1. Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd – Senedd Cymru ar 26 Ionawr 2022.
1. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda Chyngor Sir Ddinbych ynghylch atgyweirio seilwaith a ddifrodwyd gan storm Christoph? OQ57516
Diolch, Gareth. Bu Sir Ddinbych yn llwyddiannus gyda'u cais am werth £440,000 o waith atgyweirio asedau llifogydd a draenio o ganlyniad i storm Christoph mewn gwahanol leoliadau. Cafodd y gwaith atgyweirio ar ôl y storm ei ariannu 100 y cant, ac roedd dyfarniad y grant ar gyfer y gwaith yn amodol ar arfarniad technegol, gan sicrhau bod y meini prawf cymhwysedd ar gyfer cyllid llifogydd wedi'u bodloni.
Diolch am eich ateb, Weinidog. Er fy mod yn deall bod prosesau i’w dilyn, y gwir amdani, flwyddyn ar ôl y dinistr, yw bod fy etholwyr yn dal i fod heb gysylltiad ffordd hanfodol rhwng Trefnant a Thremeirchion, ac mae dwy gymuned leol yn parhau i fod wedi'u hynysu oddi wrth ei gilydd i bob pwrpas ac nid oes unrhyw arwydd y daw hynny i ben cyn bo hir, sy'n hynod o rwystredig. Weinidog, a wnewch chi sicrhau bod unrhyw geisiadau am gyllid yn cael eu blaenoriaethu a bod prosesau’n cael eu cyflymu a’ch bod yn gwneud popeth a allwch i sicrhau bod pont hanesyddol Llannerch yn cael ei hadfer cyn gynted â phosibl?
Ie, diolch, Gareth. Rwy'n deall yr anawsterau a achoswyd i'r rhwydwaith ffyrdd lleol, ond cyfrifoldeb yr awdurdod lleol yw cynnal a sicrhau cydnerthedd yr asedau hynny. Nid ydym wedi cael cais am gyllid gan Sir Ddinbych eto mewn perthynas â phont Llannerch. Dyfarnwyd swm o £18,491,000 o’r gronfa ffyrdd cydnerth yn 2021-22 i awdurdodau lleol yng Nghymru ar gyfer gwaith i fynd i’r afael ag effaith tywydd garw ar y rhwydwaith priffyrdd, yn enwedig y rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus, ac roedd hynny’n cynnwys £5.3 miliwn ar gyfer cynlluniau yng ngogledd Cymru.
Mae awdurdodau lleol wedi cael eu gwahodd i wneud cais am arian o’r gronfa ffyrdd cydnerth yn 2022-23 ar gyfer cynlluniau i fynd i’r afael ag effaith tywydd garw ar y rhwydwaith priffyrdd. Felly, yn y bôn, yr ateb byr yw: nid ydym wedi cael cais am gyllid gan y cyngor eto. Rwy’n fwy na pharod, wrth gwrs, i edrych ar hynny cyn gynted ag y gallwn ar ôl inni gael y cais hwnnw. Nid ydym wedi’i gael eto, felly byddwn yn eich annog i gysylltu â’r awdurdod lleol i weld beth yn union sy’n digwydd gyda hynny.
Mae’r seilwaith ar draws sawl man yng ngogledd Cymru wedi’i effeithio gan stormydd diweddar, gan gynnwys y bont y soniwyd amdani eisoes yn Nhremeirchion yn Sir Ddinbych. Mae Newbridge yn Wrecsam yn cael ei grybwyll yn aml ac mae tirlithriad hefyd yn Ffrith yn Sir y Fflint, yr amcangyfrifir ei fod wedi costio £3.8 miliwn. Pan fydd digwyddiadau naturiol o’r fath yn digwydd, maent yn aml yn digwydd heb fawr o rybudd ac yn arwain at ganlyniadau dinistriol iawn, a all fod yn ddrud i un awdurdod lleol eu hatgyweirio. A wnaiff Llywodraeth Cymru ystyried sefydlu cronfa gyfalaf frys ar gyfer atgyweiriadau o’r fath yn dilyn trychineb naturiol?
Wel, Carolyn, y ffordd y mae hynny’n gweithio ar hyn o bryd, yn amlwg, yw ein bod yn dyrannu grant cyfalaf heb ei neilltuo i awdurdodau lleol fel rhan o’u setliad cyllid cyffredinol. Rydym yn ymdrechu’n galed iawn i beidio â neilltuo cyllid yn y ffordd yr awgrymwch, oherwydd yn amlwg, yr hyn a fyddai’n digwydd yw y byddai’n cael ei dynnu oddi ar y grant cyffredinol heb ei neilltuo a’i gadw’n ganolog. Nid ydym o'r farn mai dyna'r ffordd orau o wneud hyn. Mewn gwirionedd, rydym wedi cynorthwyo, fel y dywedais wrth Gareth, awdurdodau lleol gyda bron i £18.5 miliwn mewn atgyweiriadau difrod storm dros y gaeaf diwethaf. Hefyd, o ran refeniw, mae gennym y cynllun cymorth ariannol brys, sef y cyllid refeniw sy'n cael ei ddarparu mewn amodau hinsoddol arbennig o ddifrifol. Felly, mae gennym nifer o gynlluniau ar gael i gynorthwyo gyda refeniw a chyfalaf, ond credaf mai'r awdurdodau lleol fyddai'r cyntaf i ddweud nad oeddent am weld mwy o neilltuo o fewn system grantiau cyfalaf gyfyngedig.