Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd – Senedd Cymru am 1:56 pm ar 26 Ionawr 2022.
Ymddiheuriadau—problemau technolegol. Weinidog, dwi'n clywed adroddiadau bod Cyfoeth Naturiol Cymru yn prynu ffermydd teuluol yng Nghymru er mwyn plannu coed, efo pryderon bod y tir yma felly yn cael ei dynnu allan o dir cynhyrchu bwyd ac yna'r pris, gwerth y tir, yn cynyddu. Mae hyn nid yn unig yn niweidiol i amaethyddiaeth, ond yn golygu bod llai o fwyd yn cael ei gynhyrchu yma. Ydy hyn yn rhan o gynllun coedwigaeth y Llywodraeth, ac a ydych chi'n credu ei fod yn iawn fod Cyfoeth Naturiol Cymru yn prynu tir at y dibenion yma, os mai dyna'r achos? Diolch.