Mae mudiadau ffoaduriaid yn rhybuddio y bydd Bil Cenedligrwydd a Ffiniau newydd Llywodraeth San Steffan yn tanseilio ein huchelgais yma yng Nghymru i fod yn genedl noddfa i bawb sydd ei angen. Mae gosod pobl mewn categorïau, profi eu cymhwyster trwy eu harchwilio yn gorfforol ac felly rhoi gwerth ar un bywyd uwchben un arall, yn rhywbeth y mae'n rhaid inni addo ar Ddiwrnod Cofio'r Holocost o bob dydd i'w wrthwynebu. Hoffwn ofyn felly a yw'r Gweinidog yn cytuno bod yn rhaid gwneud popeth o fewn gallu'r Llywodraeth i wrthwynebu Bil Cenedligrwydd a Ffiniau y Deyrnas Gyfunol a fydd mor andwyol i'r rhai sy'n ffoi rhag erledigaeth, a pha drafodaeth ydy hi wedi ei chael gyda Llywodraeth San Steffan am y Bil hwn. Sut mae'r Llywodraeth yn sicrhau ein bod yn hyrwyddo ac yn dathlu cyfraniad teuluoedd sydd wedi ymgartrefi yng Nghymru ar ôl ffoi rhag rhagfarn, hiliaeth a thrais, ac a yw'r Llywodraeth yn cytuno i wneud datganiad ar Ddydd Cofio Hil-laddiad yr Arminiaid ym mis Ebrill, er enghraifft, fyddai'n gyrru neges o gefnogaeth ac o gydnabyddiaeth i'r gymuned honno? A pha rôl all y cwricwlwm newydd ei chwarae wrth sicrhau y bydd ein plant yn deall ac yn dysgu o wersi'r gorffennol fel y gallwn, un dydd, weld dyfodol na fydd yn cael ei greithio gan y modd mwyaf erchyll o greulondeb ac yn atal unrhyw genedl rhag cymryd y llwybr sy'n arwain at hil-laddiad? Diolch.