Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd – Senedd Cymru am 1:32 pm ar 26 Ionawr 2022.
Mae’r seilwaith ar draws sawl man yng ngogledd Cymru wedi’i effeithio gan stormydd diweddar, gan gynnwys y bont y soniwyd amdani eisoes yn Nhremeirchion yn Sir Ddinbych. Mae Newbridge yn Wrecsam yn cael ei grybwyll yn aml ac mae tirlithriad hefyd yn Ffrith yn Sir y Fflint, yr amcangyfrifir ei fod wedi costio £3.8 miliwn. Pan fydd digwyddiadau naturiol o’r fath yn digwydd, maent yn aml yn digwydd heb fawr o rybudd ac yn arwain at ganlyniadau dinistriol iawn, a all fod yn ddrud i un awdurdod lleol eu hatgyweirio. A wnaiff Llywodraeth Cymru ystyried sefydlu cronfa gyfalaf frys ar gyfer atgyweiriadau o’r fath yn dilyn trychineb naturiol?