Part of the debate – Senedd Cymru am 6:30 pm ar 26 Ionawr 2022.
Diolch, Ddirprwy Lywydd, ac a gaf fi ddiolch i Russell George am ddod â phrosiect camlas Trefaldwyn i'n sylw ni heddiw? Rwy'n gwybod ei fod wedi bod yn hyrwyddo'r prosiect hwn ers tro, ac unwaith eto mae wedi tynnu sylw at lwyddiannau'r gwirfoddolwyr lleol brwdfrydig niferus sy'n rhoi cymaint o'u hamser, eu hegni a'u sgiliau i brosiect adfer y gamlas, prosiect a fu ar y gweill bellach ers degawdau lawer, fel y clywsom. Mae'n sicr yn llafur cariad ac yn deyrnged i ymrwymiad pawb sy'n gysylltiedig ag ef.
Roedd camlesi ar un adeg yn wythiennau byw'r chwyldro diwydiannol, gan gysylltu chwareli a gwaith diwydiannol â marchnadoedd a phorthladdoedd lle cludwyd cynnyrch o Gymru i ddinasoedd ledled y byd. Heddiw, mae ein camlesi'n parhau i fod yn bwysig i ni fel symbolau o'n treftadaeth ddiwydiannol, ysgogwyr cynhyrchiant economaidd, ac fel mannau lle gall natur ffynnu. Maent hefyd yn ffynonellau hamdden poblogaidd, gan gynnig cyfleoedd i gymunedau gymryd rhan mewn ymarfer corff drwy gerdded, rhedeg a beicio ar hyd y milltiroedd lawer o lwybrau tynnu a adferwyd, yn ogystal â mwynhau gweithgareddau ar y dŵr ei hun.
Fis Tachwedd diwethaf, roeddwn yn falch o'r cyfle i ymweld â thraphont ddŵr a chamlas Pontcysyllte, un o'n pedwar safle treftadaeth y byd, a thra oeddwn yno, dysgais gan y rhai a oedd yn gyfrifol am ei rheoli am y manteision niferus a ddaw yn sgil y gamlas i'r rhanbarth. Mae 12 mlynedd bellach ers i Bontcysyllte gael ei wneud yn safle treftadaeth y byd, ac mae ei boblogrwydd fel cyrchfan i ymwelwyr wedi cynyddu o flwyddyn i flwyddyn i'r pwynt, cyn COVID, pan oedd yn gweld dros 300,000 o ymwelwyr yn ymweld â'r brif draphont ddŵr yn unig. Mae camlas Llangollen ei hun yn un o'r darnau prysuraf o gamlas yn unrhyw le yn y Deyrnas Unedig.
Mae camlas Trefaldwyn hefyd yn chwarae rhan bwysig yn hanes diwydiannol canolbarth Cymru, ac rwy'n falch o weld ei bod yn parhau i chwarae rhan bwysig heddiw. Mae'r gamlas yn rhan o dreftadaeth fyw'r rhanbarth, ynghyd â thrysorau eraill fel rheilffordd fach y Trallwng a Llanfair, castell Powis ac amgueddfa Powysland sy'n rhoi cymeriad unigryw i ganolbarth Cymru, ac sy'n helpu i ddenu miloedd o ymwelwyr bob blwyddyn. Ac er y gallai cerddwr sy'n pasio drwy'r rhanbarth ar lwybr troed enwog Clawdd Offa feddwl am y rhanbarth fel un gwledig yn bennaf, mae'r gamlas a'i cheiau a'i hodynau calch cysylltiedig yn ein hatgoffa mai ychydig o rannau o Gymru sydd heb eu cyffwrdd gan ledaeniad diwydiant yn y gorffennol diweddar.
Mae'r nifer gynyddol o ymwelwyr a defnyddwyr y gamlas yn dangos cymaint o atyniad y gall camlesi hanesyddol fod, oherwydd mae twristiaeth yn rhan bwysig o'r economi ranbarthol, fel y cydnabyddir yn ein fframwaith economaidd rhanbarthol, a gyhoeddwyd y llynedd. Mae sicrhau bod twristiaeth yn gweithio ar lefel leol, tra'n sicrhau y gall Cymru gystadlu ar y llwyfan rhyngwladol, yn elfennau allweddol o'r strategaeth pum mlynedd 'Croeso i Gymru', a gyhoeddwyd ym mis Ionawr 2020. Mae 'Croeso i Gymru' yn gosod y fframwaith ar gyfer tyfu'r economi ymwelwyr, gan ganolbwyntio ar gryfderau Cymru: ei thirweddau, ei diwylliannau a'i lleoedd. Mae'r strategaeth yn tynnu sylw at ddau brif syniad o bro a byd, 'bro' sy'n golygu cymuned leol, ymdeimlad o bwrpas a lle, a 'byd' sy'n golygu lefelau rhyngwladol o ansawdd, safonau ac uchelgais.
Wrth wraidd y polisi twristiaeth mae'r tri maes allweddol sy'n sail i'r holl weithgarwch: cynaliadwyedd, cynwysoldeb a hygyrchedd. Mae cytundeb twf canolbarth Cymru yn cynnwys elfen benodol ar gyfer twristiaeth, lle mae adfer camlas Trefaldwyn yn un o'r prosiectau sydd dan ystyriaeth ar gyfer cyllid, o ganlyniad i'r cais gan bartneriaeth camlas Trefaldwyn, y gwn iddo gael ei gefnogi gan Russell George. Un o'r cyfleoedd penodol a gyflwynir gan y camlesi yw eu bod yn cysylltu lleoedd a phobl a all fod yn gatalyddion ar gyfer partneriaethau cynhyrchiol. Mae twristiaeth yn elwa o gysylltu safleoedd gyda'i gilydd, a gall hefyd fod yn ffordd gynhyrchiol o rannu profiad a sgiliau cadwraeth.
Un yn unig o'r pethau mwy gweladwy sy'n ein hatgoffa o'n treftadaeth ddiwydiannol yw camlesi, ond i'w deall a'u mwynhau'n llawn, mae hefyd yn bwysig ystyried y lleoedd y maent yn eu cysylltu ac yn rhedeg drwyddynt. Ac mae'r gwaith a wnaed yn ddiweddar wrth baratoi cynllun rheoli safle treftadaeth y byd traphont ddŵr a chamlas Pontcysyllte yn pwysleisio pwysigrwydd cysylltiadau a gweithio mewn partneriaeth, ac mae hyn yr un mor bwysig i gamlesi eraill.
Rwy'n falch o glywed bod camlas Trefaldwyn yn elwa o bartneriaeth gref sy'n dwyn ynghyd sefydliadau sydd â diddordebau amrywiol yn y gamlas. Mae Croeso Cymru yn parhau i weithio gyda'r bartneriaeth, gan roi cyngor a chefnogaeth iddynt a hyrwyddo'r gamlas ochr yn ochr ag atyniadau treftadaeth rhanbarthol eraill. Mae Croeso Cymru hefyd wedi darparu cyllid ar gyfer prosiectau i wella llwybrau tynnu a mynediad cyhoeddus.
Rwyf wedi canolbwyntio ar werthoedd treftadaeth y gamlas, ond wrth gwrs mae rhan o'i statws rhyngwladol yn seiliedig ar gadwraeth natur fel ardal cadwraeth arbennig ar gyfer fflora dyfrol, ac rwy'n ymwybodol fod llwyddiant hyn wedi elwa o grant Natura 2000 o bron i £250,000 i sicrhau bod yr adnodd natur pwysig hwn yn cael ei reoli'n barhaus.
Mae hefyd yn bwysig cydnabod a chymeradwyo gwaith y gwirfoddolwyr y soniasom amdanynt yn gynharach. Ers imi ymgymryd â fy rôl fel Dirprwy Weinidog, mae wedi bod yn bleser gennyf gyfarfod â llawer o grwpiau ac unigolion sy'n angerddol ynglŷn â'u treftadaeth ac sy'n gweithio'n ddiflino i warchod a diogelu safleoedd hanesyddol o bob cyfnod a'u rhannu gyda'u cymunedau. Mae gwybodaeth, sgiliau ac angerdd cyfunol grwpiau ac unigolion fel y rhain yn helaeth, nid yn unig o ran eu cyfraniadau at dreftadaeth neu ymchwil hanesyddol, ond o ran yr hyn y maent yn ei ddarparu ar gyfer eu cymunedau. Ceir dealltwriaeth dda o fanteision corfforol a chymdeithasol gweithgarwch corfforol a gwirfoddoli, ac mae prosiectau fel hwn yn dangos sut y mae ein hamgylchedd hanesyddol a'n hasedau treftadaeth yn cynnig cyfleoedd gwych i roi hyn ar waith. Diolch yn fawr iawn.